Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Astudio Crefyddau (MA)
Mae gan Astudio Crefyddau (MA) bwyslais methodolegol penodol sy’n manteisio ar arbenigedd y staff. Nod y rhaglen yw peidio â chanolbwyntio ar unrhyw draddodiad penodol, ond ei gwneud yn bosibl ymgysylltu â gwahanol draddodiadau mewn modd sy’n rhydd, sy’n deg, sy’n gywir ac sy’n agored i’w gywiro.
Mae i’r rhaglen hon ffocws penodol ar grefyddau cyfoes. Mae amrywiaeth ei fodylau, sy’n archwilio gwahanol agweddau ar grefydd heddiw, wedi ei llunio gan aelodau staff sydd â chefndir mewn cymdeithaseg, anthropoleg ac astudiaethau crefyddol. Mae’r modylau yn galluogi myfyrwyr i archwilio nid yn unig yr agweddau damcaniaethol, ond hefyd yr agweddau byw ymarferol ar ffydd ac ymarfer mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae’r MA Astudio Crefyddau yn Y Drindod Dewi Sant yn rhaglen unigryw sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil ar gyfer y posibilrwydd yr hoffent barhau ar PhD ond hefyd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn Addysg Grefyddol.
- Astudio Crefyddau (MA)
- Astudio Crefyddau (PGDip)
- Astudio Crefyddau (PGCert)
Gellir gwneud cais trwy ein ffurflen gais ar-lein:
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
£1,667
£2,964
Rheswm dros astudio
- Pwyslais methodolegol penodol sy’n manteisio ar arbenigedd y staff.
- Mae pob un o’n staff yn weithgar ym maes ymchwil, ac wrth law gydol yr amser i’ch arwain yn y cyfeiriad cywir.
- Cyfle i astudio amrywiaeth eang o wahanol draddodiadau crefyddol
- Hefyd, bydd modd i chi astudio modylau o bell sy’n eich galluogi i ryngweithio â’r myfyrwyr a’r staff – yn wir, cewch ryngweithio â ni faint a fynnoch.
- Rydym yn recriwtio nifer o fyfyrwyr rhyngwladol, ac yn cefnogi myfyrwyr o ystod amrywiol o amgylchiadau; yn wir, daw ein myfyrwyr o bedwar ban byd ac mae nifer yn dilyn yr MA wrth ymgodymu â chyfrifoldebau eraill – rydym yn cydnabod y cyd-destun arbennig hwn ar gyfer dysgwyr o bell, ac mae ein cyrsiau’n manteisio’n llawn ar y byd rhithwir ynghyd â dull personol tiwtoriaid arbenigol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Fel arfer, bydd myfyrwyr yn dechrau’r MA Astudio Crefyddau gyda’r modwl gorfodol ar Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau. Bydd yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth iddynt o’r meysydd allweddol wrth astudio crefyddau. Wedyn caiff y myfyrwyr ddewis eu tri modwl arall o restr o fodylau dewisol. Bydd y modylau hyn yn galluogi myfyrwyr i arbenigo ar agweddau penodol ar grefydd ac ar fethodolegau penodol. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu diddordeb ymchwil eu hunain oddi mewn i Astudio Crefyddau o’r dechrau.
Mae gan fyfyrwyr ddewis o astudio agwedd ar Fwdhaeth yn fanwl (Athroniaeth Fwdhaidd), Tsieina (Crefyddau Tsieina ar lawr gwlad) a / neu Ysbrydolrwydd Celtaidd (Ysbrydolrwydd Celtaidd, Sancteiddrwydd a Hagiograffeg). Mae modylau ychwanegol ar gael ym maes Astudiaethau Islamaidd (Islam Heddiw) ac agweddau ar ysbrydolrwydd amgen (e.e. yn y modylau Daearyddiaeth Gysegredig ac Esoteriaeth Orllewinol). Mae rhai modylau’n gadael i fyfyrwyr ystyried crefydd o safbwynt cymharol megis Crefydd a’r Amgylchedd a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol. Gall myfyrwyr hefyd archwilio ffenomenon profiad crefyddol ac ysbrydol (Profiad Crefyddol Heddiw) – sef maes pwnc y mae’r Athrofa yn ei ystyried yn bwysig o ystyried lleoliad Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol ar gampws Llambed.
Wrth ddewis eu hopsiynau, dylai myfyrwyr ystyried y modylau sydd fwyaf perthnasol i bwnc eu traethawd hir a bydd yr arbenigwr pwnc yn rhoi cyngor iddynt yn hyn o beth.
Mae Rhan II yn cynnwys traethawd hir 60-credyd o 15,000 o eiriau. Bydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd yn Rhan I wrth gyflawni’r darn estynedig hwn o ymchwil personol.
Bydd y modylau a ddarperir bob blwyddyn academaidd yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio’r modwl hwnnw. Ni chynigir pob opsiwn ar eich Rhaglen Astudio bob blwyddyn o reidrwydd.
Modylau Gorfodol | |
HPRS7010C | Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau |
HPRS7007C | Traethawd Hir Meistr |
Modylau Dewisol | |
HPRS7009C | Profiad Crefyddol Heddiw |
HPRS7006C | Islam Heddiw |
HPRS7001C | Daearyddiaeth Sanctaidd |
HPRS7011C | Esoteriaeth Orllewinol |
HPRS7008C | Crefydd a’r Amgylchedd |
HPCS7005C | Ysbrydolrwydd Celtaidd, Sancteiddrwydd a Hagiograffeg |
HPRS7004C | Crefyddau Tsieina ar lawr Gwlad |
HPRS7005C | Cyfarfyddiad Rhyng-grefyddol |
HPPH7017C | Athroniaeth Fwdhaidd |
Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau hir (fel arfer 4,000 o eiriau), adolygiadau beirniadol byrrach, cynigion ymchwil, a thasgau byrrach eraill. Nid oes arholiadau. Mae’r traethawd hir yn un darn o waith 15,000 o eiriau.
Gwybodaeth allweddol
Fel arfer, gradd israddedig dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch yw’r gofyniad mynediad ar gyfer y radd hon. Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr a chanddynt gymhwyster proffesiynol cyfwerth a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol. Os nad ydych yn sicr a fyddech yn cael eich derbyn ar yr MA, fe ddylech gysylltu â Chydlynydd y Rhaglen am sgwrs anffurfiol. Caiff pob cais ei asesu ar ei rinweddau ei hun.
Mae’r cwrs hwn yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy craidd mewn dealltwriaeth grefyddol, sensitifrwydd rhyngddiwylliannol, a hunanadfyfyrio sydd o werth i gyflogwyr. Fel arfer, mae myfyrwyr yn mynd yn eu blaen i weithio mewn nifer o broffesiynau, gan gynnwys addysgu, bancio a busnes ariannol, marchnata a hysbysebu, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, iechyd a gofal cymdeithasol, cwnsela, a gwasanaeth cwsmeriaid.
Gwneir amcangyfrifon ar y dybiaeth y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
- Astudiaethau Rhyng-ffydd (MA)
Fersiwn Saesneg: Interfaith Studies (MA) - Astudiaethau Islamaidd (MA)
Fersiwn Saesneg: Interfaith Studies (MA) - Athroniaeth a Chrefydd: (MA)
Fersiwn Saesneg: Philosophy and Religion: Eastern and Western Thought (MA) - Profiad Crefyddol (MRes)
Fersiwn Saesneg: Religious Experience (MRes)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.