Skip page header and navigation

Athroniaeth (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Bydd rhaglen Athroniaeth yn datgelu i chi ystod eang o bynciau athronyddol. Mae athroniaeth yn wahanol i ddisgyblaethau academaidd eraill am nad yw’n eich dysgu beth i’w feddwl, ond sut i feddwl. Mae athroniaeth yn archwilio’r cwestiynau mawr – Pwy ydyn ni? Beth yw ein lle ni yn y byd? Sut y dylem ni fyw? Beth yw realiti? - mynd i’r afael â’r rhain drwy ddadleuon, gweledigaeth a dychymyg.

Dyluniwyd y rhaglen i roi sylfaen eang i chi ym maes athroniaeth. Mae’n archwilio hanes athroniaeth, yn ogystal â mynd i’r afael â thrafodaethau athronyddol cyfoes.

Nod y rhaglen yw gwella eich sgiliau dadansoddol a’ch datblygu chi’n athronydd.

Cyfuna’r rhaglen fodylau sy’n mynd i’r afael â meysydd allweddol yn hanes athroniaeth gyda modylau sy’n canolbwyntio ar drafodaethau athronyddol cyfoes.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
V502
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae athroniaeth yn archwilio’r cwestiynau mawr – Pwy ydyn ni? Beth yw ein lle ni yn y byd? Sut y dylem ni fyw? Beth yw realiti? Mae athroniaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn drwy ddadleuon, gweledigaeth a dychymyg.
02
Mae athroniaeth yn wahanol i ddisgyblaethau academaidd am ei bod yn dysgu i chi nid beth i’w feddwl, ond sut i feddwl, gan herio eich cred a’ch tybiaethau am y byd.
03
Mae gennym ddull ymdrochol o ddysgu gan gynnig ystod amrywiol o ddulliau addysgu, gan gynnig darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau gweithdy.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae athroniaeth yn archwilio’r cwestiynau mawr: Pwy ydym ni? Beth yw ein lle ni yn y byd? Sut y dylem ni fyw? Beth yw realiti? Mae athroniaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn trwy ddadleuon, ond hefyd trwy weledigaeth a dychymyg.

Mae athroniaeth yn ymwneud â phob agwedd ar ein bywyd, yn ymarferol yn ogystal â damcaniaethol. Am ei fod wedi’i wreiddio mewn perthnasoedd cymdeithasol go iawn a gweithgareddau dynol, mae’n ceisio deall sbectrwm cyfan materion gwleidyddol cymdeithasol, moesegol a gwleidyddol y dydd. Trwy gyfrwng athroniaeth, yn ogystal â deall bywyd, mae modd hefyd i ni ei lunio.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bywyd, y bydysawd a phopeth arall, ac os ydych chi’n dymuno datblygu casgliad cyfoethog o sgiliau sy’n cyfoethogi bywyd a’r gallu i greu newid er gwell, ein gradd mewn Athroniaeth yw’r radd i chi.

Gorfodol 

Cyflwyniad i Foeseg
Athroniaeth yr Hen Fyd

(20 credydau)

Rhyddid, Cydraddoldeb a Chyfiawnder: Cyflwyniad i Athronyddiaeth Wleidyddol

(20 credydau)

Blwyddyn A

Gorfodol 

Pobl, Anifeiliaid a Pheiriannau: Archwilio Athroniaeth y Meddwl
Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Blwyddyn B 

Gorfodol 

Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Metaffiseg ac Epistemoleg

(20 credydau)

Moeseg bywyd

(20 credydau)

Dewisol

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Blwyddyn A

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Pobl, Anifeiliaid a Pheiriannau: Archwilio Athroniaeth y Meddwl
Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Blwyddyn B

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Metaffiseg ac Epistemoleg

(20 credydau)

Moeseg bywyd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau asesu canlynol: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau y mae’r cwestiynau’n hysbys neu’n anhysbys ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir o 10,000 o eiriau, wicis, esboniadau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir mai £20 fydd cost rhwymo’r rhain.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): c. £500 – £1,500

    Gwibdeithiau unigol: c. £5 – £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • A defnyddio iaith fasnachol, athroniaeth yw’r sgil gwaith drosglwyddadwy berffaith

    • Gwaith gweinyddol
    • Swyddi eiriolaeth a chysylltiadau llywodraeth
    • Swyddi dadansoddwyr
    • Gwaith pwyllgor
    • Addysg
    • Gwaith amgylcheddol
    • Ymgynghorwyr moeseg a gwaith ymgynghorol arall
    • Codi arian
    • Y Gyfraith
    • Y cyfryngau a newyddiaduraeth
    • Cyrff anllywodraethol ac elusennol
    • Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil

Mwy o gyrsiau Philosophy, Theology and Religious Studies

Chwiliwch am gyrsiau