Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Peirianneg Fecanyddol (MSc, PGDip, PGCert)

Peirianneg Ddiwydiannol (MSc)



Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyfoethogi eu gwybodaeth o Beirianneg Ddiwydiannol. Gall myfyrwyr gael amrywiaeth o gymwysterau gradd israddedig yn dod gefndir peirianneg fecanyddol, ddylunio, sifil neu weithgynhyrchu. Yn ogystal, mae’n helpu rheolwyr profiadol i ychwanegu at eu gwybodaeth gyda chymwysterau addysgol.

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar y sgiliau sydd eu hangen ar beirianwyr diwydiannol. Yn ogystal â datblygu ystod ehangach o sgiliau y dylai bod Peiriannydd Diwydiannol cymwys a chrefftus feddu arnynt. Mae’r set sgiliau hwn yn cynnwys: methodoleg darbodus ac ystwyth, ‘six sigma’, rheoli ansawdd, rheoli’r gadwyn gyflenwi a chaffael. Bydd myfyrwyr yn cael set sgiliau y mae galw mawr amdani gan gyflogwyr.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Opsiynau Llwybr

Peirianneg Ddiwydiannol (MSc)
(Llawn amser)
(Rhan amser)
Gwnewch gais nawr

Peirianneg Ddiwydiannol (Tystysgrif Ôl-raddedig)
Gwnewch gais nawr

Peirianneg Ddiwydiannol (Diploma Ôl-raddedig)
Gnwewch gais nawr


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu              Cais am Wybodaeth                        Gwnewch Gais Nawr         
E-bost Cyswllt: andrew.thorn@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Andrew Thorn


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r diwydiant.
  • Dewch i astudio yn ein Campws arloesol gwerth £350m ar Lannau Abertawe.
  • Mae gan yr adran beirianneg dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu’r cyrsiau hyn yn llawn amser a rhan amser.
  • Cyflwynir y cwrs gan staff sydd â llawer o fynyddoedd o brofiad yn y diwydiant.
  • Cysylltiadau diwydiannol helaeth a phrosiectau diwydiannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu’r galw cynyddol am arbenigwyr peirianneg ddiwydiannol. Mae’r raglen yn archwilio’r meysydd pwnc allweddol o fewn amgylchedd peirianneg ddiwydiannol.

Mae’r rhaglen  yn datblygu sgiliau myfyrwyr mewn rheolaeth gweithrediadau mewn amgylcheddau gweithgynhyrchu, cydosod a gwasanaeth, gan ddatblygu’n gynhwysfawr sgiliau ‘six sigma’ darbodus a sgiliau rheoli prosiect.

Mae’r ddisgyblaeth yn cofleidio meysydd fel rheoli ansawdd a rheoli’r gadwyn gyflenwi ynghyd â sgiliau dylunio sydd eu hangen ar beirianwyr diwydiannol.

Pynciau Modylau
  • Systemau Darbodus ac Ystwyth
  • Caffael a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
  • Rheoli Prosiectau Peirianneg
  • Rheoli Ansawdd mewn Amgylchedd Gweithredol
  • Dulliau Ymchwil a Datblygu Proffesiynol
  • Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu
  • Prosiect Meistr
Asesiad

Caiff myfyrwyr eu hasesu ar y rhaglen gradd meistr drwy gymysgedd o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gall asesiad nodweddiadol ofyn i chi ymchwilio i broblem ddiwydiannol ei natur a gwneud argymhellion ar welliannau drwy ddefnyddio offer a thechnegau rydych wedi’u dysgu mewn modwl penodol neu ar draws y rhaglen.

Dolenni Perthnasol

Final Year Exhibition Face widget

Arddangosfeydd Prosiect Blwyddyn Olaf

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad
  • Gradd anrhydedd dosbarth 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu uwch.
  • Oherwydd natur y rhaglen caiff ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd eu hystyried.

Cymwysterau cyfwerth

Caiff cymwysterau cyfwerth eu hystyried i gael lle ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r alwedigaeth yn ystyried ymgeisydd â HND da, ynghyd ag o leiaf pum mlynedd  brofiad perthnasol. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais.

Sgiliau eraill a ystyrir

  • Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig; byddwn hefyd yn cymryd eich sgiliau, cyrhaeddiad a phrofiad bywyd i ystyriaeth.
  • Bydd angen tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.
Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r rhaglen hon yn rhoi i raddedigion ystod eang o sgiliau proffesiynol a medrau sy’n drosglwyddadwy o fewn y sector busnes ac o sector i sector. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i fagu hyder trwy’r raglen astudio.

Ymhlith y cyfleoedd gyrfa nodweddiadol mae rheolwr shifft, goruchwylydd cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, rheolwr cynllunio a rhestru, rheolwr/cyfarwyddwr gweithrediadau.

Mae ein holl raddedigion sydd wedi astudio gradd meistr rhan amser debyg wedi cael dyrchafiad wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac maent wedi dweud bod hyn o ganlyniad i’w cymhwyster.

Elwodd graddedigion iau o ragolygon cyflogaeth uwch a gwelsant eu bod yn gallu cael gwaith fel peiriannydd llinell, peiriannydd ansawdd ac arbenigwr y gadwyn gyflenwi.

Mae nifer o gwmnïau bellach wedi cydnabod y cwrs hwn yn anhepgor er mwyn cael dyrchafiad neu feddu ar rôl benodol.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs heb orfod talu unrhyw gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl gorfod talu am gostau a gyfyd drwy gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Llety

Gweler ein tudalennau llety i gael rhagor o wybodaeth Llety

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.