Mae cerdded i’n campws yn ffordd dda o gadw’n iach ac mae hefyd yn arbed arian ac yn lleihau’ch ôl troed carbon. Cerdded
Cewch ddefnyddio Cynlluniwr Taith Traveline Cymru i'ch helpu cynllunio’ch taith.
Gellir cyrraedd ein campws yn Llambed yn hawdd o Lwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac mae digon o lefydd i chi gloi’ch beic ar y campws.
Os ydych chi'n gyrru i gampws Llanbedr Pont Steffan, y cod post yw SA48 7ED.
Parcio
Parcio i Ymwelwyr
Mae gan ein campysau ni gysylltiadau gwych o ran cludiant cyhoeddus. Gweler yr adrannau Bws, Trên a Beic uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd ein campws trwy gludiant cyhoeddus.
Parthau Parcio
Er mwyn sicrhau ateb ymarferol o ran rheoli parcio, mae’r lleoedd ar y campws wedi eu rhannu’n barthau, fel y gwelir ar y Mapiau Parcio Llambed
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Adrannau a ddynodwyd i’r staff
- Meysydd a ddynodwyd ar gyfer deiliaid bathodyn glas (wedi eu marcio yn y meysydd parcio)
- Adrannau cyffredin i’r staff ac ymwelwyr
- Adrannau dynodedig ar gyfer myfyrwyr preswyl (parcio'n ddi-dâl)
- Adrannau parcio diwrnod dynodedig (di-breswyl) i fyfyrwyr (parcio'n ddi-dâl)
Mae bysiau rheolaidd yn teithio i Lambed o nifer o drefi a dinasoedd;
Aberystwyth (Traws Cymru T1, Service 585, Service 588)
Caerdydd (Traws Cymru T1C)
Abertawe (Traws Cymru T1C)
Llanymddyfri (Service 288/289)
Caerfyrddin (Traws Cymru T1)
Llundain (Megabus)
Y gorsafoedd trenau agosaf at ein campws yn Llambed yw;
Caerfyrddin – trenau rheolaidd yn rhedeg o'r rhan fwyaf o’r prif ddinasoedd a threfi; Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Hwlffordd, Doc Penfro.
Aberystwyth – trenau rheolaidd yn rhedeg o Birmingham a’r Amwythig.
O Gaerfyrddin ac Aberystwyth cewch ddal un o’r bysiau rheolaidd sy’n rhedeg i Lambed. Gellir dod o hyd i fanylion am wasanaethau bws o dan yr adran ‘Bws’ uchod.
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn awr o gampysau Abertawe, neu mae'r bws T9 yn teithio rhwng y Maes Awyr a Chaerdydd bob 20 munud ac ac oddi yno gallwch chi ddal y bws T1C i Lanbedr Pont Steffan.
Mae’r Megabus yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng meysydd awyr rhyngwladol Llundain a Llambed.
Map Campws Llambed
Cewch edrych ar y map ar-lein neu lawrlwytho’r PDF.