Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (MA) (Ardystiad ETS)
Diben rhaglenni Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) (PgDip, MA) yw arfogi myfyrwyr â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddod yn weithwyr ieuenctid effeithiol sydd â chymwysterau proffesiynol. Caiff y rhaglenni eu hardystio'n broffesiynol gan ETS Cymru, gan gynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid.
Gweledigaeth y rhaglenni yw creu ymarferwyr ac arweinwyr effeithiol ac adfyfyriol, ac mae'r rhaglen yn herio myfyrwyr i fagu mwy a mwy o annibyniaeth wrth nodi eu hanghenion dysgu a datblygu eu hunain.
Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol mae’r rhaglenni’n archwilio heriau cyfredol a chyfoes y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, gan gynnwys:
- Trawma
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Camddefnyddio Sylweddau
- Llinellau Cyffuriau
- Hawliau Plant
- Iechyd a Llesiant
- Effaith perthnasoedd
Mae’r rhaglenni’n cyfuno theori, polisi ac arfer ar ddull cymhwysol er mwyn galluogi graddedigion i fod yn academyddion, ymarferwyr ac arweinwyr rhagorol.
- Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (MA) (Ardystiad ETS)
- Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (PgDip) (Ardystiad ETS)
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000
5 Rheswm dros astudio
- Ennill cymhwyster sy'n cael ei gymeradwyo'n broffesiynol a chymhwyster ôl-raddedig academaidd
- Archwilio ymarfer gyda phobl ifanc a'u cymunedau trwy gymryd rhan mewn cyfleoedd lleoliadau gwaith ieuenctid ymhlith ystod eang o bobl ifanc a lleoliadau cymunedol.
- Y Drindod Dewi Sant yw’r unig le y gallwch astudio’r radd hon trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Staff brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sy’n weithwyr proffesiynol cymwys yn eu maes a chanddynt arbenigedd cydnabyddedig.
- Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol unigol. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o gael eu haddysgu mewn grwpiau bach mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd yr MA a’r PgDip Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda phobl ifanc, cymunedau a theuluoedd, ac i fod yn ymarferwyr sy’n addas i’r diben yn y 21ain ganrif. Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, bydd y rhaglenni yn archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau mewn modd cymhwysol, gydag ymrwymiad eglur i gyfiawnder cymdeithasol, arfer gwrth-ormesol, ac wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion craidd gwaith ieuenctid.
Mae’r cyrsiau’n paratoi myfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc ar nifer o broblemau sy’n gyfredol iawn yn y gymdeithas sydd ohoni, megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, Tlodi a Gordewdra ymhlith pobl ifanc, ac mae’n archwilio’r rhain mewn modd cymhwysol, gan dynnu ar ymchwil cyfredol ac arfer gorau er mwyn paratoi graddedigion i fod yn ymarferwyr ac arweinwyr effeithiol ac adfyfyriol iawn yn eu dewis feysydd. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn gyflawn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddatblygu a chryfhau darpariaeth benodol wedi’i hanelu at gefnogi a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n fwy agored i niwed neu sydd ar y cyrion” (LlC, 2019, t.13).
Lefel 7
Diploma Ôl-raddedig
- Arfer Proffesiynol 1: Theori, Polisi ac Arfer Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (30 credyd; craidd)
- Arfer Proffesiynol 2: Pobl Ifanc a Chymdeithas mewn Ffocws (30 credyd; craidd)
- Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol (30 credyd; gorfodol).
Yn ogystal bydd myfyrwyr yn dewis un o’r modylau dewisol canlynol:
- Goruchwylio, Arwain a Rheoli i Weithwyr Proffesiynol (30 credyd; dewisol)
- Arwain Hawliau Plant: Datblygu Arfer Proffesiynol (30 credyd; dewisol)
- Cymunedau Cynaliadwy (30 credyd; dewisol)
- Cymhwyso Dulliau Theatr mewn Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (30 credyd; dewisol).
MA
Yn ogystal â’r themâu uchod bydd yn ofynnol i’r myfyrwyr astudio:
- Traethawd Hir (60 credyd; gorfodol).
Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Angharad Lewis, Cyfarwyddwr Rhaglen
- Darrel Williams, Cydlynydd Gwaith Maes
- Dr Nichola Welton, Uwch Ddarlithydd
- Alana Enoch, Darlithydd
- Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Fel arfer bydd gofyn bod gan ymgeiswyr radd anrhydedd.
- Caiff ymgeiswyr sydd â chymwysterau a phrofiadau galwedigaethol hefyd eu hystyried.
- O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 200 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.
Caiff graddedigion MA a PgDip Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) gymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid. Gellir ystyried y cymhwyster proffesiynol hwn yn basbort i ymarfer, oherwydd bod y cymhwyster yn cael ei gydnabod ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd ar draws y byd.
Mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir, gan weithio wyneb yn wyneb â phobl ifanc neu’n gweithio ar lefelau rheoli. Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.
Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:
- Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau
- Addysg gymunedol
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Timau o Amgylch y Teulu
- Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
- Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
- Local Government Officer
- Prif Swyddog Ieuenctid
- Darlithwyr mewn Addysg Uwch
- Darlithwyr mewn Addysg Bellach
Gorfodol:
Costau DBS.
Costau Angenrheidiol:
Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad ar bob lefel astudio).
Optional:
Dim
- Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol(BA)(Ardystiad ETS Cymru)
- Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol(BA)(Ardystiad ETS Cymru) gyda Blwyddyn Sylfaen
- Gwaith gyda Phobl Ifanc (BA)
- Gwaith gyda Phobl Ifanc (BA) gyda Blwyddyn Sylfaen
- Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (PG Dip) (Ardystiad ETS)
Rwy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn ddiweddar cwblheais i’r rhaglen MA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Rwy’n weithiwr ieuenctid ers pum mlynedd lle rwy wedi cael fy ngrymuso i gefnogi a gweithio gyda phobl ifanc i gyflawni eu llwybrau a chael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Yn y cyfamser, rwy wedi bod yn fwy na ffodus i gyflawni MA Gwaith Ieuenctid a Chymuned ac mae wedi gwella fy nysgu a'm gwybodaeth fy hun o ran gwaith ieuenctid, gan gynnwys yr egwyddorion a'r gwerthoedd ymarferol. Yn bwysicach, mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn cydnabyddedig sydd wedi'i gymeradwyo gan y JNC lle mae'n cael bri i’w glywed a’i weld, gan weithredu ar y cyd â'r person ifanc. O gwblhau'r cwrs, rwy wedi elwa'n fawr o gael y profiad a'r sgiliau i ddatblygu a chyflwyno gwaith ieuenctid i bobl ifanc sy'n agored i niwed mewn cymdeithas. Yn yr un modd, roedd y rhaglen wedi fy ngrymuso i archwilio'n feirniadol a chynyddu fy ngwybodaeth am ddeddfwriaeth gyfredol, egwyddorion addysg anffurfiol a dealltwriaeth o gymdeithas, a oedd wedi bod o fudd i mi fy hun yn ymarferol i ddarparu darpariaeth gadarn ar gyfer pobl ifanc. Yn yr un modd, mae'r cwrs wedi ehangu fy nghyfleoedd gwaith a bues i’n ffodus i ymgymryd â rolau mwy yn yr Awdurdod Lleol.
Gwenllian Evans
A minnau’n fyfyriwr gweddol aeddfed sydd â rôl strategol genedlaethol brysur mewn gwaith ieuenctid, y rhesymau y dewisais i astudio'r PgDip mewn Gwaith Ieuenctid, yn bennaf, yw fy mod i am gael profiad ‘ar lawr gwlad’ i gael gwell dealltwriaeth o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc. Mae gen i gymhwyster lefel Meistr eisoes ac roeddwn i'n awyddus i 'gwblhau' fy mhortffolio gyda chymhwyster galwedigaethol. Yn olaf, yn unol â'm swydd gyflogedig, roeddwn i’n awyddus i gael dilysiad ar lefel arall ar gyfer fy rôl drwy ennill cymhwyster gwaith ieuenctid proffesiynol perthnasol. Rwy hefyd yn edrych ymlaen at allu cofrestru’n weithiwr ieuenctid proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Ar ôl ennill cymhwyster, bydda i wedi llwyddo i fynd i'r afael â'r 'bylchau' hyn ond rwy wedi ennill cymaint yn fwy - rwy wedi cwrdd â gweithwyr gwych, rhai pobl ifanc ysbrydoledig ac wedi dod ar draws ac wedi delio â rhai amgylchiadau heriol hefyd. Mae hyn i gyd wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o ddarpariaeth gwaith ieuenctid modern, ac rwy'n siŵr y bydd hynny o gymorth mawr i mi yn fy rôl polisi.
Tim Opie
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.