Ymchwil

Diben y Ganolfan er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol yw astudio profiadau ysbrydol a chrefyddol cyfoes.

Mae’r Canolfan yn trefnu cynadleddau a chyfarfodydd, ac mae’n cynnig MRes mewn Profiadau Crefyddol, ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed.  Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Mae'r Pwyllgor Ymchwil yn cynnwys:

  • Prof Bettina Schmidt (Cyfarwyddwr)
  • Dr Fiona Bowie
  • Dr Nick Campion
  • Dr Thomas Jansen
  • Dr Jeff Leonardi 
  • Dr Emily Pierini
  • Dr David Rousseau
  • Dr Gregory Shushan

Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus

Mae Dr Jeff Leonardi wedi’i wneud yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn y Brifysgol yn gysylltiedig â’r Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol. Mae Dr Leonardi wedi ymddeol fel Ymgynghorydd yr Esgob ar gyfer Gofal Bugeiliol a Chwnsela, Esgobaeth Caerlwytgoed (Lichfield), ac mae wedi graddio o Brifysgol Dwyrain Anglia â Phd mewn Dulliau sy’n Canolbwyntio ar Unigolion ym maes Ysbrydolrwydd.  Cwnsela ac ysbrydolrwydd yn y DU yw maes ei ymchwil.  Bydd yn trefnu cyfres o seminarau a digwyddiadau eraill yn y Ganolfan.  

Dyma rai o’r Prosiectau/Mentrau presennol:

  • Spiritual experience in the context of counselling and psychotherapy (Dr Jeff Leonardi)

    Much of the research into spiritual experience tends to be focussed on individual accounts of personal experiences. The psychotherapeutic literature in general and of the Person-centred approach in particular, however, contains significant references to spiritual experiences in relational contexts, both one-to-one and small and large group. The present research consists in exploring such accounts and the implications of it for the framing of our understanding of spiritual experience.

  • Health and Spirituality in Brazil – a study of alternative approach to wellbeing (Prof Bettina Schmidt)

  • Apprenticeship and complementary healing:  The therapeutic uses of mediumistic development in the Brazilian Vale do Amanhecer  (Dr Emily Pierini)

  • Near-Death Experience, Shamanism, and Afterlife Beliefs in Indigenous Religions (Dr Gregory Shushan)

Dyma rai o’r Prosiectau Ymchwil a gyflawnwyd neu a noddwyd gan y Ganolfan:

  • Profiadau Crefyddol yn Rhyddhad - Dr David Hay
  • Profiadau Crefyddol mewn Plentyndod - Edward Robinson
  • Crefydd a Gwerthoedd Ôl-16  - Edward Robinson a Dr Michael Jackson
  • Seicosis a Phrofiadau Crefyddol - Dr Michael Jackson
  • Profiadau Ysbrydol/Crefyddol yn y Gymdeithas Fodern - Dr Geoffrey Ahern
  • Dylanwadau Amgylcheddol ar Natur Profiadau Crefyddol - William Ord
  • Perthynas Diwinyddiaeth Swyddogaethol - Dr Newton Malony
  • Profiadau Crefyddol Negyddol - Dr Merete Jakobsen

Cyhoeddir canfyddiadau’r Ganolfan mewn llyfrau, adroddiadau, papurau achlysurol ac ati, dyma rai o’r pwysicaf: The Spiritual Nature of Man gan Syr Alister Hardy, Exploring Inner Space and Religious Experience Today gan David Hay, The Original Vision and Living the Questions gan Edward Robinson a A Sense of Presence gan Timothy Beardsworth. Mae’r rhain ar gael i’w prynu, neu i’w benthyca, gan y Ganolfan. Mae rhestr o’r llyfrau a’r papurau achlysurol, ynghyd â gwybodaeth am archebu, ar gael yma ac ar wefan Cymdeithas Alister Hardy.

Mae’r Ganolfan yn croesawu adroddiadau am brofiadau ysbrydol/crefyddol (ni waeth y diffiniad a roddir i'r termau hyn gan bobl). Caiff pob adroddiad ei drin yn gyfrinachol. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y bo modd, gan gynnwys yr hyn, yn eich barn chi, a allai fod wedi arwain a/neu ‘sbarduno’r’ profiad(au), pryd (gan gynnwys dyddiad os oes modd) a lle y cawsoch y profiad(au) a sut y gallai fod wedi effeithio arnoch ar ôl hynny. Cofiwch hefyd gynnwys ychydig o fanylion personol, e.e. am eich oedran ar y pryd, eich magwraeth grefyddol a’ch crefydd (os oes gennych un) ac unrhyw beth arall a allai fod yn berthnasol yn eich barn chi: Profiadau Crefyddol, Ysbrydol neu Baranormal - Ffurflen

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae prif ymchwil y Ganolfan wedi  canolbwyntio ar brosiect pwysig sy’n ymchwilio i brofiadau crefyddol yn Tsieina.

Gyda chymorth yr Athrawon Keith Ward a John Hedley-Brooke o Ganolfan Ian Ramsey er Gwyddoniaeth a Chrefydd yn Rhydychen, sicrhaodd yr Athrawon Xinzhong Yao a Paul Badham grant sylweddol gan Sefydliad John Templeton a wnaeth yr ymchwil yn bosibl. Gan gydweithio ag ysgolheigion o saith o brifysgolion Tsieina ynghyd â chefnogaeth 110 o gyfwelwyr, casglasant wybodaeth o ddeg safle cynrychiadol ar hyd a lled Tsieina. Llenwyd 3196 o holiaduron hir. Rhoddodd y rhain doreth o ddata ar gred ac arferion crefyddol yn Tsieina. Enynnodd yr ymchwil gryn ddiddordeb yn Tsieina, a gwahoddwyd yr Athro Yao i gyflwyno canfyddiadau’r ymchwil i brifysgolion ar draws Tsieina ac i Ysgol Ganolog Plaid Gomiwnyddol Tsieina.

Ymhlith rhai o’r canfyddiadau mwyaf diddorol oedd mai dim ond 8.7% o’r Tsieineaid sy’n dweud eu bod yn “grefyddol”, caiff 28.6% eu cysuro neu’u nerthu trwy weddi ac addoliad ac mae 56.7% wedi profi dylanwad “rhyw fath o bŵer na all pobl ei reoli na’i esbonio'n glir”. Cysylltant y pŵer hwn â bod neu rym crefyddol.  Cred 44% fod bywyd a marwolaeth yn dibynnu ar Ewyllys y Nef a chytuna 41% â’r datganiad bod "rhaid i ni wneud ein gorau mewn bywyd i ogoneddu Duw/Arglwydd y Nef/Bwdha/Hynafiaid". Dangosodd yr arolwg fod yr achosion o bobl yn cael eu trwytho’n ideolegol mewn anffyddiaeth yn y gweithle wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dim ond 0.7% o gredinwyr crefyddol a ddywedodd eu bod wedi teimlo o dan bwysau oherwydd eu credoau crefyddol.  Mae anffyddwyr pybyr yn gwrthod (46.6% o blaid o'u cymharu â 33.4% yn erbyn) y syniad mai "Crefydd yw opiwm y bobl”, ac er bod 47.5% o anffyddwyr pybyr o’r farn mai "ffwlbri twyllodrus yw crefydd", anghytuna 34% a chred 31.3% fod "gan grefydd wirionedd dwfn". Dweud rhy ychydig am eu hymrwymiad a wna credinwyr crefyddol.  Enghraifft o hyn yw mai dim ond 4.4% sy’n honni bod yn Fwdhaidd ac eto fod 27.4 % yn gweddïo ar Fwdha neu bodhisattva a bod 18.2% yn cydnabod dylanwad Bwdha neu bodhisattva yn eu bywydau. Dim ond 2.8% o’r boblogaeth sy’n arddel Cristnogaeth yn ffurfiol, ac eto ceisia 11% ddillyn ffordd Duw Cristnogaeth.

Mae'r prosiect hefyd wedi denu sylw yn y DU. Bydd yr aelodau’n cofio i’n dau Gyfarwyddwr roi adroddiadau ar hynt y gwaith yn ein Diwrnodau Agored yn Rhydychen yn ogystal ag yn ystod cyrsiau preswyl MA yn Llambed a’n cynadleddau blynyddol yn ogystal ag annerch mewn amrywiaeth o gynadleddau eraill a rhoi cyfweliadau radio. Mae ysgolheigion o fri yn Nhwrci, Siapan, yr India, Rwsia, Brasil, UDA a Taiwan wedi gofyn am ganiatâd i addasu'r fethodoleg a'r holiadur i'w gwledydd eu hunain ac i fynd ati i gynnal astudiaeth gymharol gyda'r Ganolfan. O ganlyniad i hyn, canolbwyntiodd cynhadledd 2007 y Gymdeithas Brydeinig er Astudio Crefyddau ar Brofiadau crefyddol mewn cyd-destunau byd-eang ac roeddem yn falch dros ben i’n ein cydweithwyr ddod o Tsieina yn ogystal ag ysgolheigion o wledydd eraill a oedd â diddordeb i Gaeredin i gyflwyno papurau.

Cofnodir canfyddiadau cychwynnol yr ymchwil mewn llyfr 274 tudalen gan Wasg Prifysgol Cymru o’r enw Religious Experience in Contemporary China (2007)yn ogystal ag erthyglau yn y Cyfnodolyn Modern Believing (Ebrill 2006 ac Ionawr 2008), y Journal of Contemporary Religion (Gorffennaf 2007) a’r Cyfnodolyn Tsieineaidd Crefyddau’r Byd (Shijie Zongjiao, Rhif 4, 2007). Dyfynnodd Dr Wendy Dossett rai o’r canfyddiadau yn ei Chanllaw i’r Lefel A newydd mewn Profiad Crefyddol, a gobeithia Marianne Rankin ddefnyddio’r canfyddiadau yn ei gwerslyfr ar brofiadau crefyddol a fydd yn ymddangos maes o law. Mae cyhoeddiadau pellach ar y gweill yn Tsieinëeg a Saesneg.

Yn sgil llwyddiant prosiect Tsieina mae’r Ganolfan er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol wrthi’n gweithio gyda Chanolfan Ian Ramsey i geisio arian ar gyfer prosiect pellach i gymharu profiadau crefyddol ar draws diwylliannau a thraddodiadau. Mae ein cydweithwyr yn Nhwrci, Siapan, yr India, Rwsia, Brasil ac UDA wedi addo’u cefnogaeth ond ni chawn wybod am nifer o fisoedd a all y Ganolfan sicrhau’r arian sydd ei angen ar gyfer y prosiect olynol enfawr hwn.