Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Dehongli’r Beibl (MRes)
Mae’r MRes yn Dehongli’r Beibl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil mewn astudiaethau beiblaidd o dan gyfarwyddyd arbenigwyr yn y maes Astudiaethau Beiblaidd. Trafodir cyd-destun a llenyddiaeth y Beibl o berspectif hanesyddol a chyfoes.
Mae gennym draddodiad hir a nodedig o ddarparu cyrsiau arbenigol mewn Astudiaethau Beiblaidd, tra bod ein staff yn cyhoeddi ymchwil sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.
Bu Diwinyddiaeth a Chrefydd yn rhan annatod o fywyd a’r addysgu academaidd ar gampws Llambed ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymptheg. Mae Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd ymhlith y cynharaf o’i fath ym Mhrydain a’r cyntaf yng Nghymru. Os ydych yn cofrestru ar ein rhaglen MA, byddwch yn ymuno â chymuned fyd-eang o fyfyrwyr sydd yn elwa ar draddodiad hir a chyfoethog o addysgu o’r safon uchaf.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000
- Gallwch ddewis o ystod eang o bynciau diddorol a addysgir gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigwyr ym maes Astudiaethau Beiblaidd.
- Bydd myfyrwyr yn cyfranogi o ddiwylliant bywiog oherwydd yr ymchwil flaengar a gyhoeddir gan ein staff academaidd.
- Yn Rhan 1 byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer y traethawd ymchwil a ymgymerir yn Rhan 2 o’r rhaglen.
- Cynigir y rhaglen yn rhan amser, addysgu o bell, a gellir cychwyn yn mis Hydref neu yn mis Chwefror.
- Gan fod y cwrs yn un dysgu o bell, gallwch astudio o’ch cartref eich hun gan ddefnyddio Moodle (ein llwyfan dysgu o bell), cynnwys y cwrs a’r deunydd darllen a ddarperir gan eich darlithwyr
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn dilyn modylau sydd yn gyfwerth â 60 o gredydau ac yna’n gwneud darn o waith ymchwil annibynnol o dan gyfarwyddyd un o’r tiwtoriaid academaidd. Hyd y traethawd yw 30,000 o eiriau.
Mae Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd yn cynnig diwylliant ymchwil cyfoethog a bywiog, ac anogir ei myfyrwyr ôl-raddedig i gymryd rhan yn ei seminarau ymchwil.
Cynigir y rhaglen hon yn rhan amser drwy ddysgu o bell. Darperir holl gynnwys y modylau drwy Amgylchedd Dysgu Rhithiwr (Virtual Learning Environment, VLE) a bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth cyson gan eu tiwtoriaid, un ai un-wrth-un (ebost, Teams, ffôn) neu mewn grwpiau (drwy Teams) neu drwy fforwm trafod y VLE neu wikis.
Byddwn bob blwyddyn yn cynnal ysgol haf breswyl ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig. Caiff myfyrwyr y cyfle i gyfranogi mewn darlithoedd a seminarau ar amryw o bynciau ac i drafod gyda myfyrwyr ymchwil eraill.
Rhan I: Modylau (60 o gredydau)
Bydd myfyrwyr yn dilyn tri o’r modylau canlynol:
- The Bible: Text and Transmission
- The Bible: Contemporary Approaches
- From Patriarchs to Prophets: Reading and Reception
- The Gospel of John
- Christology & Atonement
- Jewish-Christian Relations
** Cynigir seminarau a tiwtorialau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y modylau uchod.
Rhan II: Traethawd ymchwil (120 o gredydau)
Traethawd hir 30,000 o eiriau o dan gyfarwyddyd arbenigwr yn y maes. Bydd y prosiect hwn yn gyfle i chi fynd ar ôl ac i ddatblygu eich diddordebau ymchwil, boed fel sail i ymchwil doethurol neu o ran chwilfrydedd academaidd yn y pwnc.
Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), adolygiadau, aseiniadau testunol, ac un traethawd ymchwil 30,000 o eiriau.
Gwybodaeth allweddol
Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto I gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ol-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
- Dehongli’r Beibl (MA)
- Diwinyddiaeth Gristnogol (MTh) (Fersiwn Saesneg)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.