Adnoddau Mynediad Agored

People looking at laptops

Mae’n bosibl defnyddio adnoddau Mynediad Agored yn rhad ac am ddim heb fewngofnodi na chyfrinair.  Mae’r dudalen hon yn rhestru detholiad bach o adnoddau sy’n berthnasol i’r rhaglenni a addysgir yn y Brifysgol. 

BioMed Central

Mae BioMed Central yn gyhoeddwr ym maes gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth â 220 o gylchgronau a adolygir gan gymheiriaid sydd ar-lein ac â mynediad agored.  Mae’r portffolio o gylchgronau’n rhychwantu pob maes o fewn bioleg a meddygaeth ac yn cynnwys teitlau o ddiddordeb eang, megis BMC Biology a BMC Medicine ochr yn ochr â chylchgronau arbenigol, megis Retrovirology a BMC Genomics. Bydd pob erthygl ymchwil gwreiddiol a gyhoeddir gan BioMed Central ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ac yn barhaol yn syth ar ôl ei chyhoeddi.

British Cartoon Archive

Sefydlwyd y British Cartoon Archive yn 1973, yn ganolfan ymchwil a llyfrgell darluniau, wedi’i seilio ar archif unigryw o fwy na 140,000 darn o waith celf cartŵn. Mae wedi’i gefnogi gan lyfrgell gyfeiriol o doriadau papur newydd, llyfrau, catalogau a chylchgronau.  

British Newspaper Archive

Mae’r British Newspaper Archive yn bartneriaeth rhwng y Llyfrgell Brydeinig a brightsolid online publishing i ddigido hyd at 40 miliwn tudalen o bapurau newydd yng nghasgliad enfawr y Llyfrgell Brydeinig dros y 10 mlynedd nesaf. 

Mae casgliadau papurau newydd y Llyfrgell Brydeinig ymhlith y rhai gorau yn y byd ac yn cynnwys y rhan fwyaf o rediadau papurau newydd a gyhoeddwyd yn y DU er 1800.

Cochrane Library

Mae Llyfrgell Cochrane yn cynnwys tystiolaeth annibynnol o ansawdd uchel i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau ym maes gofal iechyd. Mae’n cynnwys tystiolaeth ddibynadwy o adolygiadau Cochrane ac adolygiadau systematig eraill, arbrofion clinigol a mwy. Mae adolygiadau Cochrane yn rhoi i chi ganlyniadau cyfunol yr astudiaethau ymchwil meddygol gorau yn y byd, a chydnabyddir eu bod yn safon aur mewn gofal iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth.

Internet Archive

Internet Encyclopedia of Philosophy

Mae JISC MediaHub yn cynnwys mwy na 137,000 o eitemau amlgyfrwng, gan gynnwys mwy na 3,600 awr o ffilm a mwy na 50,000 o luniau. 
Sylwer nad ydym yn tanysgrifio i bob casgliad a restrir ar y wefan hon.

Manuscripts Online 

Ffynonellau gwreiddiol cynnar, ysgrifenedig ac argraffedig, ar gyfer Prydain yr Oesoedd Canol ac yn rhoi mynediad ar-lein i ddeunyddiau ysgrifenedig o 1000 i 1500.   

MEDLINE

Yn cynnwys cyfeiriadau at fwy na 3,800 o gylchgronau biofeddygol o 1966 ymlaen.  Mae’n cwmpasu pob agwedd ar feddygaeth â ffocws byd-eang.   Gweler hefyd BioMed Central am erthyglau testun llawn.

1911 Encyclopedia Britannica

Old Maps Online

Oxford Text Archive

Queen Victoria's Journals

The Proceedings of the Old Bailey, 1674-1913

Gellir chwilio’r argraffiad hwn o’r corff mwyaf o destunau a gyhoeddwyd erioed sy’n nodi manylion bywydau pobl gyffredin, yn cynnwys 197,745 o dreialon troseddol a gynhaliwyd yn llys troseddol canolog Llundain.

RAMBI: The Index of Articles on Jewish Studies

Mae RAMBI: The Index of Articles on Jewish Studies yn llyfryddiaeth ddetholus o erthyglau ym meysydd amrywiol Astudiaethau Iddewig ac ym maes astudio Eretz Israel.  Cesglir y deunydd a restrir yn Rambi o filoedd o gyfnodolion ac o gasgliadau o erthyglau – yn Hebraeg, Iddeweg ac ieithoedd Ewropeaidd – yn bennaf o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Iddewig, canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil ar y bobl Iddewig ac Eretz Israel.  

Gwaith Ieuenctid Cymru

Mae Gwaith Ieuenctid Cymru yn wefan ddielw a gefnogir gan Goleg Cymunedol YMCA Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  Nod y wefan yw cynnig ystod o wybodaeth a wnaiff gynorthwyo ymarferwyr, myfyrwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru i ddatblygu theori ac arfer.  Mae'r wefan yn canolbwyntio'n bennaf ar arddull benodol o weithio gyda phobl ifanc, a gyflwynir o fewn fframwaith y Gwasanaeth Ieuenctid, sy’n annog pobl ifanc 11-25 oed i gyfranogi'n wirfoddol mewn ystod eang o weithgareddau positif. 

chat loading...