Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Isdeitlo (Tystysgrif Ôl-raddedig)
Dyma gwrs arloesol a gynigir gan Rhagoriaith, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer darpar isdeitlwyr. Mae’r defnydd cynyddol o ddeunydd clyweledol yn ein bywydau pob dydd wedi arwain at gynnydd enfawr yn y galw am isdeitlo yn y blynyddoedd diwethaf.
Y nod yw cynnig cyfleoedd i ddatblygu, cynnal, cadarnhau a mireinio dealltwriaeth a gwybodaeth yn y maes yn ogystal â sgiliau isdeitlo sy’n hanfodol i lwyddo mewn sefyllfa broffesiynol.
Prif nodweddion y rhaglen:
- cyfle i ennill cymhwyster galwedigaethol sy’n berthnasol i’r gweithle;
- cymhwyster a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â S4C a chwmnïau isdeitlo proffesiynol sy’n cwrdd ag anghenion y diwydiant isdeitlo;
- hyfforddiant mewn grwpiau bychain;
- cyfle i ennill profiad yn y gweithle o dan hyfforddiant.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth SUT I WNEUD CAIS
£2,500
Oes diddordeb gennych mewn ennill cymhwyster mewn Isdeitlo?
5 Rheswm dros astudio Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Isdeitlo:
- Mae hon yn gyfle unigryw i ennill cymhwyster galwedigaethol, proffesiynol ac ymarferol mewn isdeitlo. Mae isdeitlau’n rhan o’n bywyd pob dydd, ar y teledu, yn y siopau, yn y gampfa, yn y swyddfa, mewn cyfarfodydd, yn y theatr. Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae isdeitlo? Beth am ddysgu sgil newydd, isdeitlo ar gyfer y teledu?
- Datblygwyd y cymhwyster unigryw hwn mewn cydweithrediad â chwmnïau cynhyrchu a darlledwyr yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd am fentro i fyd isdeitlo. Cynlluniwyd y Dystysgrif mewn cydweithrediad â S4C a chwmnïau isdeitlo a darlledwyr Bydd y partneriaid allanol yn cyfrannu’n helaeth tuag at y cymhwyster, drwy addysgu a chynnig lleoliadau ar gyfer profiadau gwaith.
- Gallwch ddilyn y cwrs tra’ch bod yn gweithio’n llawn amser – fel hyfforddiant mewn swydd neu ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Yr unig dystysgrif ôl-raddedig cydnabyddedig mewn isdeitlo yng Nghymru.
- Hyfforddiant arbenigol mewn grwpiau bach a chyfle i ennill profiad yn y gweithle.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynlluniwyd y Dystysgrif mewn cydweithrediad â chwmnïau isdeitlo a darlledwyr proffesiynol.
Mae’r cwrs yn ddatblygiad naturiol i unigolion sydd wedi gwneud rhywfaint o gyfieithu ac awydd datblygu eu sgiliau personol, neu unigolion sy’n ystyried datblygu gyrfa yn y maes hwn.
Bydd y partneriaid allanol yn cyfrannu’n helaeth tuag at y cymhwyster, drwy addysgu a chynnig lleoliadau ar gyfer profiadau gwaith. Cymhwyster yw hwn fydd yn cyfuno arferion da a phrofiadau gwerthfawr yn y gweithle gyda sesiynau academaidd ond ymarferol ar Gampws Caerfyrddin.
Cyflwynir amrywiaeth o sgiliau angenrheidiol i’r maes ac ystyrir nodweddion rhaglenni amrywiol, megis cyflymder llefaru, rhannu isdeitlau, defnydd o orchmynion lleisiol, rhythm, ayyb. Ceir hyfforddiant hefyd yn egwyddorion ieithyddol a sgiliau technegol angenrheidiol ar gyfer isdeitlo’n broffesiynol a chiwio’n fyw. Bydd elfen ymarferol y modwl yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y myfyrwyr wrth iddynt roi cynnig ar ymarfer y grefft o isdeitlo o’r newydd dan gyfarwyddyd.
Canolbwyntir ar weithdai ymarferol mewn awyrgylch broffesiynol er mwyn i fyfyrwyr ddeall gofynion isdeitlo. Mae’r rhaglen hon yn cyfuno theori ac ymarfer drwy gynnig dwy ffrwd arbenigol, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar leoliadau gwaith mewn cwmnïau isdeitlo proffesiynol. Datblygir medrusrwydd mewn ystod eang o sgiliau galwedigaethol a throsglwyddadwy gan gynnwys, casglu gwybodaeth , datblygu dyfeisgarwch unigol a rheoli amser, meddwl yn ddadansoddol, y gallu i adnabod problemau a ffyrdd o’u datrys.
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau 60 credyd yn llwyddiannus ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Isdeitlo, sef:
- Hanfodion Isdeitlo (10 credyd; craidd),
- Isdeitlo – Ymarfer ac Ymgyfarwyddo (20 credyd; gorfodol)
- Isdeitlo Byw yn y Gweithle (30 credyd; gorfodol).
Anogir pob myfyriwr i gwblhau’r tri modwl, ond mewn rhai achosion os oes cryn brofiad blaenorol gan y darpar fyfyriwr o isdeitlo, gall y myfyriwr wneud cais i gael ei eithrio o’r modwl cyntaf (Hanfodion Isdeitlo). Y mae pob modwl yn adeiladu ar yr un blaenorol ac oherwydd hynny bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddilyn y modylau’n gronolegol yn y drefn a nodir uchod.
Tystysgrif alwedigaethol, ymarferol yw hon; felly rhoddir y prif bwyslais ar asesu sgiliau ymarferol y myfyrwyr wrth iddynt isdeitlo. Bydd aseiniadau’r myfyrwyr yn cael eu cynnal mewn awyrgylch broffesiynol er mwyn adlewyrchu eu profiadau yn y gweithle.
Yn ogystal, disgwylir i’r myfyrwyr gwblhau gwaith ysgrifenedig adfyfyriol yn deillio o brofiadau ymarferol y modwl.
Bywyd Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
- Siôn Morgan, Cyfatebol
- Gwen Davies
- Sicrheir bod isdeitlwyr profiadol yn cyfrannu at yr hyfforddiant yn ôl y galw.
Fel arfer disgwylir bod darpar fyfyrwyr wedi ennill gradd gyntaf mewn maes perthnasol (e.e. Cymraeg, Saesneg, Ffilm a Chyfryngau) a ddyfarnwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig. Croesewir ceisiadau hefyd oddi wrth fyfyrwyr hŷn nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol. Rhaid i ymgeiswyr fedru ysgrifennu’n safonol yn Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r Dystysgrif yn addas ar gyfer:
- Cyfieithwyr proffesiynol sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau personol er mwyn cynyddu eu gwasanaeth ac ehangu eu marchnad.
- Graddedigion sy’n bwriadu dilyn gyrfa yn y maes.
- Isdeitlwyr proffesiynol sy’n dymuno ennill cymhwyster cydnabyddedig yn y maes a dilyn Rhaglen Datblygiad Parhaus.
- Cyfieithu ar y Pryd (Tystysgrif Ȏl-raddedig)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.