Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (MA)
Cymhwyster ôl-radd unigryw drwy ddarpariaeth dysgu-o-bell yw’r MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, sef yr un gyntaf o’i bath yn Ewrop. Mae’n rhan o genhadaeth y Brifysgol i gyfrannu at y bwrlwm cyffrous o weithgareddau ym maes cynllunio iaith a datblygiad dwyieithrwydd / amlieithrwydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.
Cais am Wybodaeth Sut i Wneud Cais Cyllid Ôl-raddedig
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Tramor (pellter / ar-lein): £10,400
Mae'r ffioedd ar gyfer y cwrs cyfan.
Pam dewis y cwrs hwn?
Manteisia’r radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y maes. Mae’r Brifysgol yn rhan o rwydwaith ymestynnol o sefydliadau ar draws Ewrop lle mae dwyieithrwydd, amlieithrwydd a chynllunio iaith yn nodwedd feunyddiol.
Oddi ar sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, rhoddwyd ffocws newydd i’r ymdrechion i ddiogelu ac adfer y Gymraeg, ac ystyrir creu Cymru ddwyieithog yn nod cenedlaethol cyraeddadwy. Gosod y datblygiadau cyffrous hyn yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd.
Er ei pherthnasedd i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig, mae’r i’r radd MA ffocws rhyngwladol y gellir elwa arno er budd y sefyllfa yn genedlaethol.
Mae’r rhaglen yn anelu at:
- ddarparu ystod o agweddau ar faes dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yng Nghymru a chyd-destunau rhyngwladol;
- ddatblygu gallu myfyrwyr i ddadansoddi’n feirniadol y ffactorau amrywiol sydd ymhlŷg ag astudio dwyieithrwydd/amlieithrwydd ac i berthnasu’r ffactorau hynny â chyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol;
- ddarparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol;
- gyflwyno i fyfyrwyr y syniadaeth a’r ymchwil mwyaf perthnasol yn y maes sydd yn sail i’r damcaniaethau a’r doethineb diweddaraf;
- ddatblygu medrau trosglwyddadwy myfyrwyr a’u gallu i ymchwilio, dehongli a gwerthuso’n feirniadol;
- ddatblygu medrau gwybyddol myfyrwyr gan gynnwys eu gallu i resymu, dadansoddi’n feirniadol, yn ogystal â meddwl yn greadigol gan arfarnu unrhyw bolisïau presennol ym maes dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a chynnig gwelliannau.
Canolbwyntir ar amryw agweddau ar ddwyieithrwydd a chynllunio iaith sydd yn berthnasol i ystod o swyddi proffesiynol a galwedigaethol yn ymwneud â iaith gan ymestyn a dyfnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mewn meysydd penodol.
Bydd y medrau proffesiynol / galwedigaethol a gysylltir â’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i:
- gwrdd â’r her sy’n wynebu unigolion ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith;
- ymgymryd â phrosiectau sy’n ymwneud ag amryw agweddau ar y maes;
- gynnal ymchwil unigol ac, fel rhan o dîm, i hyrwyddo cynlluniau a strategaethau ieithyddol;
- ddadansoddi a dehongli data sy’n ymwneud ag amryw ddatblygiadau;
- ddangos hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh mewn cyflwyniadau ac wrth gyfathrebu.
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr wneud astudiaethau maes yn achlysurol (e.e. yn yr Alban ac yn Iwerddon) i astudio prosiectau yn ymwneud ag adfywio ieithyddol a, phan yn ddaearyddol gyfleus, i fynychu cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddwyieithrwydd a chynllunio iaith.
Mantais y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd i fyfyrwyr yw’r hyblygrwydd sydd yn caniatáu iddynt feithrin y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol drwy ddysgu o bell ac astudio’n rhan-amser neu yn amser -llawn, a hynny gyda chymorth technoleg a’r deunydd darllen a ddarperir. Gellir astudio cyn lleied â dau fodwl y flwyddyn gan rannu’r gost dros gyfnod yr astudiaeth. Astudir y cwrs bellach gan fyfyrwyr yng Nghymru ac ar draws y byd, gan gynnwys, er enghraifft, Yr Eidal, Y Swistir, Tsiecoslofacia, Cyprus, Groeg a Mongolia.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynigia’r radd fodylau sydd yn cwmpasu amrediad eang o agweddau ar ddwyieithrwydd a chynllunio iaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Gellir cynnig llwybrau gwahanol sydd yn ateb gofynion galwedigaethol a phroffesiynol amrywiol. Cynhwysa bum modwl yn Rhan Un a thraethawd tua 15,000 o eiriau yn Rhan Dau.
Yn Rhan Un gellir dewis o blith amrywiaeth o fodylau yn ôl anghenion proffesiynol neu alwedigaethol personol gan gynnwys y canlynol :-
- Agweddau Gwybyddol ar Ddwyieithrwydd
- Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn yr Unigolyn
- Dwyieithrwydd Cymdeithasol
- Hanfodion Cynllunio Iaith
- Hyrwyddo’r Gymraeg
- Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog
- Y Gyfadran Addysg a Chymunedau: Traethawd Hir
Testun o ddewis y myfyriwr / fyfyrwraig ei hun fydd y traethawd yn Rhan Dau yn seiliedig ar agweddau a astudiwyd ym modylau Rhan Un, ond a gymeradwyir gan Gyfarwyddwr y Rhaglen ymlaen llaw. Disgwylir y rhydd hynny gyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwil mewn maes a fydd, unwaith yn rhagor, yn berthnasol i’w galwedigaeth ac yn hyrwyddo’u datblygiad proffesiynol.
Er i strwythur y radd ganiatáu astudio un modwl yn unig, drwy gwblhau tri modwl yn llwyddiannus gall myfyrwyr fod yn gymwys ar gyfer ennill Tystysgrif Ôl-raddedig Prifysgol Cymru mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, a Diploma Ôl-raddedig Prifysgol Cymru mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd drwy gwblhau pum modwl. Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau’r traethawd hir ychwanegol ar gyfer y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd.
Crynodeb o brif amcanion modylau unigol:
Agweddau Gwybyddol ar Dwyieithrwydd (30 credyd; dewisol)
Archwilio unrhyw effeithiau deallusol, gwybyddol a meta-ieithyddol posibl ar yr unigolyn y gellir eu priodoli i ddwyieithrwydd.
Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn yr Unigolyn (30 credyd; dewisol)
Archwilio agweddau amrywiol ar hanfod dwyieithrwydd ac amlieithrwydd ar lefel yr unigolyn gan hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddatblygiad damcaniaethau a chysyniadau academaidd cyfredol am y ffenomenau hynny. Cynhwysir amlieithrwydd yn ogystal wrth gyfeirio at ddwyieithrwydd isod.
Dwyieithrwydd Cymdeithasol (30 credyd; dewisol)
Archwilio’n fanwl y prif ffactorau sydd yn gallu dylanwadu ar fywioldeb, sefydlogrwydd, ymlediad, dyfudiad neu dranc ieithoedd lleiafrifol, gan dalu sylw i broses cynllunio ieithyddol.
Hanfodion Cynllunio Iaith (30 credyd; dewisol)
Ystyried yn feirniadol brif agweddau damcaniaethol y maes cynllunio iaith, gan gyfeirio at ddamcaniaethau a dadansoddiadau perthnasol ac at enghreifftiau ymarferol a dynnir o Gymru a gwledydd tramor ynghyd â thrafod y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Hyrwyddo’r Gymraeg (30 credyd; dewisol)
Rhoi cyfle i’r myfyrwyr astudio sut yr hyrwyddir y Gymraeg yng Nghymru trwy gynllunio iaith. Edrychir ar y modd y mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo’r Gymraeg, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Edrychir hefyd ar sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan asiantaethau’r wladwriaeth ac eraill.
Er mwyn sicrhau perthnasedd proffesiynol, rhoddir cyfle digonol i fyfyrwyr gymhwyso at eu dibenion eu hunain y deunydd a gyflwynir iddynt, ac i gyfeirio at eu meysydd gwaith unigol yng ngorff yr aseiniadau.
Plîs sylwch, mae modiwlau'n newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog (30 credyd; dewisol)
Astudio amrediad o fodelau a gwmpesir gan y term “addysg ddwyieithog” ac, yng nghyd-destun eu hamcanion gwleidyddol ac addysgol, i werthuso eu heffeithiolrwydd o safbwynt eu gallu i sicrhau lefelau dwyieithrwydd cytbwys mewn unigolion.
Y Gyfadran Addysg a Chymunedau: Traethawd Hir (60 credyd; gorfodol)
Darparu cyfle i ymgymryd ag ymchwil beirniadol a gwerthusol sy’n ymwneud â materion a dadleuon sy’n berthnasol i gynllun gradd y myfyriwr a darparu perthynas diwtora unigol gefnogol a beirniadol effeithiol i annog cynnydd strwythuredig, cyson a boddhaol o ran gwybodaeth, sgiliau ymchwil a deilliannau.
Mabwysiedir amryw ddulliau asesu er mwyn galluogi myfyrwyr i arddangos eu gwybodaeth a’u medrau mewn perthynas â’r deilliannau dysgu, gan gynnwys:
- aseiniadau ysgrifenedig
- cyflwyniadau
- traethodau hir.
Dewisir dulliau asesu ar sail eu haddasrwydd gogyfer â sicrhau y gall myfyrwyr arddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau dysgu hynny a nodir yn glir ar gyfer pob modwl ac y seilir meini-prawf yr asesu arnynt.
Ar ddechrau pob modwl fe ddarperir i bob myfyriwr:
- yr aseiniad(au) ar gyfer asesu’r modwl ynghyd â phwysoliad pob aseiniad
- rhestr o’r meini prawf a ddefnyddir i farcio aseiniad neu gyflwyniad
- cyfarwyddyd ychwanegol parthed gofynion y dasg/tasgau a osodwyd a dyddiadau ar gyfer cyflwyno.
O ganlyniad i gwblhau aseiniad, caiff pob myfyriwr:
- adroddiad ffurfiol a fydd yn cynnwys asesiad o’r meini-prawf unigol y seiliwyd y marc terfynol arnynt, ynghyd ag adborth a fydd hefyd yn cynnwys sylwadau ar sut i wella fel rhan o broses ffurfiannol
- cyfle i drafod yr aseiniad ymhellach â thiwtor os oes angen
Ail-asesir pob aseiniad yn fewnol gan ail-farciwr yn ogystal ag arholydd allanol.
Gwybodaeth allweddol
- Dr Hywel Glyn Lewis
- Dr Christine Jones
- Andrew Currie
- Dr Kathryn Jones (IAITH: y ganolfan cynllunio iaith)
Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad ynghyd â Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd.
Dilyna’r Ysgol ganllawiau’r Brifysgol parthed y cymwysterau angenrheidiol megis y nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Beth bynnag, caniatâ’r canllawiau hyn hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol.Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod.
Fel arfer, gofynnir i fyfyrwyr rhyngwladol nad yw’r iaith Saesneg yn famiaith iddynt ac sydd yn ceisio am gyrsiau ôl-radd ddangos tystiolaeth am feistrolaeth ddigonol ar yr iaith Saesneg ar gyfer dilyn cwrs, ymgymryd ag ymchwil a chynhyrchu gwaith ysgrifenedig heb drafferthion ieithyddol sylweddol. Fel arfer, disgwylir tystiolaeth Tystysgrif Uwch neu Hyfedredd Caergrawnt, sgôr lleiafswm 6.5 gan IELTS, 575 gan TOEFL neu 700 gan TOEIC.
Ar ôl derbyn ceisiadau a’u harchwilio gan Bennaeth yr Ysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen, gwahoddir pob ymgeisydd cymwys am gyfweliad. Cyfwelir myfyrwyr astudio-o-bell sydd dramor ar Skype neu ar y ffôn ac o dan yr un amodau trwyadl â’r rheiny a gyfwelir yn y brifysgol.
Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes sydd yn ein galluogi i gynnig ystod o fodylau i gwrdd â gofynion datblygiad proffesiynol a diddordebau personol. Y mae ffocws y radd yn eang ac, felly, mae’n addas ar gyfer ystod o feysydd proffesiynol gyda’r nod i arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth gefndirol a’r sgiliau angenrheidiol i fedru gweithio’n hyderus ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith. Mae’r cwrs yn cynnig ystod eang o brofiadau ac, felly, bydd yn apelio at unrhyw un sydd yn gysylltiedig â datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg ac / neu ieithoedd eraill yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys, er enghraifft:
- Athrawon a Hyfforddwyr
- Cyfieithwyr
- Gweithwyr Ieuenctid / Cymunedol
- Swyddogion Iaith
- Cynllunwyr Iaith
- Swyddogion y Llywodraeth / Llunwyr Polisi
Cynigia’r radd MA gyfle i fynd ymlaen i wneud gwaith ymchwil yn ddiweddarach ar gyfer gradd Ph.D os dymunir.
Nodweddion arbennig y radd:
- Mae gan y Brifysgol arbenigedd eang ynghyd â phroffil ymchwil cryf ym maes cynllunio iaith a dwyieithrwydd
- Mae’r Brifysgol yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ar draws Ewrop sy’n ymwneud â dwyieithrwydd, amlieithrwydd a chynllunio iaith a gwneir y defnydd mwyaf o gyfleoedd i gydweithio a chyfnewid gwybodaeth
- Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes sydd yn ein galluogi i gynnig ystod o fodylau i gwrdd â gofynion datblygiad proffesiynol a diddordebau personol
- Mae hwn yn gwrs ôl-radd sydd yn berthnasol i’r agenda ieithyddol cenedlaethol a rhyngwladol ac y gellir ei astudio gartref ac o bell, yn amser-llawn neu yn rhan-amser