Iechyd Meddwl (Llawn amser) (BSc Anrh)
Trwy gyflwyno’r rhaglen ar benwythnosau a gyda’r nos, mae’r radd BSc Iechyd Meddwl yn cynnig profiad dysgu unigryw i unigolion sydd naill ai’n gweithio ar hyn o bryd yn y maes iechyd meddwl neu sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth ymhellach, neu’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn iechyd meddwl heb unrhyw brofiad blaenorol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cyfunol (ar y campws)
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Lluniwyd y radd BSc Iechyd Meddwl i roi gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o sut a pham mae unigolion yn datblygu anawsterau iechyd meddwl. Mae’r rhaglen, a gyflwynir trwy lwybr dysgu hyblyg gyda sesiynau addysgu ar benwythnosau yn bennaf, yn archwilio sut y gallwn helpu atal, lleihau a chefnogi’r unigolion hyn mewn amrywiol leoliadau unigol a grŵp o fewn maes iechyd meddwl.
Yn ogystal mae’r rhaglen wedi’i strwythuro’n arbennig i gynnwys sgiliau cyflogadwyedd a phroffesiynol cadarn, gan gynnwys ffocws cryf ar waith mewn grwpiau bach, a modwl sy’n cynnig lleoliad gwaith. Mae’r rhaglen wedi’i saernïo i sicrhau datblygiad cydlynol o ran dealltwriaeth ddamcaniaethol, sgiliau ymarferol ac ymchwil, a materion moesegol a phroffesiynol sy’n berthnasol i faes iechyd meddwl a lles.
O fewn amgylchedd cefnogol gall myfyrwyr ddewis cofrestru ar y llwybr gradd BSc llawn neu gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch lefel pedwar, cyn ystyried symud ymlaen i’r Diploma Addysg Uwch neu’r radd lawn.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer gwneir cynigion o 64 pwynt tariff UCAS ar gyfer y rhaglen BSc Iechyd Meddwl.
Mae’r BSc Iechyd Meddwl yn addas ar gyfer ystod eang o fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr â chymwysterau Safon Uwch a Mynediad sy’n dymuno ymuno â’r sector, a hefyd gyn weithwyr a gweithwyr cyfredol a fyddai naill ai’n dymuno ffurfioli eu profiad yn gymhwyster neu symud ymlaen yn eu dewis faes.
Mae’n bosibl na fydd angen pwyntiau UCAS ar fyfyrwyr â phrofiad, ond rhaid dangos profiad a chymwyseddau perthnasol i ymgymryd â chymhwyster ar lefel addysg uwch.
-
Lluniwyd asesiadau’r rhaglen i alluogi myfyrwyr i ddangos ystod o sgiliau a gwybodaeth, gan gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder academaidd. Bydd asesiadau enghreifftiol yn cynnwys cyflwyniadau, taflenni hybu iechyd, llenyddiaeth sy’n codi ymwybyddiaeth, traethodau traddodiadol, portffolios a phrosiectau ymchwil cymhwysol.
Mae’n amlwg mai nod y gweithdrefnau asesu yw cefnogi ac asesu cynnydd y myfyrwyr.
-
Efallai bydd rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd perthnasol a gwybodaeth bwnc-benodol ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth a gyrfa ym maes eang darparu gwasanaeth gofal iechyd.
Yn sgil y ffaith mai’r GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru a’r sylw a roddir i Iechyd Meddwl ar Agenda Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog, gall y rhaglen hon helpu nid yn unig i ddatblygu casgliad cryf o sgiliau cyflogadwyedd a all helpu unigolion i ymuno ag ystod o broffesiynau yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond hefyd ddarparu cyfle deniadol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y meysydd proffesiynol hyn.