Skip page header and navigation

Seicoleg a Chwnsela (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Bydd y rhaglen Seicoleg a Chwnsela yn rhoi i chi’r cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion damcaniaethol, ymarferol a chysyniadol o fewn disgyblaethau Seicoleg a Chwnsela. Nod y rhaglen hon yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ddilyn gradd wedi’i hachredu gan y BPS sy’n cyfuno dau faes pwnc poblogaidd seicoleg a cwnsela.

Yn draddodiadol, mae’r ddadl academaidd fywiog sy’n gwthio’r ffiniau rhwng dwy ddisgyblaeth seicoleg a chwnsela ynglŷn â natur ymddygiad dynol a gwahanol ddulliau therapiwtig wedi symbylu gwerthfawrogiad o gymryd safbwynt, tystiolaeth empirig a hunan-adfyfyrio.

Ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu sgiliau cwnsela a chael profiad o’r gweithle, bydd y cyfleusterau seicoleg a chwnsela pwrpasol a’r awyrgylch positif yn cynnig profiad dysgu cyffrous i fyfyrwyr a gyfoethogir ymhellach drwy fod â thîm o ddarlithwyr ymchwil-weithredol a seiliedig ar ymarferwyr sy’n gweithio’n agos gyda’i gilydd, yn ogystal â gyda’r myfyrwyr eu hunain.

Nod y rhaglen yw eich helpu i gynhyrchu dealltwriaeth wyddonol o’r meddwl, yr ymennydd, ymddygiad a phrofiad, a sut maent yn rhyngweithio gyda’r amgylcheddau cymhleth y maent yn bodoli ynddynt.

Nod arall yw datblygu gwybodaeth am gwnsela fel swyddogaeth gymdeithasol a gyfryngir gan gyd-destunau unigol, cymdeithasol a byd-eang.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
BC99
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
The British Psychological Society

Pam dewis y cwrs hwn

01
Labordai Seicoleg newydd sy’n annog sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau ac ymchwilio.
02
Datblygu dealltwriaeth o ystod o sgiliau cwnsela a rhyngbersonol a werthfawrogir gan lawer o gyflogwyr a chyrsiau ôl-raddedig.
03
Cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen Seicoleg a Chwnsela yn cael ei ddatblygu ar gampws SA1 Glannau Abertawe.  Wedi’i leoli yn yr Athrofa, YDDS, bydd y rhaglen anrhydedd sengl BSc Seicoleg a Chwnsela yn rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion damcaniaethol, ymarferol a chysyniadol yn nisgyblaethau Seicoleg a Chwnsela.  

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddilyn gradd a achredir gan y BPS drwy gyfuno dau faes pwnc poblogaidd, sef Cwnsela a Seicoleg, a bydd yn rhoi i fyfyrwyr set cryf o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol neu ddatrys problemau, yn ogystal â llawer o sgiliau trosglwyddadwy eraill a ystyrir yn werthfawr gan lawer o gyflogwyr a chyrsiau ôl-raddedig.  

Bydd myfyrwyr yn cwblhau 120 o gredydau y flwyddyn ar eu rhaglen, a fydd yn cynnwys 80 credyd o fodylau seicoleg gorfodol ym mlwyddyn un a dau ochr yn ochr â 40 credyd o theori cwnsela a modylau seiliedig ar sgiliau ar y ddwy lefel.  Yn y flwyddyn olaf, ochr yn ochr â’r prosiect empirig Seicoleg 40 credyd gorfodol a’r modwl Sgiliau Cwnsela Ymatblyg 20 credyd, bydd gan fyfyrwyr sy’n astudio ar y rhaglen Seicoleg a Chwnsela y cyfle i deilwra ffocws eu gradd trwy ddetholiad o fodylau dewisol yn y flwyddyn olaf ym meysydd arbenigol ymchwil ac arbenigedd ymarferydd yn y modylau sy’n cwmpasu seicoleg iechyd, seicoleg gymdeithasol, seicoleg glinigol, seicoleg wybyddol, neu iechyd meddwl.

Gorfodol 

Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela

(20 credyd; gorfodol)

Dulliau Ymchwil I

(20 credyd; craidd)

Hanes Cwnsela

(20 credyd; gorfodol)

Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg

(20 credyd)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credyd)

Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Gorfodol 

Dulliau Ymchwil II

(20 credyd; craidd)

Yr Ymennydd, Bioleg a Gwybyddiaeth

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Gymdeithasol a Diwylliannol

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Datblygiad a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Damcaniaeth a Dulliau Cwnsela

(20 credyd; gorfodol)

Sgiliau Cwnsela Pellach

(20 credyd; gorfodol)

Gorfodol 

Prosiect Empirig Seicoleg

(40 credydau)

Sgiliau Cwnsela Adweithiol

(20 credyd; gorfodol)

Dewisol

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credyd)

Niwrowyddoniaeth Biolegol a Gwybyddol

(20 credyd; dewisol)

Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc

(20 credyd; dewisol)

Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau Gwybyddol Newydd

(20 credyd; dewisol)

Gwybodaeth a Hunaniaeth Gymdeithasol

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credyd; dewisol)

Gwybyddiaeth ar Waith

(20 credyd; dewisol)

Ecoseicoleg

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg, Iechyd a Salwch

(20 credyd; dewisol)

Seicopatholeg ac Iechyd Meddwl

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg Addysg a Heneiddio

(20 credyd; dewisol)

Moeseg, Gwerthoedd, a’r Hunan Proffesiynol

(20 credyd; dewisol)

Mae pob myfyriwr yn dewis tri o’r deuddeg modwl dewisol ym Mlwyddyn Tri (Lefel 6). 

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gwneir cynigion nodweddiadol o 88 pwynt tariff ar gyfer y rhaglen BSc Seicoleg a Chwnsela. Nid oes disgwyliad y bydd ymgeiswyr wedi astudio seicoleg at Safon Uwch ac, er y byddent fel arfer wedi astudio gwyddor (gymdeithasol) at Safon Uwch, croesewir myfyrwyr â chymysgedd o bynciau ar draws y sbectrwm Safon Uwch.

    Mae’r rhaglen hon hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr mynediad annhraddodiadol sydd wedi cael seibiant o addysg, a’r rheiny sy’n dymuno symud i faes gwyddor gymdeithasol neu ddisgyblaethau gofal, yn ogystal ag ymgeiswyr rhyngwladol (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg).

    Yma yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar annog myfyrwyr mynediad ansafonol sydd â sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd i ymuno â’n cwrs. Mae cymorth ychwanegol gyda sgiliau astudio bob amser ar gael ar gyfer unrhyw fyfyrwyr sydd angen hyfforddiant un i un. Mae natur yr asesiadau a’r adborth yn y flwyddyn gyntaf yn rhoi digon o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu hyder a’u harddull academaidd.

    Mae’r rhaglen yn darparu cyfle i fyfyrwyr sy’n graddio ag o leiaf gradd anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) i fynd ymlaen i hyfforddiant a chymwysterau ôl-raddedig BPS, a phortffolio ehangach cymwysterau Sgiliau Cwnsela ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn y ganolfan yn darparu cyfle pellach ar gyfer datblygu proffesiynol.

  • Bydd y rhaglen hon yn cynnig ystod o ddulliau asesu traddodiadol ac arloesol i roi’r cyfle ichi ymestyn eich sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog eich dysgu annibynnol. Bydd y rhain yn cynnwys asesiadau o sgiliau ymarferol,  traethodau ac arholiadau academaidd, cyflwyniadau unigol a grŵp, adroddiadau ymchwil ac astudiaethau achos.

  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.

    Rhaid i fyfyrwyr gael 20 awr o brofiad ar leoliad gwirfoddol drwy gydol yr ail flwyddyn, ac efallai y bydd angen DBS ar gyfer hyn (gweler uchod). Bydd y lleoliad hwn hefyd yn galw am gostau teithio a lluniaeth y bydd rhaid i’r myfyriwr eu talu.

    Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd neu Lundain. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

    Mynychu Cynhadledd Myfyrwyr BPS (Dewisol) £100.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r llwybr ôl-raddedig yn amlweddog ac ni fydd pob un o’r graddedigion yn dewis dilyn cymwysterau mewn Seicoleg neu Gwnsela.  Mae strwythur, natur a chynnwys y rhaglenni cydanrhydedd unigryw hon yn caniatáu i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau dadansoddol a throsglwyddadwy cryf a groesawir gan nifer o sectorau yn cynnwys Addysg, Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a’r galwedigaethau cysylltiedig, Busnes ac AD.  Mae gan lawer o’n myfyrwyr mynediad ansafonol yrfa proffesiynol yn barod (mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys nyrsio, ffisiotherapi a gyrfaoedd mewn iechyd meddwl) ac yn defnyddio eu gradd i ddatblygu eu gyrfa ymhellach.

    Mae myfyrwyr sy’n graddio ag o leiaf anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) yn gymwys am Sail Raddedig Aelodaeth Siartredig (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain. Dynoda hyn fod myfyrwyr wedi bodloni’r gofynion cwricwlwm sy’n deillio o ddatganiad meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2007) ar gyfer Seicoleg, ac yn aml mae’n rhagofyniad pwysig ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno mynd yn eu blaenau i ddilyn astudiaeth neu hyfforddiant ôl-raddedig mewn seicoleg.

    Dros y pum mlynedd diwethaf mae cyfran uchel o fyfyrwyr y rhaglen wedi graddio gydag anrhydedd 2:1 ac uwch ac wedi mynd ymlaen i hyfforddiant ôl-raddedig pellach ar gyrsiau ôl-raddedig a achredir gan y BPS (y llwybrau poblogaidd yw’r Meistr mewn Seicoleg Glinigol/Annormal, Seicoleg Alwedigaethol a Seicoleg Iechyd), yn ogystal â dilyn cymhwyster Meistr ar yr MSc mewn Seicoleg Gymdeithasol ac Iechyd a gynigir yn YDDS.

    Hefyd, mae nifer gynyddol o fyfyrwyr yn dewis dilyn hyfforddiant cwnsela ôl-raddedig seiliedig ar arfer ar lefel ôl-raddedig neu feistr trwy’r portffolio ôl-raddedig a gynigir yn YDDS, ac mae nifer o fyfyrwyr yn aros gyda ni i hyfforddi am gymhwyster ar y rhaglen MA Arfer Seicotherapiwtig: Dyngarol.

Mwy o gyrsiau Psychology and Counselling

Chwiliwch am gyrsiau