Rydym wedi ymrwymo i’w gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr gael gafael ar ddeunyddiau darllen cyrsiau/modylau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fath newydd o Restrau Adnoddau ar-lein rhyngweithiol a fydd yn eich galluogi i:
- Ddod o hyd i adnoddau modylau’n hawdd
- Gweld pa adnoddau sydd ar gael yn gyfredol drwy gatalog y llyfrgell
- Cysylltu’n uniongyrchol â’r testun llawn, pan fo ar gael
- Cysylltu ag adnoddau wedi’u digideiddio
- Cadw’ch hoff adnoddau mewn un lle
- Awgrymu adnoddau ychwanegol i diwtor eich cwrs/modwl
- Cael gafael ar bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau mewn modd di-dor
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu fod arnoch angen cymorth pellach, anfonwch e-bost atom: Resource.Lists@uwtsd.ac.uk
chat loading...