Mannequin House

Wedi’i leoli yng nghanol Dwyrain Llundain yn Walthamstow, mae Mannequin House yn cynnig profiad byw go iawn o fyw yn Llundain. Ers i’r eiddo agor yn 2017, mae wedi bod yn gartref i fyfyrwyr o lawer o’r prifysgolion ar draws Llundain.

Mae Mannequin House wedi’i leoli ym mharth tri, siwrne cerdded 30 eiliad o orsaf danddaearol Blackhorse Road ac ond 30 munud i ffwrdd o gampws Thavies Inn House YDDS.

Mae amrywiaeth o archfarchnadoedd, caffi’s a bwytai nepell o Mannequin House yn ogystal a stiwdio hyfforddi HIIT, stiwdio ioga a chanolfan ddringo 5 munud i ffwrdd; y cyfle perffaith i chi brofi rhywbeth newydd neu barhau â hen ddiddordeb.

Os hoffech ymweld â rhywle i ffwrdd o brysurdeb y ddinas, mae Gwlyptiroedd Walthamstow yn daith gerdded deg munud i ffwrdd ac mae’n berffaith ar gyfer mynd am dro, i loncian yn yr awyr agored neu i gael picnic gyda’ch ffrindiau.

Mae Mannequin House yn cynnwys ystod o ystafelloedd stiwdio neu en-suite, ynghyd â llawer o ardaloedd cymunedol sy’n agored i’r holl breswylwyr, gan gynnig y cartref delfrydol oddi cartref.

Mwynderau

Ardaloedd Cymunedol – mae gan breswylwyr fynediad i sawl ardal gymunedol gan gynnwys ystafell fyw ar gyfer gwylio’r teledu a chymdeithasu

Ystafell Gemau – gyda chyfarpar gemau, mae’r ystafell hon yn le gwych i ymlacio gyda ffrindiau. Gallwch hyd yn oed herio’ch ffrindiau i gem o bŵl neu wneud defnydd o’r consolau gemau sydd ar gael.

Stydi – mae desgiau astudio ymhob un o’n hystafelloedd gwely, ond os oes well gennych olygfa wahanol o bryd i’w gilydd, mae’r ystafell astudio dawel yn berffaith. Os ydych yn codi gyda’r wawr neu am weithio gyda’r nos, mae’r ystafell ar agor 24/7.

Calendr Cymdeithasol – Rydym yn ymwybodol bod cynnal digwyddiadau yn allweddol er mwyn i fyfyrwyr dderbyn profiadau gwych. Bydd tïm Mannequin House yn gweithio’n galed i drefnu digwyddiadau yn seiliedig ar eich diddordebau chi, a sicrhau bod ein calendrau cymdeithasol yn llawn drwy gydol y flwyddyn.

Gwsanaeth 24 awr – mae’n tïm cyfeillgar wrth law 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Os oes gennych unrhyw bryderon, neu eisiau cael sgwrs, byddwn yn y dderbynfa yn barod i helpu.

COVID-19

Mae’r Brifysgol yn dilyn Canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â COVID-19 ar gyfer Cadw Cymru’n Ddiogel:

  • Ceisiwch gael y ddau bigiad a'r pigiad atgyfnerthu
  • Mae tu allan yn fwy diogel na bod tu fewn
  • Os oes gennych symptomau, arhoswch gartref a pheidiwch a dod mewn cysylltiad â phobl arall
  • Gwisgwch orchudd wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd a lleoedd dan do sy'n orlawn

Am ragor o gyngor a chymorth ewch ar y deilsen ar y neu Wefan Llywodraeth Cymru.