Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  MA Addysg (Cymru)

MA Addysg (Cymru)



Rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy'n arwain y sector.

Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Mae’r cwrs yn hyblyg mewn ymateb i’ch gofynion, gan gynnig y cyfle i arbenigo mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol neu mewn Arweinyddiaeth, neu i ddewis modylau o’r ddau faes. Mae rhagor o wybodaeth am y llwybrau ar gael yn y Trosolwg o’r Cwrs isod.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Gofynion mynediad

  • MA Addysg (Cymru)
  • MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • MA Addysg (Cymru) Arweinyddiaeth
  • MA Addysg (Cymru) Cwricwlwm
  • MA Addysg (Cymru) Ecwiti mewn Addysg

Sylwch fod yn rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r ffurflenni a restrir isod a'u cyflwyno trwy e-bostio admissions@uwtsd.ac.uk ar yr un pryd ag y maent yn cyflwyno eu cais am gwrs ar-lein.






Pam Dewis y Cwrs hon

Mae’r cwrs hwn yn unigryw oherwydd gwnaeth saith prifysgol ei gynllunio ar y cyd, gan ofyn am fewnbwn a chyngor oddi wrth arbenigwyr ac ymchwilwyr addysg rhyngwladol, a rhai sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru, yn ogystal ag ymgysylltu ag ymarferwyr sy’n gweithio ac yn arwain mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, er mwyn hysbysu’r dylunio ac i  gyflwyno’r rhaglen.

Yr Athrofa: Y Ganolfan Addysg yw calon darpariaeth addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Mae wedi’i hadeiladu ar draddodiad hir o arloesi sy’n dyddio o 1848, ac felly, hon yw’r ganolfan hyfforddi athrawon hynaf yn y wlad.

Erbyn hyn, mae’r Athrofa yn croesawu mwy na 300 o athrawon dan hyfforddiant y flwyddyn, gan ymgymryd ag amrywiaeth eang o ymchwil addysgol sy’n canolbwyntio yn arbennig ar ymchwil agos at arfer. 

Ceir ynddi’r Ganolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer addysgwyr ar bob cam o’u gyrfaoedd – o gyrsiau blasu i ddysgwyr mewn ysgolion (cyn iddynt ddechrau yn y brifysgol) sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa addysg, i raglenni PhD ac EdD sy’n atynnu ffigyrau blaenllaw a dylanwadwyr o sector addysg Cymru.

Mae’r Athrofa: Y Ganolfan Addysg hefyd yn falch o’i model partneriaeth gydag ysgolion, sef Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (Athrofa Professional Learning Partnership - APLP). Rhwydwaith o 18 o ysgolion arweiniol a dros 130 o ysgolion partner yw’r bartneriaeth hon sy’n ymestyn o Sir Benfro yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain. Mae’r APLP yn gyfrifol am arwain rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon y brifysgol, datblygu capasiti ymchwil mewn ysgolion, a llunio’r cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer addysgwyr.

Mae’r Athrofa: Y Ganolfan Addysg yn amgylchedd bywiog ac arloesol lle y gallwch ddysgu, rhwydweithio a dylanwadu ar addysg yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs yn un rhan-amser am dair blynedd. Nid oes opsiwn llawn amser.

Gall myfyrwyr gychwyn ym mlwyddyn 2 o’r rhaglen os gallant ddangos tystiolaeth eu bod wedi cwblhau 60 credyd lefel 7 yn rhan o’u cymhwyster TAR, NEU wneud cais llwyddiannus i gydnabod dysgu blaenorol (RPL) sydd gyfwerth â 60 credyd. Gweler MA Addysg (Cymru) Polisi RPL i gael manylion yn cynnwys terfynau amser. Bydd myfyrwyr yn cael cefnogaeth i gwblhau’r broses hon.

Blwyddyn 1 (cyfanswm o 60 credyd ar hyd y flwyddyn)

Modylau craidd i bob myfyriwr oni bai eu bod yn gwneud cais am RPL gan eu galluogi i gychwyn y rhaglen ym mlwyddyn 2.

  • Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol (modwl 20 credyd)
  • Arfer sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth (modwl 20 credyd)
  • Addysgeg ac Ymarfer (modwl 20 credyd)

Blwyddyn 2 (cyfanswm o 60 credyd ar hyd y flwyddyn)

  • 2 fodwl 20 credyd o’r modylau dewisol sydd ar gael ym mhob tymor. Ni all myfyrwyr gwblhau dau fodwl yn yr un tymor. Rhaid i fyfyrwyr sy’n dewis dilyn dyfarniad llwybr penodol (gweler isod) ddewis eu dau fodwl dewisol oddi mewn i’r llwybr hwnnw
  • Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch (modwl 20 credyd gorfodol). Addysgir y modwl hwn mewn sesiynau gyda’r hwyr ar draws y flwyddyn academaidd.

A

Modylau dewisol Tymor 1 (Hydref i Ionawr, modylau 20 credyd) 

  • Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles (Llwybr Tegwch)
  • Archwilio Addysgeg (Llwybr Cwricwlwm)
  • Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth (Llwybr ADY)
  • Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Proffesiynol (Llwybr Arweinyddiaeth)

Modylau Tymor 2 (Ionawr i Ebrill, modylau 20 credyd)

  • Dylunio a Gwireddu’r Cwricwlwm (Llwybr Cwricwlwm)
  • Tegwch ac Amrywiaeth (Llwybr Tegwch)
  • Arwain a Rheoli ADY (Llwybr ADY)
  • Arwain Newid Sefydliadol (Llwybr Arweinyddiaeth)

Modylau Tymor 3 (Ebrill i Orffennaf, modylau 20 credyd)

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol — Rhagoriaeth mewn Ymarfer (Llwybr ADY)
  • Arwain o Fewn ac Ar Draws Systemau Addysg (Llwybr Arweinyddiaeth)
  • Arwain ac Arloesi’r Cwricwlwm (Llwybr Cwricwlwm)
  • Ymateb i dlodi ac anfantais mewn addysg (Llwybr Tegwch)

Blwyddyn 3

  • Traethawd Hir (60 credyd)
Asesiad

Ystod eang o asesiadau yn cynnwys 8 dull gwahanol.

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Meini prawf ar gyfer lleoedd a ariennir (noder nad yw pob un o’r meini prawf yma yn berthnasol i athrawon sydd yn gwneud cais am le a ariennir yn sgîl eu haelodaeth o’n partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon, PDPA). Am fanylion ynglŷn â’r llwybr hon, cysylltwch yn uniongyrchol ag a.brychan@uwtsd.ac.uk)

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofynion mynediad academaidd y Brifysgol. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod:

  • Yn byw yng Nghymru
  • Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyffelyb
  • Yn ddeiliad Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu (fel athro ysgol). Rhaid cadw’r statws hwn trwy gydol y rhaglen
  • Yn gyflogedig gan ysgol a gynhelir yng Nghymru fel athro
  • Yn gyflogedig ar gytundeb 0.4 neu fwy. Gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi sydd ar gontractau tymor hir naill ai gydag awdurdod lleol, ysgol neu asiantaeth.
  • Ym mlwyddyn 3 i flwyddyn 6 o ymarfer wedi cwblhau'r cyfnod sefydlu, ar ddechrau'r cwrs.
  • Wedi eich derbyn/cofrestru i gwblhau’r radd meistr arbennig hwn gydag un o’r saith Prifysgol sydd yn ei ddarparu
  • Â chefnogaeth eu pennaeth lle bo hynny'n bosibl
  • Os ydych eisoes wedi cyflawni Meistr arall mewn pwnc penodol, rydych yn dal yn gymwys i wneud cais am y cyllid tuag at y rhaglen hon
  • Noder: Nid yw graddau meistr eraill a gynigir gan y Brifysgol yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn

Amodau penodol y cyllid – ADY / Llwybr Arweinyddiaeth - pob blwyddyn

Rhaid i bawb sydd am wneud cais am gymorth gydnabod yr amodau cyllido penodol canlynol a chytuno â nhw.

Drwy dderbyn y cynnig grant hwn, rhaid i ymarferwyr weithio fel athro neu ddarlithydd yn un o'r lleoliadau canlynol am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cwblhau'r rhaglen.

  • Ysgol a gynhelir/uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru;
  • Sefydliad addysg bellach yn y sector addysg bellach yng Nghymru;
  • Ysgol annibynnol gofrestredig;
  • Coleg arbenigol.

Ni ddylai ymgeiswyr sy'n cael y cyllid hwn wneud cais am ragor o gymorth cyllido astudiaethau ôl-raddedig drwy'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Y broses ar gyfer cael y cyllid  

Caiff y grant ei sefydlu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau addysg uwch sy'n rhan o'r rhaglen. Ni fydd unigolion yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru nac i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am gymorth.”

Meini prawf ar gyfer myfyrwyr nad sydd yn gymwys i dderbyn cyllid:

Mae gofyn i ymgeiswyr nad sydd yn gymwys i dderbyn lle wedi ei ariannu (h.y. y sawl NAD ydynt ym mlynyddoedd 3-6 o’u gyrfa dysgu) fod wedi cwblhau cymhwyster TAR o fewn y bum mlynedd diwethaf gan amlaf. Byddant felly yn gymwys i gael Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol ac felly yn gallu cychwyn ar flwyddyn dau o’r rhaglen. Y ffi ar gyfer y myfyrwyr yma yw £9,750.

Cyfleoedd Gyrfa

Cynlluniwyd ar gyfer athrawon cymwysedig lle bynnag y bônt yn eu gyrfa

Dyfyniadau Myfyrwyr

Fel Llywydd Grŵp Cydweithredol Addysg yr ARC – grŵp rhyngwladol o 7 Gweinidog Addysg ac arweinwyr proffesiynol sy’n ymrwymedig i addysg uchel ei hansawdd, a gyda Chymru’n un o’r aelodau a’i sefydlodd – hoffwn dalu clod i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid am ymrwymo i gynllun Meistr sydd wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer athrawon ar gychwyn eu gyrfa.

Y mae’r ARC, fel sefydliadau rhyngwladol eraill megis yr OECD, wedi ei gwneud hi’n glir bod systemau sy’n perfformio’n uchel ac yn deg, yn meddu ar ymrwymiadiau cryf i addysg gyhoeddus, gweledigaeth genedlaethol sy’n gyson ac ysbrydoledig, ynghyd â gweithlu sydd wedi cymhwyso i lefel uchel. Mae athrawon cydweithredol, ymrwymedig o’r safon uchaf a chanddynt lwybr gyrfa llawn cymhelliant o’u blaenau, wrth wraidd systemau addysg gorau’r byd. O’r Ffindir i  Singapore, o Ganada i Dde Corea, ac o systemau addysg gorau’r byd, mae’n glir nad yw ansawdd a chydraddoldeb uchel yn bosibl heb weithlu o athrawon sy’n alluog, yn cael eu gwerthfawrogi, sy’n datblygu’n destun balchder i’w cenedl a’i dyfodol.

Mae’r ymrwymiad hwn i radd Feistr Genedlaethol ar gyfer athrawon a ariennir yn llawn yn gam sylweddol ymlaen i system addysg Cymru, ei hathrawon a’i phobl ifanc, ar y trywydd tuag at ragoriaeth.

Yr Athro Andy Hargreaves
Llywydd y Grŵp Cydweithiol Addysg ARC
Ottawa, Canada


Mae’r cynllun Meistr hwn yn fuddsoddiad sylweddol, nid yn unig i fyd addysg, ond hefyd i ddyfodol Cymru.  Mae’r modd cydweithredol y cafodd y rhaglen ei datblygu a’i harwain hefyd yn tystio’n glir i’r pwrpas a’r undod ar waith ym myd addysg Cymru.  Rhoddwyd enghraifft dosbarth meistr o’r modd y gellid ac y dylid cefnogi’r proffesiwn addysg, er mwyn ymateb i dirlun addysgol sy’n newid yn gyflym.

Mae’r Athro Pak Tee Ng yn addysgwr o Singapore sy’n ymwneud yn helaeth â datblygu arweinwyr ysgolion yn ei wlad. Mae ganddo atgofion hyfryd o’i ymwneud ag addysgwyr Cymreig pan siaradodd yn Abertawe yn 2019. 

Yr Athro Pak Tee Ng


Mae lansiad rhaglen Meistr Genedlaethol, wedi ei hariannu’n llawn, ar gyfer athrawon ar gychwyn eu gyrfa yng Nghymru yn ddatblygiad eithriadol o bwysig ac yn un i’w groesawu. Oddi fewn i unrhyw ysgol, y ffactor pwysicaf oll ar gyfer cefnogi dysgu myfyrwyr yw ansawdd yr addysgu.

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos yn glir bod systemau addysg sy’n buddsoddi yn y proffesiwn dysgu yn tueddu i berfformio’n uwch. Mae’r radd Meistr Cenedlaethol yn cynnig y cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd eu hangen ar athrawon ar adeg allweddol yn eu gyrfa, a bydd y profiad dysgu ac addysgu a gynigir i holl fyfyrwyr ysgol Cymru yn y dyfodol yn ymelwa ohono.

Yr Athro Carol Campbell 
Mae’r Athro Carol Campbell yn arbenigwraig ryngwladol ym maes dysgu proffesiynol, yn OISE, Canada.   


Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Cyllido Cwestiynau Cyffredin:

Mae meini prawf cymhwysedd y cyllid yn datgan bod yn rhaid imi fod ym mlwyddyn 3 i 6 o ymarfer ar ddechrau'r cwrs. Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi fod ym mlynyddoedd 3 i 6 o'ch gwaith addysgu ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu fel ANG pan fydd y cwrs i fod i ddechrau (nid pan fyddwch yn cyflwyno cais)

Oes rhaid imi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?

Oes, er mwyn bod yn gymwys am gyllid mae'n rhaid ichi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Mae'n rhaid cynnal hyn am hyd y cwrs.

Pam mae'r cyllid ar gael i athrawon sydd ym mlynyddoedd 3 i 6 o ymarfer yn unig?

Llywodraeth Cymru sy'n cynnig y cyllid ar gyfer y rhaglen hon, fel rhan o'r Pecyn i Athrawon Gyrfa Gynnar.

Ar ôl cwblhau fy nghyfnod sefydlu fel ANG, treuliais gyfnod yn gweithio dramor / cymerais saib yn fy ngyrfa. Ydy hyn yn cyfrif?

Ni chaiff amser a dreuliwyd yn gweithio fel athro y tu allan i'r DU, neu amser a gymerwyd fel saib yn eich gyrfa, ei gyfrif fel blynyddoedd yn ymarfer.

Oes angen imi feddu ar gontract athro am isafswm cyfnod, e.e. tymor neu flwyddyn academaidd? Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?

Ydych, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid

Mae gen i gyflogaeth fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae cyfanswm fy nghontractau yn werth mwy na 0.4 CALl. Ydw i'n gymwys am gyllid?

Gallwch, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid.

 Rwy'n athro rhan-amser a/neu’n athro cyflenwi. Ga i gyflwyno cais am gyllid?

Cadarnheir cymhwysedd ar ddechrau’r rhaglen. Ar yr adeg honno, bydd yn rhaid i chi feddu ar gontract ar gyfer o leiaf un tymor.

Oes rhaid imi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl imi gwblhau'r MA mewn Addysg?

Wrth dderbyn y cyllid hwn, mae gofyn i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, yn y system addysg a gynhelir am isafswm o 2 flynedd ar ôl cwblhau'r rhaglen.

Oes gofyniad o ran cyfnod preswylio cyn i'r cwrs ddechrau?

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid eich bod wedi bod yn preswylio yng Nghymru am 3 blynedd cyn dechrau'r cwrs ac mae’n rhaid ichi aros yng Nghymru am hyd y rhaglen.

Hoffwn i hunan ariannu; faint yw'r ffioedd?

£6,500

Rydw i wedi astudio ar lefel Meistr o'r blaen. Ydw i'n gymwys am gyllid ar gyfer y rhaglen hon?

Os ydych chi wedi astudio pwnc penodol ar raglen Meistr o'r blaen, rydych yn dal i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid (ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl feini prawf eraill). Sylwer na fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol os ydych wedi astudio MEd a ariannwyd o'r blaen.

Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Beth yw fy opsiynau?

Os na fydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, gallai fod modd ichi gael lle ar y cwrs o hyd, fel myfyriwr sy'n hunan ariannu.

Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Sut ga i apelio yn erbyn y penderfyniad?Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.

Pwy sy'n penderfynu ar ddyrannu cyllid?

Wrth dderbyn eich cais, bydd y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis yn sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu pob cais cymwys er mwyn pennu'r canlyniad a dyfarnu cyllid i'r rhai sy'n llwyddiannus. Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol sy'n bartner, ac mae'n atebol i'r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sydd ag aelodau o Lywodraeth Cymru), er mwyn sicrhau atebolrwydd a goruchwyliaeth eglur. 

Sawl lle a ariennir sydd ar gael?

Mae 500 o leoedd a ariennir ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)

Ydw i'n gymwys am fenthyciad myfyriwr?

Os dyfernir cyllid Llywodraeth Cymru ichi ar gyfer yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), mae'n rhaid ichi beidio â chyflwyno cais am gymorth ariannol i ôl-raddedigion drwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) hefyd. Caiff myfyrwyr nad ydynt yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru gyflwyno cais i'r SLC.

Gwybodaeth Pellach

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen hon?

Mae'r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol, ac un sy'n arwain y sector, ar gyfer ymarferwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr. Mae'r dirwedd addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Yn ogystal â meistroli set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr, mae addysgu'n galw am y gallu i ymchwilio i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru), a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd gan yr holl ymarferwyr addysg proffesiynol yng Nghymru yr un cyfle o safon uchel i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgymryd ag ymchwil a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Beth yw'r gofynion mynediad?

Rhaid bod ymgeiswyr yn meddu ar Statws Athro Cymwysedig a rhaid eu bod yn gweithio yn sector addysg orfodol y DU ar hyn o bryd.

Ydy'r cwrs yn gofyn am ddosbarthiad gradd penodol ar lefel israddedig?

Nid yw'r cwrs yn gofyn am ddosbarthiad gradd penodol ar lefel israddedig. Mae'r gofynion mynediad fel y nodir uchod.

Beth yw'r dyddiadau cau am gyflwyno cais?

Caiff ceisiadau eu hystyried drwy gydol y flwyddyn, ond os hoffech gael eich ystyried am gyllid, mae'r dyddiadau cau canlynol yn berthnasol:

Dyddiad cau derbyn 1:12.05.2023

Dyddiad cau derbyn 2: 14.07.2023

Dyddiad cau derbyn 3: 15.09.2023

Dyddiad cofrestru hwyraf posib (rhaid bod myfyrwyr wedi cwblhau cofrestru erbyn y dyddiad hwn): 15 Hydref 2022

Beth yw Cydnabyddiaeth am Ddysgu Blaenorol?

Cydnabyddiaeth am Ddysgu Blaenorol yw'r broses o gydnabod dysgu a gyflawnwyd gan unigolyn cyn cael ei dderbyn i'r MA. At ddiben y rhaglen hon, mae'r term yn cwmpasu’r canlynol: a) Trosglwyddo Credydau - lle mae'r credydau neu'r cymhwyster wedi cael eu dyfarnu gan sefydliad addysg uwch yn y DU fel rhan o gymhwyster ffurfiol; b) Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad – lle mae dysgu a gyflawnir drwy brofiad yn cael ei asesu a'i gydnabod.

Allaf gael fy eithrio o ran o'r MA h.y. fy nerbyn drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol?

Efallai y bydd modd eich derbyn i lefel uwch yr MA ar sail modiwlau lefel M a astudiwyd mewn sefydliad arall yn y DU yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Dylech ddefnyddio’r ffurflen gais safonol i ymgeisio, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich trawsgrifiadau academaidd blaenorol yn ogystal â chopi o faes llafur y cwrs gan roi manylion am y deilliannau dysgu a phwysiad y credydau.

Pa ddogfennau bydd angen i mi eu hanfon atoch?

Yn ogystal â chwblhau proses ymgeisio safonol y Brifysgol, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais atodol hefyd sydd ar gael yma.

Datganiad o gefnogaeth gan eich Pennaeth neu uwch-gydweithiwr arall/rheolwr.

Os ydych yn cyflwyno cais am Achrediad Dysgu drwy Brofiad, bydd angen i chi gyflwyno CV. Os ydych yn cyflwyno cais am Drosglwyddo Credydau, bydd angen i chi amgáu eich Trawsgrifiad Academaidd SAC gan restru'r modiwlau.

Oes angen TGAU Iaith Gymraeg arnaf?

Nid oes angen TGAU Iaith Gymraeg arnoch i gyflwyno cais am y cwrs hwn.

Sut gallaf gofrestru am Ddiwrnod Agored Rhithwir?

Edrychwch ar wefan y Brifysgol rydych chi wedi'i dewis am fanylion diwrnodau agored rhithwir.

Rwyf wedi derbyn cynnig amodol. Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae cynnig amodol yn golygu eich bod wedi cael eich derbyn i’r rhaglen MA AR YR AMOD eich bod yn bodloni'r meini prawf a nodwyd yn eich cynnig ffurfiol.

Fydd angen i mi ddarparu datgeliad troseddol manylach penodol i'r rhaglen drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)?

Fel athro proffesiynol, byddwch eisoes wedi cael gwiriadau drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) felly ni fydd angen i chi gwblhau'r broses hon eto.

Athro yn Lloegr/yr Alban/Gogledd Iwerddon ydw i - allaf gyflwyno cais i'r rhaglen?

Gallwch. Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon o bob rhan o'r DU.

Athro ydw i sy'n gweithio yn yr UE/gwlad dramor y tu allan i'r UE - allaf gyflwyno cais am y rhaglen?

Yn anffodus, nid yw'r rhaglen hon ar gael i athrawon yn yr UE/mewn gwledydd tramor y tu allan i’r DU.

Rwyf wedi cwblhau’r GTP, a ydw i’n gymwys i ddilyn y cwrs gradd MA Addysg (Cymru) Genedlaethol? 

Ydych, mae athrawon sydd wedi cymhwyso trwy ddilyn y llwybr GTP yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer y cwrs gradd MA Addysg (Cymru) Genedlaethol. Bydd angen i chi fapio eich dysgu a/neu eich profiad yn erbyn y Deilliannau Dysgu yn adran Cydnabod Dysgu Blaenorol y ffurflen atodol sydd ar gael yma - MA Addysg Cymru Ffurflen Gais Atodol. Mae canllawiau ar sut i lenwi hon ar gael yn y polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol sydd ar gael uchod.