Assortment of books

Mae’n bosib y gwnaethoch sylwi ein bod wedi gadael llyfrau o gwmpas ein campysau i chi eu darganfod fel rhan o’n hymgyrch #OffTheShelf. Yn ogystal â rhoi’r cyfle i fyfyrwyr a staff i fynd â’r copïau y daethant ar eu traws adref gyda nhw i’w darllen, gobeithiwn y caiff y copïau hyn eu trosglwyddo i eraill. Mae hyd yn oed lle ym mhob llyfr i ddarllenwyr adael eu hadolygiad!

Pam yr ydym yn gwneud hyn?

Gwyddom fod gan ddarllen effaith addysgol sydd o gymorth ar gyfer pob dim, o wella geirfa i archwilio syniadau newydd, ond gall darllen hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd.

Mewn byd cynyddol brysur, rydym am annog pawb i neilltuo peth amser yn ystod y dydd i ymlacio, ac mae darllen yn cynnig y fath ddihangfa i’r dim. Mae ymchwil yn dangos fod cael pleser drwy ddarllen yn gallu cyfoethogi eich llesiant yn sylweddol, a’ch helpu i leihau straen a gwella eich perthnasau gydag eraill.

Ein Hargymhellion

Mae pob un o’r llyfrau #OffTheShelf wedi cael ei ddewis yn ofalus gan staff YDDS gan ystyried themâu penodol bob tro caiff llyfrau eu gadael. Wrth wneud hynny, y nod yw ysgogi meddwl a dechrau sgyrsiau pwysig.

Gobeithiwn y gwnaiff y sawl ohonoch sydd wedi colli’r cyfle i gael copi o rai o’n hoff lyfrau fwynhau’r rhestri darllen hyn gan ddarganfod eu bod mor afaelgar a heriol ag y gwnaethom ninnau.

Rhestri Darllen #OffTheShelf

Mae’r coronafeirws wedi amharu ar fywyd pawb. Mae llawer ohonom yn teimlo'n bryderus ac yn ofidus am ein hiechyd a'n hanwyliaid, ac mae'r rheini sydd eisoes yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn wynebu heriau ychwanegol hefyd. Mae gofalu am ein meddwl yr un mor bwysig â gofalu am ein cyrff, a gall llyfr da ein helpu i ymdopi drwy roi golwg ar bethau, cysur a dihangfa braf!

O ystyried hyn, penderfynom gynnal ymgyrch ddigidol #OffTheShelf: yn hytrach na gadael llyfrau o amgylch ein campysau i bobl ddod o hyd iddynt, eu darllen a'u trosglwyddo, rydyn ni wedi llunio casgliad o e-lyfrau, podlediadau, ac adnoddau defnyddiol eraill i gefnogi eich lles yn ystod y cyfnod anodd hwn.

  • My Year of Rest and Relaxation - Ottessa Moshfegh  
  • Asleep - Banana Yoshimoto  
  • The Sleeper and the Spindle - Neil Gaiman  
  • The Lathe of Heaven - Ursula K Le Guin  
  • Freshwater - Akwaeke Emezi  
  • The night circus - Erin Morgenstern  
  • Nod - Adrian Barnes  
  • Nightlights - Lorena Alvarez  
  • The house of sleep - Jonathan Coe  
  • The Magic of Sleep: A Bedside Companion   
  • The Sleep Book - Guy Meadows  
  • Why We Sleep - Matthew P Walker  
  • Insomnia - Marina Benjamin  
  • Awakenings - Oliver Sacks
  • Convenience store woman - Sayaka Murata
  • Big Mushy Happy Lump - Sarah Andersen
  • Queenie - Candice Carty-Williams
  • The circle - Dave Eggers
  • Death Wins a Goldfish - Brian Rea
  • Zen and the Art of Motorcycle Maintenance - Robert M. Pirsig
  • Poems to Live Your Life - Chris Riddell
  • Number One Chinese Restaurant - Lillian Li
  • Rest - Alex Soojung-Kim Pang
  • Homo Deus - Yuval Harari Walden
  • Broken Places & Outer Spaces - Nnedi Okorafor
  • The Animators - Kayla Rae Whitaker
  • Safe - Derek Owusu
  • Lagom: The Swedish Art of Balanced Living - Linnea Dunne
  • Little Black Book - Otegha Uwagba
  • Grit - Angela Duckworth

Yn canolbwyntio ar thema’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2019, sef delwedd y corff

  • The Little Book of Body Confidence - Judi Craddock
  • Body Positive Power - Megan Jayne Crabbe
  • Am I Ugly? - Michelle Elman
  • Notes on a Nervous Planet - Matt Haig
  • Man Up: Surviving Modern Masculinity - Jack Urwin
  • The Shock of The Fall - Nathan Filer
  • The Key to Happiness - Meik Wiking
  • Goodbye, Things - Fumio Sasaki
  • Love for Imperfect Things - Haemin Sunim
  • The Curious Incident of the Dog in the Night Time - Mark Haddon
  • A Beautiful Mind - Silvia Nasar
  • The Mindful Life Journal - Justin R. Adams
  • Coming Back to Me - Marcus Trescothick
  • One Flew Over the Cuckoo’s Nest - Ken Kesey
  • Jayne Eyre - Charlotte Bronte
  • Elinor Oliphant is Completely Fine - Gail Honeyman 

Yn dathlu merched ysbrydoledig

  • Becoming – Michelle Obama
  • The Handmaid’s Tale – Margaret Atwood
  • To Kill a Mockingbird – Harper Lee
  • So Lucky – Nicola Griffith
  • Love In a Fallen City – Eileen Chang
  • Suffragette: The Autobiography of Emmeline Pankhurst – Emmeline Pankhurst
  • Good Night Stories for Rebel Girls: 100 Tales of Extraordinary Women – Elena Favilli
  • Jane Austen at Home – Lucy Worsley
  • Men Explain Things To Me – Rebecca Solnit
  • Bloody Brilliant Women – Cathy Newman
  • Love Medicine – Louise Erdrich
  • Stay With Me – Ayobami Adebayo
  • I am Malala: The Girl Who Stood up for Education and was Shot by the Taliban – Malala Yousafzai
  • The Gender Games: The problem with men and women, from someone who has been both – Juno Dawson
  • Do it Like a Woman – Caroline Criado-Perez

Yn amlygu awduron LGBT a’u profiadau

  • A Brief History of Seven Killings – Marlon James
  • The Picture of Dorian Gray – Oscar Wilde
  • Fingersmith – Sarah Waters
  • Carol – Patricia Highsmith
  • Sister Outsider: Essays and Speeches – Professor Audre Lorde
  • Fun Home: A Family Tragicomic – Alison Bechdel
  • Oranges Are Not the Only Fruit – Jeanette Winterson
  • The Last Romeo – Justin Myers

Yn amlygu awduron duon a’u profiadau

  • Diversify – June Sarpong
  • I Know Why the Caged Bird Sings – Maya Angelou
  • Beloved – Toni Morrison
  • Half of a Yellow Sun – Chimamanda Ngozi Adichie
  • Why I’m No Longer Talking to White People About Race – Reni Eddo-Lodge
  • Natives – Akala
  • The Good Immigrant – ed. by Nikesh Shukla
  • The Color Purple – Alice Walker

Gan ganolbwyntio ar thema Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd 2019, sef llesiant, ac yn amrywio o ganllawiau ymarferol i ysbrydoliaeth.

  • Sane New World – Ruby Wax
  • How to Bullet Plan – Rachel Wilkerson Miller
  • The Travelling Cat Chronicles – Hiro Arikawa
  • Feel the Fear and Do it Anyway – Susan Jeffers
  • Reasons to Stay Alive – Matt Haig
  • Mindset – Dr Carol S. Dweck
  • How Not to Be a Boy – Robert Webb
  • The Stranger on the Bridge – Jonny Benjamin
  • The Things You Can Only See When You Slow Down – Haemin Sunim
  • The Shadow of the Wind – Carlos Ruiz Zafon
  • Kakeibo: The Japanese Art of Saving Money – Fumiko Chiba
  • Counselling for Toads – Robert de Board 

Dilynwch ni ar TwitterFacebook ac Instagram am ddiweddariadau ar y tro nesaf y byddwn yn gadael llyfrau #OffTheShelf, a pheidiwch ag anghofio gadael ni wybod eich barn!

chat loading...