Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Theatr (Perfformio) (MA)

MA Theatr: Perfformio



Mae’r rhaglen ôl raddedig hon, sy’n flwyddyn o hyd, yn hynod ymarferol a dwys ac yn cynnig hyfforddiant a fydd yn datblygu artistiaid proffesiynol y dyfodol.

Mae’r rhaglen nid yn unig yn canolbwyntio ar actio, canu a dawnsio; ond hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau Cyfarwyddo a hyfforddiant Theatr Gorfforol.

Gellir teilwra’r radd ar gyfer y myfyriwr unigol a rhydd gyfle i ddatblygu’n artist unigryw. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.

Mae'r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion a dawnswyr y dyfodol. Mae moeseg waith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae'r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Ymgeisio Nawr

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Oriau cyswllt uchel gyda staff
  2. Tri pherfformiad cyhoeddus gyda chriw technegol proffesiynol
  3. Cysylltiadau cryf â’r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt
  4. Arddangosfa berfformio yn Llundain
  5. Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau’r myfyriwr fel perfformiwr amryddawn gyda phwyslais ar:

1. Perfformiadau Cyhoeddus

Rhoddir profiad i fyfyrwyr sy’n cyfateb i weithio ar nifer o berfformiadau proffesiynol a lwyfennir. Byddant yn ymarfer ac yn perfformio nifer o rannau dan gyfarwyddyd ac amodau cynhyrchu proffesiynol. Disgwylir i'r myfyrwyr ddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr, ac mewn cydweithrediad â’u cymheiriaid. 

2. Sgiliau a Thechnegau Craidd

Gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o fodylau er mwyn arbenigo, gan gynnwys:

  • Dawns Pellach
  • Canu Pellach
  • Hyfforddiant Lleisiol Pellach
  • Dyfeisio a Theatr Gorfforol
  • Cyfarwyddo 1

3. Datblygiad Proffesiynol

Bydd datblygiad proffesiynol yn cynnwys arddangosfa berfformio i asiantau a pharatoi portffolio datblygiad proffesiynol. Bydd y portffolio’n cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol. Fe’i datblygir drwy ymgynghori’n agos â Thiwtor Personol a’i deilwra ar gyfer gofynion proffesiynol penodol pob myfyriwr.  Fel cyfanwaith, bydd cynnwys y portffolio’n dystiolaeth o broffil artistig unigol y myfyriwr gan adfyfyrio ar ei ddatblygiad parhaus yn berfformiwr.

Pynciau Modylau

Lefel 7 (MA, Dip Ôl-radd, Tyst Ôl-radd)

  • Actio Uwch 1 (20 credyd; gorfodol)
  • Canu Pellach (20 credyd; dewisol)
  • Cyfarwyddo 1 (20 credyd; dewisol)
  • Cynhyrchu Mawr (60 credyd; gorfodol)
  • Dawns a Theatr Gorfforol (20 credyd; dewisol)
  • Perfformiadau Cyhoeddus (40 credyd; gorfodol)
  • Techneg Lleisiol (20 credyd; dewisol).
Asesiad

Perfformiadau/digwyddiadau cyhoeddus
Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso.

Tiwtorialau rheolaidd
Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

Cyflwyniadau
Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

Gweithlyfrau proses
Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

Portffolio Datblygiad Proffesiynol
Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol.

Dolenni Perthnasol

Bywyd Myfyrwyr a Chaerdydd

Gwybodaeth allweddol

Staff

Mae artistiaid proffesiynol o’r diwydiannau creadigol, sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn addysgu ar ein gradd.  Gallant gynnig nid yn unig wybodaeth fanwl a thrylwyr, ond hefyd brofiad personol a dirnadaeth o’r diwydiant perfformio heddiw.

  • Cyfarwyddwr y Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd:Eilir Owen Griffiths
  • Darlithydd Theatr: Elen Bowman
  • Darlithydd Dawns:Tori Johns
  • Tiwtor a Gweinyddwr: Dave Taylor

Artistiaid Gwadd:

  • Aled Pedrick (Actio)
  • Angharad Lee (Cyfarwyddo)
  • Ceri Murphy (Actio)
  • David Laugharne (Canu)
  • Eiry Thomas (Actio)
  • Eryl Phillips (Actio ar gyfer y Sgrin)
  • Jackie Bristow (Dawns Jazz)
  • Jen Angharad (Dawns Cyfoes)
  • John Quirk (Cyfarwyddwr Cerdd)
  • Luke Hereford (Cyfawrwyddwr)
  • Mali Tudno (Actio)
  • Michael Moorwood (Canu)
  • Nia Lynn (Llais)
  • Robbie Bowman (Actio)
  • Sara Lloyd (Cyfarwyddwr)
  • Steve Cassey (Shakespeare)
  • Stifyn Parri (Y Diwydiant)
  • Tom O’brien (Cyfarwyddwr)
Meini Prawf Mynediad

Gradd Baglor y DU (isafswm o 2:1) neu brofiad.

Cyfleoedd Gyrfa
  • Actio
  • Canu
  • Teledu/Radio
  • Theatr
  • Theatr Gerddorol
  • Chwarae rôl a hyfforddiant corfforaethol
  • Addysg
  • Astudiaeth/ymchwil ôl-raddedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.