Llety ar Gampws Abertawe
Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra yn y brifysgol, mae'n debyg mai llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo'n ddifeth o ddewis.
Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Am arweiniad a chymorth cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio llety@pcydds.ac.uk
Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.
Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:
- Pecynnau Dillad Gwely
- Pecynnau Cegin
- Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
- Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
- Offer Trydanol
- Ategolion a llawer iawn mwy!
Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.
Porwch drwy eu cynigion ar-lein heddiw
Cysylltwch â'n Tîm Llety os oes angen mwy o wybodaeth arnoch