Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Theatr (Theatr Gerddorol) (MA)

MA Theatr: Theatr Gerddorol



Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen ôl-raddedig ddwys, flwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.

Mae'r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion a dawnswyr y dyfodol. Mae moeseg waith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae'r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol. 

Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen ôl-raddedig ddwys, flwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen. 


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Gradd Theatr Gerddorol sy’n darparu hyfforddiant triphlyg
  2. Oriau cyswllt uchel gyda staff
  3. Tri pherfformiad cyhoeddus gyda chriw technegol proffesiynol
  4. Cysylltiadau cryf â’r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt
  5. Arddangosfa berfformio yn Llundain

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau’r myfyriwr fel perfformiwr theatr gerddorol gyda phwyslais ar y canlynol:

  1. Perfformiadau Cyhoeddus
  2. Sgiliau a Thechnegau Craidd

Rhoddir profiad i fyfyrwyr sy’n cyfateb i weithio ar nifer o berfformiadau llwyfan proffesiynol. Byddant yn ymarfer ac yn perfformio nifer o rannau dan amodau cyfarwyddo a chynhyrchu proffesiynol. Disgwylir i'r myfyrwyr ddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr, ac mewn cydweithrediad â’u cymheiriaid. 

  • Dawns: Bale, Tap, Jazz, repertoire theatr gerddorol, cyflyru’r corff, Pilates, yoga a theatr gorfforol
  • Canu: Gwersi canu un-i-un wythnosol, dosbarthiadau techneg leisiol, dosbarthiadau repertoire a dosbarthiadau canu ensemble.
  • Actio: Dosbarthiadau Stanislavski, Meisner, Michael Checkov, actio trwy gân, tiwtorialau un-i-un ar fonologau, dadansoddi testun.
  1. Datblygiad Proffesiynol

Bydd datblygiad proffesiynol yn cynnwys arddangosfa berfformio i asiantau a pharatoi portffolio datblygiad proffesiynol. Bydd y portffolio’n cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol. Fe’i datblygir drwy ymgynghori’n agos â Thiwtor Personol a’i deilwra ar gyfer gofynion proffesiynol penodol pob myfyriwr.   Fel cyfanwaith, bydd cynnwys y portffolio’n dystiolaeth o broffil artistig unigol y myfyriwr gan adfyfyrio ar ei ddatblygiad parhaus yn berfformiwr.

Pynciau Modylau

Lefel 7 (MA, Dip Ôl-radd, Tyst Ôl-radd)

  • Actio Uwch 1 (20 credyd; gorfodol)
  • Canu Pellach (20 credyd; gorfodol)
  • Cynhyrchu Mawr (60 credyd; gorfodol)
  • Dawns Pellach (20 credyd; gorfodol)
  • Perfformiadau Cyhoeddus (40 credyd; gorfodol).
Asesiad

Perfformiadau Cyhoeddus / digwyddiadau

Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso.

Tiwtorialau rheolaidd

Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Rydym yn edrych ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

Cyflwyniadau

Fel arfer, cynhelir cyflwyniadau ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

Llyfrau proses

Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn llyfr proses sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

Portffolio Datblygiad Proffesiynol

Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y maent wedi bod yn rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol.

Dolenni Perthnasol

Bywyd Myfyriwr yng Nghaerdydd

Gwybodaeth allweddol

Staff

Mae artistiaid proffesiynol o’r diwydiannau creadigol, sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn addysgu ar ein gradd. Gallant gynnig nid yn unig wybodaeth fanwl a thrylwyr, ond hefyd brofiad personol a dirnadaeth o’r diwydiant perfformio heddiw.

  • Cyfarwyddwr y Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd: Eilir Owen Griffiths
  • Darlithydd Theatr: Elen Bowman
  • Darlithydd Dawns: Tori Johns
  • Tiwtor a Gweinyddwr: Dave Taylor

Artistiaid Gwadd:

  • Aled Pedrick (Actio)
  • Angharad Lee (Cyfarwyddwr)
  • Ceri Murphy (Actio)
  • David Laugharne (Canu)
  • Eiry Thomas (Actio)
  • Eryl Phillips (Actio ar gyfer y Sgrin)
  • Jackie Bristow (Dawns Jazz)
  • Jen Angharad (Dawns Gyfoes)
  • John Quirk (Cyfarwyddwr Cerdd)
  • Luke Hereford (Cyfarwyddwr)
  • Mali Tudno (Actio)
  • Michael Moorwood (Canu)
  • Nia Lynn (Llais)
  • Robbie Bowman (Actio)
  • Sara Lloyd (Cyfarwyddwr)
  • Steve Cassey (Shakespeare)
  • Stifyn Parri (y Diwydiant)
  • Tom O’Brien (Cyfarwyddwr)
Meini Prawf Mynediad

Gradd baglor o’r Deyrnas Unedig (o leiaf 2:1) neu brofiad.

Cyfleoedd Gyrfa
  • Theatr Gerddorol
  • Actio
  • Canu
  • Dawns/Coreograffi
  • Theatr
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.