Ymunwch â'r Tîm Llysgenhadon Myfyrwyr
Rydyn ni’n recriwtio Llysgenhadon Myfyrwyr gydol y flwyddyn i gefnogi gwaith yr unedau Marchnata, Recriwtio ac Ymgyrraedd yn Ehangach ar ein Campysau yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe.
Helpwch ni i recriwtio myfyrwyr newydd i’r Brifysgol drwy rannu eich profiadau fel myfyrwyr a chefnogi gweithgareddau’r tîm Marchnata fel diwrnodau agored, digwyddiadau blasu ac ymweliadau campws.
Hefyd, mae ystod o arbenigeddau ar gael fel cymorth Cyfryngau Cymdeithasol neu Office, gweler y wybodaeth bellach am ragor o fanylion.
Mae bod yn Llysgennad Myfyrwyr yn eich caniatáu i weithio pan mae’n gyfleus i chi, gan ddal ati i feithrin sgiliau cyflogadwyedd rhagorol a fydd yn edrych yn dda ar CV.
Mae Llysgennad Myfyrwyr da yn:
- frwdfrydig am Y Drindod Dewi Sant a’u cwrs
- mwynhau gweithio fel rhan o dîm
- da am gyfathrebu gyda phobl newydd yn hapus i siarad yn gyhoeddus
- awyddus i rannu eu profiadau o fywyd yn y brifysgol
- positif, cyfeillgar a dibynadwy
Bydd sesiynau cyfweld yn cael eu cynnal ar bob campws; sicrhewch eich bod yn gallu mynychu un o’r sesiynau hyn (unrhyw gampws) cyn gwneud cais.
Yn dilyn y sesiynau cyfweld, cynhelir sesiynau hyfforddi gorfodol y bydd rhaid ichi eu mynychu cyn ichi allu gwneud unrhyw waith llysgennad.
Sut i wneud cais
- Dylai ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais a’i dychwelyd i studentambassadors@uwtsd.ac.uk.
- Wrth lenwi’r ffurflen gais, cyfeiriwch at y nodiadau canllaw isod.
- Os cewch eich cynnwys ar y rhestr fer, byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu cyfweliad. Yn dilyn y cyfweliad bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu un o’r sesiynau hyfforddi.
Dadlwythwch y ffurflenni canlynol i wneud cais am swydd fel Llysgennad Myfyrwyr
Pwrpas y ffurflen gais yw rhoi cyfle i chi ddweud ychydig amdanoch chi’ch hun:
- Ble rydych chi’n astudio
- Beth rydych chi’n astudio
- Pam rydych chi eisiau bod yn llysgennad.
Y ffurflen a ddefnyddir yw’r ffurflen gais safonol ar gyfer holl swyddi’r Drindod Dewi Sant, felly mae’n bosibl y gwelwch fod rhai adrannau’n anodd eu cwblhau am nad ydynt yn berthnasol i chi.
Pan fyddwch yn cwblhau eich ffurflen gais gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r adrannau HANFODOL canlynol:
- Adran 1: Cymwysterau
Dywedwch wrthym ble rydych chi’n astudio ar hyn o bryd (does dim angen i chi ychwanegu’r holl gymwysterau blaenorol oni bai eich bod yn meddwl eu bod yn berthnasol i rôl llysgennad myfyriwr) - Adran 6: Sgiliau Iaith
Cwblhewch yr adran ar Sgiliau Iaith - Adran 8: Canolwr Cymeriad
‘Tystlythyr Cymeriad’, rhowch enw ac e-bost un o’ch tiwtoriaid fel eich tystlythyr cymeriad. - Adran 9: Datganiad Ategol
Ychwanegwch baragraff (neu fwy os hoffech chi) sy’n dweud ychydig wrthym amdanoch chi a pham rydych chi eisiau bod yn llysgennad. Cofiwch ychwanegu rai enghreifftiau am y modd rydych chi’n teimlo’ch bod chi’n ateb y gofynion yn y disgrifiad swydd. - Adran 10: Cyffredinol
Ticiwch y blychau perthnasol - Adran MPF 9: Adsefydlu Troseddwyr
Ticiwch y blychau perthnasol
Dylid anfon pob ffurflen gais wedi’i chwblhau at: studentambassadors@uwtsd.ac.uk
Nid yw adrannau 2, 3, 4 a 5 yn hanfodol ac mae’n bosibl na fyddant yn berthnasol i rai myfyrwyr. Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol (sy’n berthnasol i’ch cais), gallwch wneud hynny yn yr adrannau hyn.
Yn ogystal â phrif gyfrifoldebau’r rôl, bydd rhai gweithgareddau marchnata yn canolbwyntio ar grwpiau neu flaenoriaethau penodol.
Rydym wedi darparu trosolwg o’r rhain isod, a gofynnwn i ymgeiswyr roi gwybod i ni beth yw eu dewis rôl a pham eu bod yn credu y byddent yn gweddu iddynt drwy ddisgrifio unrhyw brofiadau bywyd go iawn tebyg ar eu ffurflen gais.
Er na chaiff ei hasesu, bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i alinio ymgeiswyr â’r dewis rôl.
Bydd angen i ymgeiswyr ddweud wrthym sut y m aent yn credu eu bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol, a lle bo’n bosibl, dymunol a restrir yn y swydd-ddisgrifiad drwy ddisgrifio eu profiad bywyd go iawn perthnasol ar eu ffurflen gais.
Dalier sylw: Rydym yn credu y dylai ein rhaglen llysgenhadon ategu at eich gwaith fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant ac nid amharu arno. Disgwylir bod myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn weithgar, yn mynychu eu darlithoedd ac yn gallu rheoli eu llwyth gwaith yn briodol.
Y prif gyfnod recriwtio yw Hydref – Rhagfyr, fodd bynnag gwahoddir ceisiadau gydol y flwyddyn.
Os gwnewch chi gais rhwng mis Ionawr a mis Medi, bydd gofyn i chi gael hyfforddiant neu hyfforddiant diweddaru ym mis Tachwedd / Rhagfyr.
Rydym ni hefyd yn derbyn ceisiadau ac yn rhedeg sesiynau hyfforddi yn gynnar yn yr haf (Diwedd Mai/Dechrau Mehefin) ar gyfer llysgenhadon newydd sy’n ymgeisio i weithio yn ystod misoedd yr haf.
Arbenigwr Pwnc
- Cefnogi a chyflwyno sgyrsiau, cyflwyniadau a gweithgareddau gweithdy ar ac oddi ar y campws.
- Mynychu digwyddiadau ochr yn ochr ag aelod o dîm Ehangu Cyfranogiad ac Ymgysylltu â’r Gymuned Y Drindod Dewi Sant.
- Ym mhob digwyddiad, mae angen i Lysgenhadon fod yn hyderus ac yn hawdd siarad â nhw, rhaid iddynt allu rhannu eu profiadau eu hunain a siarad am holl agweddau ar fywyd AU mewn ffordd bositif a diddorol.
Llysgenhadon Dysgu (Ehangu mynediad ac Ymgyrraedd yn Ehangach)
- Cefnogi digwyddiadau ymgyrraedd yn ehangach yn weithredol ar ac oddi ar y campws gan weithio gyda phlant oedran ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Hyrwyddo Addysg uwch fel opsiwn i grwpiau targed fel y nodir yn y Strategaeth Ehangu Mynediad ac Ymgysylltu â’r Gymuned
- Ym mhob digwyddiad, mae angen i Lysgenhadon fod yn hyderus ac yn hawdd siarad â nhw, rhaid iddynt allu rhannu eu profiadau eu hunain a siarad am holl agweddau ar fywyd AU mewn ffordd bositif a diddorol.
Arddangoswr Technegol
- Cynorthwyo gweithgareddau’r tîm Recriwtio Marchnata wrth hyrwyddo cyrsiau arbenigol y Brifysgol a defnyddiau ac offer gweithdy cysylltiedig.
- Arddangos sut i ddefnyddio offer neu raglenni arbenigol yn ddiogel yn ystod diwrnodau blasu a digwyddiadau.
- Mynychu digwyddiadau ochr yn ochr ag aelod o dîm Ehangu Cyfranogiad ac Ymgysylltu â’r Gymuned Y Drindod Dewi Sant, lle bo defnyddio offer penodol i’r diwydiant yn berthnasol.
- Ym mhob digwyddiad, mae angen i Lysgenhadon fod yn hyderus ac yn hawdd siarad â nhw, rhaid iddynt allu rhannu eu profiadau eu hunain a siarad am holl agweddau ar fywyd AU mewn ffordd bositif a diddorol.
Cymorth Gweinyddol a Thechnegol
- Cefnogi’r tîm recriwtio Marchnata wrth iddynt baratoi ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau.
- Dylai llysgenhadon cymorth gweinyddol fod yn hyfedr wrth ddefnyddio Microsoft Office a ‘mail merge’. Mae profiad blaenorol o systemau CMS gwefan yn ddymunol ond nid hanfodol.
- Mae llygad dda am fanylion a gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Eiriolwr Myfyrwyr Hŷn (Dychwelyd i ddysgu)
- Cynorthwyo gyda chyflwyno cyflwyniadau a gweithdai wedi’u hanelu at fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg.
- Rhannwch eich profiadau eich hunain o brosesau derbyn, cymorth myfyrwyr a bywyd yn Y Drindod Dewi Sant.
- Darparu golwg realistig ar AU i helpu i reoli disgwyliadau myfyrwyr sy’n dychwelyd
Eiriolwr Cyfryngau Cymdeithasol
- Mae cynhyrchwyr cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol yn ein gweithgaredd marchnata ac allgymorth, gan greu blogiau, flogiau a chynnwys cyfoethog ar gyfer darpar fyfyrwyr sy’n ystyried ymuno â ni.
- Yn y rôl hon, bydd disgwyl ichi adrodd eich hanes yn Y Drindod Dewi Sant a rhannu awgrymiadau da trwy gynnwys ysgrifenedig a/neu weledol dilys wedi’i anelu at ddarpar fyfyrwyr, rhieni a dylanwadau eraill.
- Cynhyrchu blogiau a/neu flogiau a chynnwys cyfoethog arall sy’n berthnasol i siwrne darpar fyfyriwr ac sy’n bersonol i’r awdur/creawdwr, gan adlewyrchu eich profiadau o’r Drindod Dewi Sant mewn ffordd bositif.
- Cynrychioli eich cyfadran, cwrs neu faes pwnc wrth gynhyrchu cynnwys fel un sy’n cynrychioli’r Drindod Dewi Sant.
- Sicrhau bod blogiau/flogiau yn llawn gwybodaeth ac yn greadigol gyda phob darn yn ffocysu ar thema benodol a bennir gan y Prif Swyddog Marchnata ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol yn ogystal â chyfrannu syniadau ar gyfer pynciau a themâu.
- Mae profiad o ddefnyddio meddalwedd golygu ffotograffau neu fideo yn ddymunol.
- Mae disgwyl i Eiriolwyr Cyfryngau Cymdeithasol gadw at bolisi cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol o hyd.