Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Dehongli’r Beibl (MA)

Dehongli’r Beibl (MA)



Mae’r MA mewn Dehongli’r Beibl yn rhaglen astudio o ansawdd uchel a gynigir gan arbenigwyr yn y maes Astudiaethau Beiblaidd. Trafodir cyd-destun a llenyddiaeth y Beibl o berspectif hanesyddol a chyfoes.

Mae gennym draddodiad hir a nodedig o ddarparu cyrsiau arbenigol mewn Astudiaethau Beiblaidd, tra bod ein staff yn cyhoeddi ymchwil sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Bu Diwinyddiaeth a Chrefydd yn rhan annatod o fywyd a’r addysgu academaidd ar gampws Llambed ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymptheg. Yr oedd yr addysgu mewn Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd ar y campws ymhlith y rhai cynharaf o’i fath ym Mhrydain a’r cyntaf yng Nghymru. Os ydych yn cofrestru ar ein rhaglen MA, byddwch yn ymuno â chymuned fyd-eang o fyfyrwyr sydd yn elwa ar draddodiad hir a chyfoethog o addysgu o’r safon uchaf.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu              Cais am Wybodaeth                        Gwnewch Gais Nawr         
E-bost Cyswllt: c.h.williams@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Catrin H Williams


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000

Rheswm dros astudio’r cwrs hwn

  • Gallwch ddewis o ystod eang o bynciau diddorol a addysgir gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigwyr ym maes Astudiaethau Beiblaidd.
  • Bydd myfyrwyr yn cyfranogi o ddiwylliant bywiog oherwydd yr ymchwil flaengar a gyhoeddir gan ein staff academaidd.
  • Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach, yn ogystal ag ystod o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i’r gweithle.
  • Cynigir y rhaglen yn rhan amser, addysgu o bell, a gellir cychwyn yn mis Hydref neu yn mis Chwefror.
  • Gan fod y cwrs yn un dysgu o bell, gallwch astudio o’ch cartref eich hun gan ddefnyddio Moodle (ein llwyfan dysgu o bell), cynnwys y cwrs a’r deunydd darllen a ddarperir gan eich darlithwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd yn cynnig diwylliant ymchwil cyfoethog a bywiog, ac anogir ei myfyrwyr MA i gymryd rhan yn ei seminarau ymchwil.

Cynigir y rhaglen hon yn rhan amser drwy ddysgu o bell. Darperir holl gynnwys y modylau drwy Amgylchedd Dysgu Rhithiwr (Virtual Learning Environment, VLE) a bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth cyson gan eu tiwtoriaid, un ai un-wrth-un (ebost, Teams, ffôn) neu mewn grwpiau (drwy Teams) neu drwy fforwm trafod y VLE neu wikis.

Byddwn bob blwyddyn yn cynnal ysgol haf breswyl ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig. Caiff myfyrwyr y cyfle i gyfranogi mewn darlithoedd a seminarau ar amryw o bynciau ac i drafod gyda myfyrwyr ymchwil eraill.

Pynciau Modylau

Rhan I: Modylau (120 o gredydau)

  • The Bible: Text and Transmission
  • Contemporary Approaches to Biblical Interpretation
  • From Patriarchs to Prophets
  • The Gospel of John
  • Jewish-Christian Relations
  • Celtic Sanctity, Spirituality & Hagiography

** Cynigir seminarau a tiwtorialau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y modylau uchod.

Rhan II: Traethawd hir (60 o gredydau)

Traethawd hir 15,000 o eiriau o dan gyfarwyddyd arbenigwr yn y maes. Bydd y prosiect hwn yn gyfle i chi fynd ar ôl ac i ddatblygu eich diddordebau ymchwil, boed fel sail i ymchwil doethurol neu o ran chwilfrydedd academaidd yn y pwnc.

Asesiad

Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), adolygiadau, aseiniadau testunol, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto I gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ol-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.

Costau Ychwanegol

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.