Llety ar Gampws Caerfyrddin
Mae holl lety Y PCYDDS yng Nghaerfyrddin i’w gael ar y prif gampws.
Gallwn ddarparu llety ar gyfer myfyrwyr cyntaf, ail, trydydd flwyddyn a myfyrwyr ôl-raddedig yn ein llety arlwyo a hunan ddarpar.
- Mae ein campws yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa ar awyrgylch cymunedol clos ac mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden ardderchog ar y safle.
- Mae campws y Brifysgol i’r gorllewin i dref sirol Caerfyrddin, ac mae'n hawdd ei gyrraedd, â’r M4 wrth law, rheilffordd prif linell yng Nghaerfyrddin a maes awyr rhyngwladol taith awr i ffwrdd, yng Nghaerdydd.
- Gallwn gynnig llety i fyfyrwyr mewn ystafelloedd gwely sengl en-suite.
Myfyrwyr Anabl
Gellir gwneud trefniadau lle bo modd i ddarparu ar gyfer ceisiadau unigol gan fyfyrwyr sy'n ymwneud ag anabledd.
Os oes gennych chi ofynion arbennig, trafodwch y rhain gydag un o Gynghorwyr Anabledd y Brifysgol. Byddant yn gallu trafod unrhyw ofynion cymorth sydd gennych.
Elliott – Addysg Antur Agored (BA)
"Hoffwn ddweud diolch am ddarparu llety rhagorol i mi fel myfyriwr a gwasanaeth gwych gennych chi'ch hun a'r holl staff."
Rhiant – Myfyriwr Rhyngwladol, Celfyddydau Perfformio
"Rwyf am ddiolch i chi a gweddill staff PCYDDS am yr holl gymorth a chefnogaeth a roesoch i'r myfyrwyr nad oeddent yn gallu adleoli o lety'r campws yn ystod y sefyllfa coronafirws!
Diolch eto am eich holl help! Mae Dafydd wedi cael profiad cadarnhaol iawn yn y Drindod eleni er gwaethaf y newidiadau a’r heriau a ddaeth yn sgil y firws, ac mae wedi bod yn rhyddhad mawr inni wybod bod Dafydd wedi bod yn ddiogel ac wedi cael cefnogaeth".
Bydd myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cael cynnig llety yn y llety hunanarlwyo yn Archesgob Noakes. Mae pob fflat yn cynnwys 8 ystafell sengl ynghyd â chegin a lolfa a rennir.
- Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am gael eu lleoli mewn fflat gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
- Mae cyfnod y drwydded am 37 wythnos yn rhedeg rhwng 23 Medi 2023 a 8 Mehefin 2024.
- Ni ofynnir i chi adael ystafelloedd yn ystod gwyliau'r Nadolig a'r Pasg
- Bydd dewis o ystafelloedd, sef ein hystafelloedd presennol gyda gwelyau sengl neu'r ystafelloedd arddull newydd gyda gwelyau pedair troedfedd.
Gallwch wneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig 'Amodol' neu 'Ddiamod' gan y Brifysgol.
Os mai eich ail ddewis yw PCYDDS, ni ddylid gwneud ceisiadau tan ar ôl canlyniadau arholiadau ym mis Awst.
Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn agor yn ystod mis Mawrth.
Byddwn yn parhau i darparu contractau hyblyg i alinio â'ch astudiaethau, ac i chi allu aros gyda ni pan fydd angen. Os hoffech chi ddod i gytundeb hyblyg neu gael unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Llety.
Gall myfyrwyr sy'n dychwelyd wneud cais am lety, ond ni ddyrennir ystafelloedd iddynt oni bai bod yr holl ffioedd llety i'r Brifysgol yn cael eu talu.
Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn agor yn ystod mis Mawrth.
P'un a ydych chi'n byw yn agos at y Brifysgol neu'n dod o ymhellach i ffwrdd, mae neuaddau preswyl y Brifysgol yn opsiwn i chi.
Dyrennir ystafelloedd ar sail y cyntaf i'r felin i fyfyrwyr sy'n chwilio am lety am flwyddyn academaidd lawn, bydd cyflyrau meddygol sy'n cael eu datgelu i'r Adran Llety yn cael eu hystyried.
Bydd unrhyw ofynion eraill yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau'r broses ddyrannu cychwynnol.
Bydd myfyriwr yn gallu ymgeisio am le mewn neuaddau Prifysgol cyn belled â'u bod yn cael cynnig Amodol neu Ddiamod o'r Brifysgol.
Os yw'r Brifysgol yn eich ail ddewis, ni ddylid gwneud ceisiadau tan ar ôl canlyniadau arholiadau ym mis Awst.
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r uchod, cysylltwch â'n Tîm Llety.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n derbyn cynnig llety yn neuaddau preswyl y Prifysgolion gydymffurfio â'r Telerau ac Amodau fel y'u nodir gan y Brifysgol. Ceir copi ohono isod.
Atgoffir myfyrwyr i gyfeirio at y Telerau ac Amodau trwy gydol cyfnod y contract.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r rheoliadau ar gyfer Myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl at y.
Cwynion
-
Os yw’r Preswylydd yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan y Brifysgol neu â’r camau a gymerwyd gan y Brifysgol ynghylch y Cytundeb a/neu os yw’r Preswylydd yn ystyried bod y Brifysgol wedi torri ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, yn y lle cyntaf, rhaid cyfeirio unrhyw gŵyn at yr Adran Llety i ymchwilio iddi.
-
Os na fydd eich cwyn wedi ei datrys o hyd, mae’n bosibl rhoi gwybod am hyn trwy'r Gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd, Cwynion ac Achosion Eraill Myfyrwyr a geir yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd neu ar wefan y Brifysgol. Lle bydd angen i chi lenwi Ffurflen GA5 ar gyfer Cwyn Ffurfiol.
-
Rhaid derbyn cwynion ffurfiol heb fod yn fwy na 1 mis ar ôl i'r weithdrefn anffurfiol ddod i ben (lle bo'n briodol) a dim mwy na 6 mis ar ôl i'r prif fater y cwynir amdano ddigwydd. Ystyrir bod cwynion ffurfiol a dderbynnir ar ôl y dyddiadau cau hyn yn ddi-amser ac efallai na fyddant yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol i ddangos rhesymau cryf dros pam na chodwyd y gŵyn ffurfiol yn brydlon.
Cofrestrwch nawr i gadarnhau eich yswiriant
Cyn cyrraedd, treuliwch ychydig funudau yn cadarnhau eich yswiriant drwy gofrestru gyda My Endsleigh.
Mae’n hawdd tanamcangyfrif gwerth eich eiddo, ac nid dim ond sôn am eich gliniadur a’ch ffôn yr ydym. Gall eitemau fel eich dillad, sychwyr gwallt a theclynnau llai eraill, fel Fitbits ac oriorau i gyd adio i fyny.
Y newyddion gwych yw ein bod yn cynnwys yswiriant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n byw gyda ni, drwy bartneriaeth ag Endsleigh, darparwr yswiriant myfyrwyr gorau.
Esboniad o yswiriant myfyrwyr
Cofrestrwch a gallech chi ennill!
Fel anrheg croesawu, mae Endsleigh yn rhoi £100 yr wythnos am flwyddyn i un myfyriwr lwcus a byddwch hefyd yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn y raffl pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer My Endsleigh, isod:
Beth yw My Endsleigh?
Mae My Endsleigh yn faes cyfrif personol ar gyfer eich polisi yswiriant. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch gadarnhau'r yswiriant cynnwys a drefnwyd gennym ni, yna cyrchu eich manylion yswiriant a'ch dogfennau polisi ar unwaith, yn ogystal â chysylltu â'r tîm hawliadau unrhyw bryd.
Mae hefyd yn llawn dop o gynhyrchion a gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu chi drwy'ch blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, gan gynnwys:
- My Uni – canllawiau dinas myfyrwyr – popeth sydd angen i chi ei wybod am eich tref newydd yn y Brifysgol. O'r bwytai mwyaf poblogaidd i'r bywyd nos gorau, mewn un lle
- Cynhyrchion yswiriant sy’n addas i fyfyrwyr fel teclyn, modur a beic
- Cefnogaeth Lles 24 awr
Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.
Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:
- Pecynnau Dillad Gwely
- Pecynnau Cegin
- Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
- Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
- Offer Trydanol
- Ategolion a llawer iawn mwy!
Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.
Porwch drwy eu cynigion ar-lein heddiw
Beth fydd ar gael i mi yn fy ystafell?
Mae holl ystafelloedd neuaddau preswyl yn llawn celfi, sy’n cynnwys gwely a matres, desg a chadair, basn golchi dwylo, drych, wardrob, silffoedd a cabinet ochr y gwely. - Bydd rhaid ichi lenwi rhestren ar gyfer yr ystafell pan fyddwch yn cyrraedd.
Oes angen trwydded deledu arna’i?
Mae gwybodaeth ar gael oddi wrth TV Licensing
Oes yna gyswllt â’r rhyngrwyd yn fy ystafell?
Bydd gan bob ystafell wely mewn neuadd breswyl fynediad at gyswllt rhyngrwyd diwifr rhad ac am ddim.
Oes angen i mi drefnu yswiriant ar gyfer fy eiddo?
Mae yswiriant eiddo myfyrwyr wedi’i ddarparu drwy Endsleigh ar gyfer pob myfyriwr sy’n byw yn ein neuaddau preswyl. Mae hyn yn cwmpasu ystod o eiddo y tu fewn i’ch ystafell, gan gynnwys gliniaduron, offer chwaraeon a thrydanol, dillad a bwyd wedi’i rewi. Mae’r Brifysgol wedi trefnu hyn heb unrhyw gost ychwanegol i’r myfyrwyr. Os hoffech wirio beth sydd wedi’i gynnwys yn yr yswiriant, edrychwch ar y dystysgrif yswiriant yn adran Endsleigh Insurance uchod.
Beth sydd arna’i angen dod gyda fi?
Mae’n rhaid i fyfyrwyr ddod â’u dillad gwely, tywelion, cambrenni cot, offer coginio (yn cynnwys cyllyll a ffyrc a llestri), cynnyrch glanhau a golchi, cadachau golchi llestri, llieiniau sychu llestri, bwyd ayyb. Byddwn yn anfon rhestr o eitemau rydym yn eu hargymell mewn neges e-bost cyn ichi gyrraedd y campws.
Oes yna wasanaeth bws?
Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg rhwng y safleoedd a'r dref. Bydd amserlenni bws yn cael eu rhoi i fyfyrwyr pan fyddant yn cyrraedd y neuaddau preswyl.
A ddylwn i osgoi dod ag unrhyw eitemau gyda fi?
Ymhlith yr eitemau nad ydym yn eu caniatáu mae: canhwyllau, ffyn arogldarth, goleuadau tylwyth teg, ffriwr sglodion, anifeiliaid anwes yn cynnwys pysgod aur, darnau mawr o ddodrefn neu offer am resymau Iechyd a Diogelwch a Rhesymau Diogelwch Tân.
Ga'i ddod â fy nghar gyda fi?
Rhaid i fyfyrwyr preswyl forestru eu ceir ar neu cyn y Diwrnod Cofrestru. Rhaid talu unrhyw ffioedd parcio sy’n ddyledus cyn neu ar ddiwrnod cofrestru. Cyfeiriwch at y Canllaw i Fyw yn Preswyl am ragor o fanylion am drefniadau parcio.
Mae’r Brifysol yn cadw’r hawl i beidio â darparu cyfleusterau parcio i fyfyrwyr preswyl, neu i ddarparu cyfleusterau oddi ar y campws ar gyfer parcio i fyfyrwyr preswyl. Gellir neilltuo parthau parcio i fyfyrwyr preswyl y ôl y gyfleusterau parcio ceir gan fyfyrwyr sydd yn torri rheoliadau parcio ceir yn barhaous.
Pa gyfleusterau golchi dillad sydd ar gael?
Mae peiriannau golchi dillad a sychwyr yw gael rhwng blociau 1 a 2 Archesgob Noakes a Blociau 3 a 4 Archesgob Noakes yn ogystal ag ar lawr gwaelod y Tŵr.
Pwy sy’n gyfrifol am lanhau?
Mae pob myfyriwr sy’n byw mewn neuadd breswyl yn gyfrifol am gadw’r llety’n dwt ac yn daclus. Bydd tîm o lanhawyr (dynion a merched) yn dod i mewn i’r neuaddau a arlwyir bob dydd (Llun i Gwener) rhwng 8yb a 12yh i lanhau’r ystafelloedd ymolchi, ceginau a choridorau. Sylwch nad ydynt yn golchi llestri. Disgwylir i fyfyrwyr lanhau eu hystafelloedd eu hunain.
O ble y gallaf gasglu fy mhost?
Gallwch gasglu llythyrau o'r Caban Diogewlch, sydd yn nhu cefn Adeilad Dewi, rhwng yr amseroedd a ganlyn:
- Hanner dydd i 1.00yh
- 4.30yh i 5.30yh
- 9.00yh i 10.00yh
Ga'i aros ar y campws yn ystod y gwyliau?
Mae eich cytundeb trwydded yn cynnwys defnyddio’ch ystafell am 38 wythnos, sy’n cynnwys gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.
Cysylltwch â'n Tîm Llety os oes angen mwy o wybodaeth arnoch
Mae’r Brifysgol yn dilyn Canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â COVID-19 ar gyfer Cadw Cymru’n Ddiogel:
- Ceisiwch gael y ddau bigiad a'r pigiad atgyfnerthu
- Mae tu allan yn fwy diogel na bod tu fewn
- Os oes gennych symptomau, arhoswch gartref a pheidiwch a dod mewn cysylltiad â phobl arall
- Gwisgwch orchudd wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd a lleoedd dan do sy'n orlawn
Am ragor o gyngor a chymorth ewch ar y deilsen ar y neu Wefan Llywodraeth Cymru.