Llyfrgell Ar-lein i Bartneriaethau
Caiff myfyrwyr mewn sefydliadau partner fynediad i rai o’r e-adnoddau y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, pan ganiateir hynny dan gytundebau trwyddedu. Mae’r e-adnoddau hyn yn rhoi mynediad i ystod eang o e-lyfrau, e-gylchgronau, cronfeydd data arbenigol, papurau newydd ar-lein a rhagor. Dylai myfyrwyr partneriaid gysylltu â’u sefydliad cartref i gael manylion mynediad ac am gymorth wrth ddefnyddio’r adnoddau hyn.
Myfyrwyr AU Coleg Sir Gâr:
Defnyddiwch ein Llyfrgell Ar-lein gyda’ch cyfrif TG yn y Drindod Dewi Sant.
Myfyrwyr Partneriaethau Eraill:
Mae’n bosibl cael mynediad i'r adnoddau isod drwy fanylion mewngofnodi a chyfrinair gwahanol. Caiff myfyrwyr y manylion mewngofnodi gan y gwasanaeth llyfrgell yn eu sefydliad cartref. Sylwer ei bod yn bosibl nad oes mynediad gan bob partneriaeth i’r adnoddau hyn.
Academic Search Premier
Mae’r gronfa ddata amlddisgyblaethol hon yn darparu erthyglau testun llawn ar gyfer mwy na 4,600 o gylchgronau, yn cynnwys testun llawn ar gyfer bron iawn 3,900 o deitlau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ôl-ffeiliau ar ffurf PDF ar gael hyd 1975 neu ymhellach ar gyfer ymhell dros gant o gylchgronau, a darperir cyfeiriadau dyfynedig chwiliadwy am fwy na 1,000 o deitlau.
Business Source Complete
Cronfa ddata ysgolheigaidd ddiffiniol ym maes busnes, sy’n darparu casgliad blaenllaw o gynnwys llyfryddol a thestun llawn. Mae’r gronfa ddata yn un gynhwysfawr gan gynnig mynegeion a chrynodebau ar gyfer y cylchgronau ysgolheigaidd pwysicaf ym maes busnes mor bell yn ôl â 1886. Hefyd darperir cyfeiriadau dyfynedig chwiliadwy ar gyfer mwy na 1,300 o gylchgronau.
Education Source
Education Source yw’r adnodd ar-lein mwyaf awdurdodol ar gyfer ymchwil addysg. Mae’n cynnig casgliad mwyaf a mwyaf cyflawn y byd o gylchgronau addysg â thestun llawn. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys addysg ar bob lefel o blentyndod cynnar i addysg uwch, a phob arbenigedd addysgol, megis addysg amlieithog, addysg iechyd, a phrofion.
Hospitality & Tourism Complete
Mae Hospitality & Tourism Complete yn cwmpasu ymchwil ysgolheigaidd a newyddion y diwydiant yn gysylltiedig â phob maes o fewn lletygarwch a thwristiaeth. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys mwy na 828,000 o gofnodion, gan ddyddio’n ôl mor bell â 1965. Mae testun llawn ar gyfer mwy na 490 o gyhoeddiadau, gan gynnwys cylchgronau, adroddiadau cwmnïau a gwledydd a llyfrau.
Humanities Source
Bwriad Humanities Source yw diwallu anghenion myfyrwyr, ymchwilwyr ac addysgwyr sydd â diddordeb ymhob agwedd ar y dyniaethau. Mae Humanities Source yn cynnig cynnwys byd-eang yn gysylltiedig â’r meddylfryd llenyddol, ysgolheigaidd a chreadigol.
Religion and Philosophy Collection
Mae Religion and Philosophy Collection yn darparu deunydd helaeth yn gysylltiedig â phynciau megis crefyddau’r byd, prif enwadau, astudiaethau Beiblaidd, hanes crefyddol, epistemoleg, athroniaeth wleidyddol, athroniaeth iaith, athroniaeth foesol a hanes athroniaeth.
SPORTDiscus with Full Text
SPORTDiscus with Full Text yw ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y byd ar gyfer cylchgronau testun llawn ym meysydd chwaraeon a meddygaeth chwaraeon, gan ddarparu testun llawn ar gyfer 550 o gylchgronau sydd wedi’u mynegeio yn SPORTDiscus. Mae'r ffeil awdurdodol hon yn cynnwys testun llawn ar gyfer llawer o’r cylchgronau ym mynegai SPORTDiscus sy’n cael eu defnyddio fwyaf - heb unrhyw embargo. Mae’n cynnwys erthyglau testun llawn yn dyddio’n ôl i 1985, a SPORTDiscus with Full Text yw’r offeryn ymchwil diffiniol ar gyfer pob maes o fewn llenyddiaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon.
ABI/Inform Collection (drwy ProQuest)
Busnes, Rheolaeth a Masnach – erthyglau cyfnodolion ysgolheigaidd a masnach, traethodau hir, adroddiadau marchnad, adroddiadau diwydiant, achosion busnes a newyddion byd-eang a masnach.
British Periodicals 1681 - 1939 (drwy ProQuest)
Llenyddiaeth, athroniaeth, hanes, gwyddoniaeth, y celfyddydau cain, cerddoriaeth, drama, archaeoleg a phensaernïaeth a’r gwyddorau cymdeithasol – erthyglau cyfnodolion.
Periodicals Archive Online (drwy ProQuest)
Archifau cyfnodolion ysgolheigaidd testun llawn o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
ProQuest Central (drwy ProQuest)
Daw’r adnodd hwn â chronfeydd data cyflawn at ei gilydd ar draws yr holl brif feysydd pwnc, gan gynnwys Busnes, Iechyd a Meddygol, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a’r Dyniaethau.
ProQuest Dissertations and Theses Global (drwy ProQuest)
The Vogue Archive (drwy ProQuest)
Cynnwys llawn cylchgronau Vogue (cyfrol yr UD) mewn delwedd tudalen lliw llawn, i'r rhifyn cyntaf yn 1892 i'r presennol, gyda diweddariadau misol ar gyfer rhifynnau newydd.