Skip page header and navigation

Actio (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn Amser
64 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Actio wedi’i chynllunio i roi i chi’r sgiliau perfformio, technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n berthnasol i weithio yn y diwydiannau perfformio a chreadigol. Mae’r rhaglen yn ymarferol iawn ac yn ffocysu ar y diwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys datblygiad amrywiaeth o arddulliau perfformio, fel cymeriadaeth wedi’i sgriptio, dyfeisio ac actio ar gyfer y sgrîn. Mae pwyslais cryf hefyd ar gydweithio creadigol ar draws y portffolio Celfyddydau Perfformio.

Mae’r rhaglen yn alwedigaethol ei natur, gan adlewyrchu tueddiadau cyfredol o fewn y diwydiannau creadigol.

Rhoddir ffocws ar feithrin a hyfforddi ymarferwyr proffesiynol a datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r arfer gwaith cyfredol o fewn y diwydiannau creadigol. Caiff hyn ei gyflawni trwy amrywiaeth o fodylau seiliedig ar sgiliau a thrwy weithio gydag ymarferwyr proffesiynol yn y diwydiant trwy gydol y rhaglen.

Byddwch yn datblygu’r gallu i weithio’n annibynnol ac i gyfleu mynegiant personol a dychymyg trwy weithdai ymarferol a phrosesau ystafell ymarfer, gan ddefnyddio sgiliau actio, perfformio, creadigol a gwneud priodol.

Bydd y sgiliau a hyfforddiant a fewnosodir yn y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes perfformio, hunan-gyflogaeth ac entrepreneuriaeth. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy i lawer o feysydd eraill yn y diwydiant, fel cynhyrchu, datblygu cyfryngau a rheoli prosiectau. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol mewn addysgu ac arwain gweithdai.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg


Complete University Guide 2023.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
W410
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
64 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae pob asesiad yn ymarferol, ac wedi’i seilio ar berfformiadau – dim arholiadau na thraethawd hir.
02
Dysgu gan, a chydweithio gydag, ymarferwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm, gan greu cysylltiadau ar hyd y daith.
03
Archwilio gwahanol genres o ysgrifenwyr cyfoes i’r absẃrd a Shakespeare.
04
Gweithio gyda myfyrwyr eraill i greu darnau artistig.
05
Cyfle i astudio dramor yn yr UD.
06
Cytunai 100% o fyfyrwyr Actio’r Drindod Dewi Sant fod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen (BA) Actio yn canolbwyntio ar ddatblygu blociau adeiladu sy’n sylfaen i hyfforddiant unrhyw actor: Symud, Perfformio Cerdd, Addasu ar y pryd ac Actio, yn ogystal â datblygu sgiliau astudio a sgiliau cydweithredol.

Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar y technegau hyn, wrth i ni archwilio’n ymarferol sut caiff y sgiliau hyn eu cymhwyso at wahanol feysydd gwaith, megis perfformio gwaith Shakespeare, dramâu cyfoes ac actio ar sgrin.

Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gymhwyso hyfforddiant at leoliad ymarfer proffesiynol wrth i chi berfformio mewn cynyrchiadau cyhoeddus. Gwnewch ddatblygu eich sgiliau mewn prosiectau ar raddfa fechan, yn ogystal â mewn cynhyrchiad rhyngddisgyblaethol ar raddfa fawr a hefyd mewn cynhyrchiad theatr safle-benodol/stiwdio.

Cael profiad o’r mathau hyn o brosesau, yn ogystal â modwl prosiect Annibynnol, yw eich cyfle chi i archwilio eich llwybr gyrfa penodol, a gwnaiff hyn eich paratoi chi ar gyfer dechrau yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.

Drwy gydol y cwrs, caiff myfyrwyr eu cynorthwyo gan diwtoriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant wrth iddynt ddatblygu eu hyder a’u technegau a meithrin eu creadigedd fel cydweithwyr a pherfformwyr.

Compulsory

Perfformiad Cerddorol

(20 credydau)

Llais a Symud

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Actio

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Byrfyfyrio a Dyfeisio

(20 credydau)

Optional

Prosiect Personol

(20 credydau)

Compulsory

Sgript, Ymarfer a Pherfformio

(20 credydau)

Cynhyrchu Ffilmiau Byr

(20 credydau)

Perfformio Shakespeare

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Optional

Prosiect Personol

(20 credydau)

Astudio Dramor Rhyngwladol

(20 credydau)

Lleoliad Gwaith

(20 credydau)

Arfer Perfformiad Arbenigol

(20 credydau)

Drama a Theatr mewn Addysg

(20 credydau)

Compulsory

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Theatr Safle-benodol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Prosiect Mawr

(30 credydau)

Optional

Prosiect Unigol

(20 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Prosiect Personol

(30 credydau)

Lleoliad Gwaith

(30 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae mynediad yn seiliedig ar deilyngdod unigol a 64 o bwyntiau UCAS. Ar ôl gwneud cais, cewch eich gwahodd gan Reolwr y Rhaglen i glyweliad a chyfweliad ar gyfer y cwrs.

    Y clyweliad:

    Gellir cwblhau hyn naill ai yn bersonol ar y campws neu’n bersonol trwy blatfform fideogynadledda. (e.e. Zoom neu Teams)

    Mae angen i’ch araith clyweliad (un araith) fod tua 2 funud o hyd. Gall fod o unrhyw ddrama theatr o’ch dewis eich hun, ond nid o sgriptiau teledu, ffilm neu theatr gerddorol.

    Y cyfweliad:

    Caiff trefniadau eu gwneud i chi naill ai ymweld â’r campws ar gyfer cyfweliad/gweithdy personol (neu gallwn ni drefnu cyfweliad trwy blatfform fideogynadledda. (e.e. Zoom neu Teams)

    Bydd cynigion ond yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau clyweliad a chyfweliad yn llwyddiannus.

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

    Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Dull Mynediad Uniongyrchol Rhyngwladol yn y Flwyddyn Olaf

    Bydd myfyrwyr sy’n dewis y dull hwn yn astudio’r modwl Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol ar fformat bloc ar ddechrau eu cyfnod astudio.  Byddant yn elwa ar gwnsela a chymorth personol er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau pellach.  Byddant yn astudio’r pum modwl sy’n weddill (pob un ag 20 credyd, lefel 6) gan elwa bob amser ar gael eu hintegreiddio’n llawn â gweithgareddau ehangach y Gyfadran e.e. Wythnos Menter a Diwydiant, cyflwynwyr gwadd, cyfleoedd i ymgymryd â chystadlaethau rheolaeth / yn y diwydiant neu ddatblygu cynlluniau busnes i gychwyn eu mentrau eu hun.

  • Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.

    Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach.  Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol.  Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.