Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Astudiaethau Caethwasiaeth Fodern (MA, Tystysgrif y Brifysgol,Tyst Ôl-radd, Dip Ôl-radd)
Astudiaethau Caethwasiaeth Fodern (MA, Tystysgrif y Brifysgol,Tyst Ôl-radd, Dip Ôl-radd)
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd sy’n effeithio ar yr hyn a amcangyfrifir yn 45 miliwn o bobl ar draws y byd. Y nod yw darparu cyfres o raglenni a fydd yn cyfuno’r sgiliau, y pwerau a’r profiad iawn i fodloni gofynion heriol atal caethwasiaeth.
Wrth i rôl y gweithlu atal caethwasiaeth gael ei hymgorffori ymhellach yn sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat, mae angen sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gael sy’n cael ei achredu’n academaidd ac sy’n cydnabod y sgiliau a’r adnabyddiaeth o bobl sydd eu hangen ar y rôl. Mae’r portffolio MA hwn o raglenni yn darparu’r llwybr DPP achrededig hwn.
Mae’r rhaglenni wedi’u datblygu mewn cysylltiad agos a chyson ag aelodau Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru. Mae’r rhaglen gychwynnol, Tystysgrif y Brifysgol, sy’n werth 40 credyd Lefel 7, yn cydnabod pwysigrwydd a chymhlethdod rôl y rheini sy’n gweithio o fewn adrannau caethwasiaeth fodern ac yn ei phroffesiynoli ymhellach.
Ar ôl cwblhau Tystysgrif y Brifysgol yn llwyddiannus mae cyfle i ddysgwyr ychwanegu at y dyfarniad hwn drwy astudio modwl 20 credyd pellach i gyflawni Tystysgrif Ôl-raddedig. Wedi hynny, gellir defnyddio’r credydau a gyflawnir i fynd ymlaen i Ddiploma Ôl-raddedig neu MA.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.
Academi Golau Glas Benthyciadau Ôl-raddedig
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000
Pam dewis y cwrs hwn
Mae buddion eglur gan y rhaglenni hyn i’r unigolyn ac i sefydliadau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw ehangach.
I’r unigolyn mae’n cydnabod ac yn adeiladu ar ei gymhwysedd a’i arfer proffesiynol drwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n briodol, yn ddefnyddiol ac â ffocws.
I’r sefydliadau, bydd yn helpu i ddatblygu ymchwil academaidd a chan ymarferwyr ac felly gorpws o wybodaeth a fydd yn cyfoethogi cyfraniad mecanweithiau i wrthsefyll caethwasiaeth fodern er lles cymdeithasol ac yn asesu’r mecanweithiau hynny.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglenni’n defnyddio dull dysgu cyfunol gan alluogi dysgwyr seiliedig ar waith i gwblhau llawer o’r rhaglen ar-lein o bell, a chan ddarparu’r hyblygrwydd mae ei angen arnynt i ymdopi â gwaith ac astudio.
Fodd bynnag, mae digwyddiadau blynyddol wyneb yn wyneb yn caniatáu i ddysgwyr gyfuno’r dysgu cyfredol a’i ddatblygu ymhellach.
Cynigir y rhaglenni mewn talpiau bach dilynol o ddysgu (Tystysgrif y Brifysgol, Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig ac MA), gan gynnig cyfle i ddysgwyr symud ymlaen drwy’r dyfarniadau amrywiol, gan ymgymryd â gwerth rhwng 40 a 180 o gredydau o DPP. Bydd y modylau’n cynnwys dosbarthiadau meistr gan ymarferwyr cyfredol yn y maes.
Disgwylir i ddysgwyr gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion damcaniaethol i gyd-destunau ymarferol.
Mae Tystysgrif y Brifysgol, sef y rhaglen gychwynnol, yn werth 40 credyd Lefel 7, ac mae’n archwilio hanes caethwasiaeth fodern yn fyd-eang ac yn y DG, achosion pwysig a’r darlun cyfredol fel y mae materion megis Brexit ac Mae Bywydau Du o Bwys yn effeithio arno. Mae’r Dystysgrif hefyd yn archwilio’r math o droseddu, y ddeddfwriaeth sydd yn ei lle ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r sawl sy’n cyflawni troseddau ac i gefnogi dioddefwyr, a rôl y system cyfiawnder troseddol. Yn y Dystysgrif Ôl-raddedig ychwanegol mae’r rhaglen yn ystyried effeithiolrwydd yr ymateb amlasiantaethol ar raddfa genedlaethol, ranbarthol a lleol i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern ynghyd â rhan gwleidyddiaeth a’r cyfryngau.
Yn y Diploma Ôl-raddedig ychwanegol mae’r rhaglen yn ystyried y cyd-destun byd-eang a rôl yr UE a’r mecanweithiau sydd yn eu lle ar hyn o bryd i fonitro a gwerthuso lefelau o gaethwasiaeth fodern er mwyn sicrhau tryloywder a darparu ar gyfer gwersi sydd i’w dysgu. Hefyd archwilir dulliau cyfredol o ddiogelu’r rheini sy’n agored i niwed yn y gymdeithas, gan ymchwilio i effaith materion megis Llinellau Cyffuriau a Phriodas dan Orfod.
Disgwylir i ddysgwyr gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion damcaniaethol i gyd-destunau ymarferol.
I gwblhau’r MA bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar faes o ddiddordeb gan lunio astudiaeth ymchwil.
Mae hyn yn dangos y gallu i weithio’n annibynnol, adfyfyrio’n feirniadol a gweithredu’n strategol drwy gwblhau astudiaeth ymchwil a chyfrannu at anghenion sefydliad.
Defnyddir dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol ac maent yn amrywiol, yn gyfoes a phan fo’n bosibl yn gysylltiedig ag arfer proffesiynol.
Defnyddir asesu ffurfiannol yn helaeth gydol y rhaglenni i baratoi myfyrwyr am yr asesu crynodol; cyflawnir hyn drwy ymarferion ymarferol a gwblheir ar-lein a/neu a drafodir mewn sesiynau a amserlennir e.e. astudiaethau achos, gwaith ymarferol a chyflwyniadau gan ddysgwyr. Asesir pob modwl yn grynodol drwy dasgau asesu unigol sy’n rhoi adborth ar berfformiad dysgwr ar gyfer y modwl ond sy’n cynnwys cyfarwyddyd blaen-borth i gefnogi dysgwyr mewn modylau/dysgu dilynol.
Defnyddir ystod o ddulliau crynodol. Ni ddefnyddir arholiadau yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol o fewn sefyllfa atal caethwasiaeth. Gwaith cwrs a gwaith ymarferol yw’r prif strategaethau asesu am eu bod yn hwyluso asesu sy’n cyfuno gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol i’r lefel astudio ac i ofynion y gweithle. Mae’r asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau, cyflwyniadau a chynlluniau sy’n profi gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol a’r sgiliau ymarferol ac allweddol (trosglwyddadwy) sy’n adlewyrchu’r sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu defnyddio yn rôl eu swydd.
Campws Busnes Abertawe
Gweler y fideo isod i ddarganfod rhagor am ein Campws Busnes yn Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Gradd (2:2) neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Un o bryderon Grŵp Arwain Caethwasiaeth Fodern Cymru yw bod cyfle cyfyngedig i weithwyr atal caethwasiaeth proffesiynol yng Nghymru a’r DG ennill cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn y maes cymhleth iawn hwn o droseddu difrifol a chyfundrefnol.
Y nod yw darparu cyfres o raglenni a fydd yn cyfuno’r sgiliau, y pwerau a’r profiad iawn i fodloni gofynion heriol atal caethwasiaeth. Wrth i rôl y gweithlu atal caethwasiaeth gael ei hymgorffori ymhellach yn sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat, mae angen sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gael sy’n cael ei achredu’n academaidd ac sy’n cydnabod y sgiliau a’r adnabyddiaeth o bobl sydd eu hangen ar y rôl. Mae’r portffolio MA hwn o raglenni yn darparu’r llwybr DPP achrededig hwn.
Mae’r sgiliau a enillir yn ystod y rhaglen hefyd yn gallu cael eu trosglwyddo i broffesiynau neu sefydliadau eraill.
Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r rhaglen hon, er byddai disgwyl i fyfyrwyr fod â mynediad at offer TG a byddai’n rhaid iddynt dalu am eu costau teithio eu hun i’r campws.
- MSc Plismona (Arweinyddiaeth Weithredol a Strategol)
- MA Caplaniaeth
- MA Cyfiawnder Troseddol a Phlismona
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i’r adran llety i ddysgu rhagor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.