Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (MSc)
Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (MSc)
Mae’r radd meistr hon wedi’i dylunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno gweithio fel Ymarferwyr Maetheg Chwaraeon / Maethegwyr Chwaraeon.
Mae Maetheg Chwaraeon yn faes sy’n tyfu ac mae’r rhaglen wedi’i dylunio i fodloni anghenion y rheiny sy’n dymuno gweithio yn y maes hwn. Ar hyn o bryd, mae yna alw mawr am ymarferwyr sy’n meddu ar y sgiliau i weithio ym maes chwaraeon.
Bydd y rhaglen yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen o fod yn Ymarferydd Maetheg Chwaraeon / Maethegydd Chwaraeon.
Mae’r cwrs newydd hon wedi’i dylunio i ganiatáu i’r myfyrwyr fynychu ar benwythnosau gyda chymysgedd o ddysgu a addysgir a chyfunol, sy’n galluogi i fyfyrwyr gydbwyso gwaith ac astudio.
Mae’r rhaglen wedi’i mapio i alluoedd y Gofrestr Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr) ac mae ganddo achrediad.
Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (MSc) (180 credyd)
Côd y cwrs – MSC -SENU
Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Diploma Ôl-raddedig) (120 credyd)
Côd y cwrs – PGD -SENU
Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn) (60 credyd)
Côd y cwrs – PGC -SENU
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
£7,500
Dramor: £15,000
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bellach, ystyrir bod rôl maetheg mewn perfformiad chwaraeon yn rhan bwysig o waith paratoi a rhaglen hyfforddiant pob athletwr.
Byddwch yn dysgu am egwyddorion maetheg chwaraeon a ffitrwydd sydd wedi’u seilio ar ddamcaniaethau a thystiolaeth gyfoes. Bydd hyn yn eich galluogi i droi damcaniaeth yn arfer a rhoi cyngor i athletwyr o bob chwaraeon er mwyn iddynt berfformio hyd eithaf eu gallu.
Defnyddir meddalwedd arbenigol i ymgymryd â dadansoddiad dietegol a chynllunio prydau. Bydd myfyrwyr hefyd yn defnyddio’r labordy perfformio dynol i asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion.
Mae’r modylau wedi’u dylunio i ddatblygu dealltwriaeth fwy ddofn a hanfodol o bwysigrwydd a rôl maetheg chwaraeon, gan hefyd ganiatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau academaidd a phroffesiynol.
Bydd yr ymagwedd gyfunol yn gymysgedd o benwythnosau a addysgir, gyda pheth addysgu ar-lein, tiwtorialau gyda thiwtoriaid a fforymau myfyrwyr ar-lein drwy ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau TG gan gynnwys Rhith-amgylchedd Dysgu’r Brifysgol, sef Moodle.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau tasgau rhwng y penwythnosau a addysgir.
Bydd y modwl cyntaf yn caniatáu i’r rheiny o gefndiroedd israddedig gwahanol astudio llwybrau ychydig yn wahanol a fydd yn eich caniatáu i gwmpasu amrywiaeth o agweddau ar faetheg a/neu ffisioleg ymarfer corff a metabolaeth na chafodd ei drin a’i drafod yn eich astudiaethau blaenorol.
Mae’r modylau fel a ganlyn: -
- Cyflwyniad i Faetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Metaboliaeth.
- Maethegydd Chwaraeon Cymhwysol
- Uwch Arfer Maetheg
- Dulliau Ymchwil
- Traethawd Hir
- Mae pob modwl yn 30 credyd ar wahân i’r Traethawd Hir sy’n 60 credyd.
Mae’r rhaglen yn fodylaidd ac mae ganddo dri dyfarniad penodol: -
- MSc mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff - 180 credyd
- Diploma Ôl-raddedig mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff - 120 credyd
- Tystysgrif mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff - 60 credyd
- Bydd myfyrwyr yn astudio’r modwl traethawd hir ar ôl cwblhau’r diploma ôl-raddedig.
Bydd amrywiaeth o asesiadau’n cael eu defnyddio i herio myfyrwyr ond hefyd ymestyn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio ym maes maetheg chwaraeon. Mae yna ffocws academaidd cryf yn y rhaglen ochr yn ochr â datblygiad sgiliau ymarferol.
Bydd yr asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau labordy, astudiaethau achos, profion ymarferol a chyflwyniadau (unigol a grŵp).
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Chris Cashin – Rheolwr y Rhaglen
- Cwrdd â'r tîm
Fel arfer dylai bod darpar fyfyrwyr wedi cwblhau gradd gyntaf mewn Maetheg, Dieteteg,
Gwyddor Chwaraeon aac Ymarfer Corff, Bioleg Dynol, Ffisioleg Ymarfer Corff neu debyg, gan gael o leiaf dosbarth 2:2. Mae hon yn ystyriaeth bwysig os yw myfyrwyr yn dymuno dod yn 'Registrant of the Sport and Exercise Nutrition Register Practitioner'.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae’n rhaid i’r gofynion mynediad fod yn gyfwerth yn ei hanfod â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eich derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg addas ar gyfer rhaglen Achrededig AfN, na chaiff fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb un adran yn llai na 6.0.
Bydd graddedigion yn mynd ymlaen i weithio gydag athletwyr elit a hamdden ar draws ystod o chwaraeon. Mae llawer o Gyrff Llywodraethu Chwaraeon yn gofyn am o leiaf statws Ymarferydd i weithio gyda nhw.
Mae yna fwy a mwy o gyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth o chwaraeon neu i sefydlu busnes i weithio gydag athletwyr elit a hamdden. Mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.
Hefyd, mae ein darlithwyr yn ymarferwyr eu hunain a chanddynt gyfoeth o brofiad sy’n helpu i lywio eich gyrfa.
- Llety – fel arfer ar gael ar gampws Caerfyrddin
- Gwiriad DBS
- Tystysgrif Hylendid Bwyd.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Amherthnasol
Mae’r rhaglen wedi’i mapio i fedrau’r Gofrestr Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr). Bwriad tîm y rhaglen yw cyflwyno cais am achrediad cyn gynted â chaiff ei dilysu.
Bydd hyn yn caniatáu i raddedigion wneud cais am statws Graddedig ar y Gofrestr. Gall graddedigion cofrestredig gyflwyno portffolio i’r SENr a chael statws
Mae’r BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff - Maetheg Chwaraeon wedi’i gymeradwy gan y SENr.
Hefyd, gall graddedigion graddau Maetheg fod yn gymwys i ymuno â’r Gofrestr Gwirfoddol Y Gymdeithas er Maetheg.