Skip page header and navigation

Ymgollwch yng Ngwynfyd Gwledig Llambed

Crwydrwch trwy’r Dref

Mae tref farchnad hanesyddol Llanbedr Pont Steffan (Llambed) yn ganolfan fasnachol brysur. Ewch am dro i siopau a bwytai annibynnol y dref, neu i’r farchnad ffermwyr sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch lleol.  

Mae’r dref yn adnabyddus am ei amrywiaeth o gaffis a delis, gan gynnwys TownHall, Granny’s Kitchen, a The Mustard Seed i enwi ond rhai. Mae caffi llysieuol hefyd, Mulberry Bush Wholefoods, a sefydlwyd yn ôl yn 1974. 

Cadwch yn Heini

student cycling through woods on path at Lampeter campus

Cadwch yn Heini

Gadewch y campws i weld beth sydd gan Geredigion, un o siroedd harddaf Cymru, i’w gynnig.  

Mae Llambed yn ganolbwynt rhwydwaith o lwybrau cerdded gwledig. Gallwch ymweld â Llyn Falcondale, Castell Oes yr Haearn Allt Goch, neu un o’r bryngaerau cyfagos. Yng Nghoedwig Gymunedol Long Wood mae 4km o lwybrau troed a 10km o lwybrau ceffyl ar agor i’r cyhoedd.    

Peidiwch ag anghofio y byddwch yn cael mynediad i’n Academi Chwaraeon traws-gampws hefyd! 

Bywyd ar y Campws

Bywyd ar y Campws

Os ydych awydd diwrnod gartref, mae digonedd i’w wneud ar Gampws Llambed. Beth am fynd am dro ar hyd ein llwybr llesiant, neu ddefnyddio’r gampfa, neu’r neuadd chwaraeon, a chwrdd â ffrindiau ym mar undeb y myfyrwyr neu mewn clwb nos?  

Os ydych chi’n llwglyd, ewch i’r ffreutur i gael cinio neu am baned a chacen yn 1822. Mwynhewch bicnic neu farbeciw yn y ddôl, darllenwch lyfr yn y llyfrgell, neu ewch am gêm o D&D yn Llyfrgell y Sylfaenwyr.

Ymunwch â Chymdeithas

Mae’r Gymdeithas Ganoloesol yn grŵp sy’n ail-greu digwyddiadau’r 12fed Ganrif. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymladd ag arfau canoloesol, defnyddio bwa a saeth, neu gymryd rhan mewn nifer o grefftau canoloesol, dyma’r gymdeithas i chi.  

Mae aelodau’n clwb ffensio yn gymysgedd dda o’r profiadol a’r di-brofiad, ac mae croeso mawr i’r rhai sy’n newydd i’r gamp.  

Gemau! Os oes gennych ddiddordeb mewn gemau bwrdd, gemau chwarae rôl, neu gemau rhyfel, dyma’r gymdeithas i chi.

Have a Great Night Out

Canol tref Llambed

Ewch am Noson Allan Wych

Mwynhewch fywyd cymdeithasol Llambed yn un o dafarndai annibynnol y stryd fawr, yng nghlwb nos Minds Eye, ac ym mar a chlwb undeb y myfyrwyr! 

Ymhellach i Ffwrdd…

Mae safleoedd hanesyddol, bryngaerau a chestyll yn amgylchynu Llambed, ac mae arfordir anhygoel Bae Ceredigion, gyda’i draethau glân a thawel, dafliad carreg i ffwrdd, yn ogystal ag Aberaeron, un o drefi arfordirol mwyaf lliwgar Cymru.  

Dysgwch am hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd ond 15 munud i ffwrdd mewn car, ewch i Ganolfan Cwiltiau Cymru yn hen Neuadd y Dref Llambed i weld eu casgliad byd-enwog o gwiltiau Cymreig,  neu ewch am dro i safle Abaty Ystrad Fflur Cadw, lle gallech ymuno â chloddfa archeolegol.

Diwrnod Agored

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.