Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Perfformio (Répétiteur a Chyfeiliant) (MA)
Mae’r rhaglen Repetiteur a Chyfeiliant ar ffurf prentisiaeth, a gellir ei hastudio dros 1 flwyddyn yn llawn amser neu dros 2 flynedd yn rhan amser. Yn alwedigaethol ac ymarferol ei gyflwyniad, byddwch yn treulio amser wrth y piano ochr yn ochr â gwahanol gantorion, hyfforddwyr ac arweinwyr enwog yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfeilydd/répétiteur.
Wedi ei sefydlu gan y Tenor byd-enwog Dennis O’Neill, a bellach yn rhan o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bydd myfyrwyr yn elwa o arbenigedd artistiaid ac ymarferwyr byd-enwog i’w paratoi ar gyfer cyflymder y diwydiant perfformio operatig.
Gan ddarparu amgylchedd arbenigol ac unigryw iawn ar gyfer nifer fach o gyfeilyddion, bydd myfyrwyr yn gweithio gyda thechnegwyr lleisiol gorau, hyfforddwyr, arweinyddion enwog a sêr rhyngwladol y byd operatig er mwyn datblygu eu crefft i’r safon uchaf un.
Bydd myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â’n staff ac artistiaid gwadd fel répétiteurs a chyfeilyddion ar gyfer myfyrwyr lleisiol o fewn gwersi, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau. Mae’r cwrs wedi’i seilio ar egwyddor dysgu drwy brofiadau, gan alluogi mewnbwn o ystod o wahanol safbwyntiau o’r diwydiant yn eich datblygiad trwy gydol y rhaglen astudio.
Ewch i adran gwneud cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth SUT I WNEUD CAIS
Cartref/tramor: Ysgoloriaethau ar gael Tramor: Ysgoloriaethau ar gael Cysylltwch â d.bebbington@uwtsd.ac.uk
Pam dewis y cwrs hwn
- Cwrs pwrpasol wedi’i deilwra i’ch anghenion unigol.
- Dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi rheolaidd gan artistiaid opera rhyngwladol ac arweinyddion byd-enwog
- Cyfleoedd i weithio gyda chanwyr mewn ystod o wahanol gyd-destunau.
- Wedi ei leoli yng Nghaerdydd, prifddinas gwlad y gân.
- Paratoad ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyflym hwn.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wedi ei sefydlu gan y Tenor byd-enwog Dennis O’Neill, a bellach yn rhan o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bydd myfyrwyr yn elwa o arbenigedd Meistri yn eu meysydd a Sefydliad Addysgol sydd ar flaen y gad i’w paratoi ar gyfer cyflymder y diwydiant perfformio operatig sy’n newid yn barhaus.
Mae’r Academi yn darparu amgylchedd arbenigol ac unigryw iawn ar gyfer nifer fach o gyfeilyddion eithriadol yng nghyfnod cynnar eu gyrfa broffesiynol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda’r goreuon, hyfforddwyr, arweinwyr gwadd enwog a sêr rhyngwladol o’r byd operatig, er mwyn datblygu eu talent i’r safonau proffesiynol uchaf.
Mae moeseg waith yr Academi wedi’i seilio ar barch a chydweithredu. Wedi meithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a pharhau â pherthnasoedd gyda myfyrwyr sydd bellach yn gweithio yn y diwydiant, teimlwn y gallwn gynnig hyfforddiant ac addysg sy’n parhau’n gyfoes i’r myfyrwyr sy’n ymuno â ni.
- Perfformio Cyngerdd Cyhoeddus (40 credyd)
- Repertoire a Pherfformiad Cân Gelf (40 Credyd)
- Repertoire a Pherfformiad Operatig (40 Credyd)
- Portffolio Arfer Proffesiynol (60 credyd)
- Asesir y rhaglen hon drwy ystod o ddulliau gan gynnwys:
- Perfformio
- Datganiadau
- Cyfweliad Academaidd
- Portffolio
- Traethawd
- Clyweliad Ffug
Bywyd Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
- Dennis O’Neill
- Jane Samuel
- Gareth Jones
- David Doidge
- Jacqueline Pischorn
- Pierre-Maurice Barlier
- Jolanda Pupillo
- Tanya Harrison
- David Bebbington
Gwahoddir pob ymgeisydd am glyweliad. Byddai clyweliad llwyddiannus yn cael ei ddilyn gan gyfnod prawf.
Cewch eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd posibl mewn perfformiad lleisiol, Opera, theatr, addysg a meysydd eraill cysylltiedig â cherddoriaeth. Byddai cwblhau’r rhaglen hefyd yn eich galluogi i symud ymlaen i astudiaethau pellach ac ymchwil.
Tua £400: gwerslyfrau, sgoriau a theithio i/o berfformiadau.
- Astudiaethau Lleisiol Uwch (MA) – Fersiwn Saesneg: Advanced Vocal Studies (MA)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.