Mae Moodle Y Drindod Dewi Sant yn amgylchedd dysgu rhithwir sy'n cael ei redeg gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl ag y bo mod allu defnyddio Moodle. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o Moodle â bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o Moodle â meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o gynnwys Moodle â darllenydd sgrin

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os bydd gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw Moodle Y Drindod Dewi Sant?

Meddalwedd ffynhonnell agored yw Moodle sydd â thîm datblygu craidd sy'n gweithio'n gyson ar wella'r rhyngwyneb i wneud y gorau o brofiad y defnyddiwr ac mae’r rhan fawr o hyn sy’n ymwneud â hygyrchedd.

Mae datblygwyr Moodle yn dilyn llawer o ganllawiau'r diwydiant gan gynnwys WCAG 2.0 i wneud Moodle mor hygyrch fel a ganlyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn adran hygyrchedd Moodle.

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o Moodle Y Drindod Dewi Sant yn gwbl hygyrch – mae Moodle yn cynnal rhestr o broblemau hygyrchedd hysbys y maent yn ceisio eu datrys ar sail flaenoriaeth barhaus.

Mae cynnwys cwrs Moodle Y Drindod Dewi Sant yn cael ei baratoi a'i ddarparu gan staff addysgu unigol ac yn unol â hynny ni all y Brifysgol warantu bod yr holl gynnwys yn cydymffurfio. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol wedi rhoi Safonau Sylfaenol ADRh ar waith ac mae wrthi'n cyhoeddi Safonau Addysgu a Dysgu sydd wedi'u diweddaru ar gyfer cynnwys Moodle sy'n nodi gofynion manwl ar gyfer cynnwys, gan gynnwys o ran hygyrchedd.

Mae'r Brifysgol yn darparu hyfforddiant ac atgoffa staff yn rheolaidd am bwysigrwydd gweithredu Safonau Sylfaenol ADRh wrth greu cynnwys Moodle. Rydyn ni’n hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar addysgu ar gyfer hygyrchedd, gan gynnwys sut i ddarparu dysgu hygyrch mewn perthynas ag amodau ac anableddau unigol.

Beth i'w wneud os na allwch chi gael mynediad i rannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch am Moodle Y Drindod Dewi Sant mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tiwtor modwl perthnasol i ddechrau.

Ar gyfer ymholiadau a cheisiadau hygyrchedd cyffredinol Moodle Y Drindod Dewi Sant, neu roi gwybod am unrhyw broblemau hygyrchedd nas nodwyd yn y datganiad hwn, cysylltwch â'r tîm Moodle:

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dychwelyd atoch o fewn pum (5) diwrnod gwaith.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Anghydffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Ni allwn warantu bod gan bob delwedd ddewis testun arall, felly nid yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i bobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys nad yw’n destun).

Ni allwn warantu bod yr holl benawdau ar dudalennau wedi'u harddu'n gywir i gynorthwyo pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).

Ni allwn warantu bod pob dolen yn ddisgrifiadol o'u cynnwys a'u cyrchfan. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.9 WCAG 2.1 (cysylltu pwrpas).

Ni allwn warantu y defnyddir penawdau adran ar bob tudalen i drefnu'r cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.10 WCAG 2.1 (penawdau adran).

Mae Moodle yn integreiddio â'r darparwr trydydd parti Turnitin i gefnogi uniondeb academaidd a marcio ar-lein. Nid yw rhai agweddau ar gynnyrch Turnitin yn bodloni WCAG 2.1 ac fe'u hamlinellir yn nhrosolwg hygyrchedd Turnitin.

Baich anghymesur

Mae llawer o'n gweithgareddau rhyngweithiol yn cael eu hadeiladu a'u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti ac wedi eu 'blingo' i edrych fel ein gwefan. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).

Efallai na fydd cynnwys rhyngweithiol a grëwyd gan ddefnyddio H5P sydd wedi'i integreiddio i Moodle yn gwbl hygyrch oherwydd problemau hygyrchedd gyda'r feddalwedd H5P hithau – gweler trosolwg hygyrchedd H5P. Nid ydym yn talu am y feddalwedd hon nac ychwaith unrhyw reolaeth drosti.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chael gwybodaeth, a gydag offer rhyngweithiol a thrafodion. Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur oddi mewn i ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn ni'n parhau i asesu'r sefyllfa hon yn rhan o'n hadolygiad parhaus o Moodle yn amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o'n dogfennau PDFs a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, gwerth rôl).

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Felly nid ydym yn bwriadu newid y PDFs hynny, ond yn rhan o'n gwaith parhaus ar wella hygyrchedd drwy Safonau Sylfaenol Moodle Y Drindod Dewi Sant a Safonau Addysgu a Dysgu, byddwn yn darparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth i staff i gynyddu hygyrchedd dogfennau a gyhoeddwyd ar ôl y dyddiad hwn.

Fideo byw

Does gan ffrydiau fideo byw ddim capsiynau. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.2.4 (penawdau - byw).

Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw ’wedi eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Profi Moodle am hygyrchedd

Rydym yn defnyddio rhestr wirio hygyrchedd i wirio sampl gynrychioliadol o dudalennau â llaw o bob rhan o'n ADRh. Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru cyn gynted ag y bo bydd unrhyw faterion hygyrchedd ychwanegol yn cael eu nodi.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Ar hyn o bryd rydyn ni’n cymryd y camau canlynol i wella hygyrchedd:

  • Mae hygyrchedd yn elfen allweddol o Safonau Sylfaenol ADRh y Brifysgol sydd wedi eu cyhoeddi ac ar gael i'r holl staff. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth rheolaidd ynghyd ag archwiliadau rheolaidd o gydymffurfio o ran Safonau Sylfaenol ADRh, a rhoddir canlyniadau’r rhain i Ddeoniaid yr Athrofeydd.
  • Rydyn ni wedi cyhoeddi canllaw manwl ar ein maes Adnoddau Addysgu a Dysgu i staff ddeall sut i wella hygyrchedd yn eu haddysgu, gan gynnwys canllawiau penodol ar sut i wella hygyrchedd o ran amodau ac anableddau unigol.
  • Mae Moodle 3.10 wedi cael ardystiad ei fod yn cydymffurfio ag AA â WCAG 2.0 – byddwn yn diweddaru Moodle i fersiwn 3.10 ym mis Awst 2021 i sicrhau bod ein ADRh Moodle mor hygyrch ag y bo modd.

Paratowyd y datganiad hwn ar 1Mehefin 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 11 Mawrth 2021.