Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Seicoleg Gymhwysol (MSc)
Mae ein rhaglen MSc unigryw yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil cymhwysol, gwybodaeth a sgiliau proffesiynol sy’n berthnasol oddi mewn a’r tu hwnt i Seicoleg.
Mae’r rhaglen MSc unigryw hon wedi ei hanelu at ddatblygu gwybodaeth fanwl o seicoleg gymwys, gan gynnwys yr heriau moesol, moesegol a phroffesiynol a welwyd wrth ddefnyddio seicoleg gydag amrywiaeth o faterion cymdeithasol lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Bydd modylau arbenigol ym meysydd seicoleg iechyd a seicoleg gymdeithasol yn archwilio sut y gallwn ddeall materion y byd go iawn megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu.
Bydd y ffocws cymhwysol yn annog myfyrwyr i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg.
Bydd hefyd yn datblygu eich gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar eich heriau proffesiynol eich hun a’ch anghenion datblygu ar gyfer gweithio ym maes seicoleg gymhwysol.
Seicoleg Gymhwysol (MSc) - Amser llawn
Ymgeisio drwy MyTSD
Seicoleg Gymhwysol (MSc) - Rhan-amser
Ymgeisio drwy MyTSD
DIWRNOD AGORED TAR CAIS AM WYBODAETH YMGEISIO NAWR
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000
Pam dewis y cwrs hwn
- Wedi ei addysgu gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigedd mewn seicoleg gymhwysol.
- Modwl unigryw sy’n seiliedig ar waith grŵp sy’n eich galluogi i ddatblygu ac adfyfyrio ar sgiliau cyflogadwyedd craidd.
- Cynllunio Datblygiad Personol cryf a mentora trwy’r radd.
- Cyfle i deilwra asesiadau a thraethawd ymchwil hir ar gyfer eich diddordebau penodol eich hun.
- Carfannau bach sy’n sicrhau profiad dysgu mwy personol ei ddull.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio seicoleg mewn amrywiaeth o faterion cyffrous a chyfoes yn y byd go iawn. Mae Rhan Un o’r MSc yn cynnwys modylau a addysgir, gan arwain wedyn i brosiect ymchwil annibynnol Rhan Dau ar gyfer Traethawd Seicoleg Gymhwysol, pan fydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil manwl o dan oruchwyliaeth aelod o’r staff sydd ag arbenigedd yn y maes hwnnw
Mae modylau arbenigol mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd a seicoleg gymdeithasol, a addysgir gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigedd mewn seicoleg gymhwysol, yn esbonio sut y gallwn ni ddeall materion llosg megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu. Bydd y ffocws cymhwysol yn eich annog i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil, a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg. Cewch eich herio i ddod yn feddylwyr beirniadol, gan ddatblygu’r set sgiliau a’r wybodaeth i allu deall sut i ddylanwadu ar bolisi, gwaith gyda grwpiau cymunedol, ac ymgysylltu ag unigolion. Ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i’ch galluogi i ymgysylltu’n hyderus â gweithwyr proffesiynol, cydweithwyr a’r boblogaeth yn gyffredinol mewn meysydd sy’n ymwneud â defnyddio seicoleg ym mywyd pob dydd. Cewch chi gymorth trwy’r rhaglen gan broses Cynllunio Datblygiad Personol a mentora strwythuredig.
Byddwch yn astudio modiwlau fel:
- Dylunio a Dadansoddi Ymchwil Cymhwysol: Mae’r modwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ddyluniad ymchwil cymhwysol a thechnegau dadansoddi cysylltiedig (boed yn rhai ansoddol neu’n rhai meintiol).
- Sgiliau Ymchwil Proffesiynol: Bydd y modwl arloesol hwn yn datblygu eich sgiliau gwaith tîm a’ch sgiliau ymchwil ymarferol trwy roi cyfle i chi gael profiad uniongyrchol o gynllunio a darparu prosiect ymchwil amserol.
- Newid ymddygiadol yn ei gyd-destun: Bydd y modwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol fanwl i chi o’r ffactorau unigol, cymdeithasol a byd-eang sy’n dylanwadu ar amrywiaeth o ymddygiadau dynol ac sy’n llywio ymyriadau newid ymddygiad.
- Heriau moesegol a phroffesiynol mewn Seicoleg: Bydd y modwl hwn yn eich herio i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o amrywiaeth o drafodaethau a dadleuon moesegol wrth ddefnyddio seicoleg mewn lleoliadau yn y byd go iawn.
Mae myfyrwyr amser llawn yn astudio gwerth 60-credyd o fodylau’r tymor yn ystod dosbarthiadau prynhawn/nos ar draws dwy noson yr wythnos a’r modylau'n cydredeg â’i gilydd.
Mae myfyrwyr rhan-amser yn astudio gwerth 60 credyd o fodylau'r flwyddyn yn ystod dosbarthiadau prynhawn/nos ar un noson yr wythnos a’r modylau’n dilyn ei gilydd.
Plîs sylwch, mae modiwlau'n newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Mae’r asesiadau yn y rhaglen hon wedi eu llunio’n benodol i’ch galluogi i ddangos amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i ystod eang o yrfaoedd seicolegol a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyflwyniadau proffesiynol
- Portffolio o gymwyseddau ymchwil
- Adolygiadau systematig o lenyddiaeth
- Asesiadau o sgiliau ymarferol
- Adroddiadau adfyfyriol
- Cynigion ymchwil
- Papurau ymchwil (traethawd hir Rhan II)
Dolenni Cysylltiedig
Gwybodaeth allweddol
- Dr Paul B. Hutchings
- Dr Ceri Phelps
- Dr Kate Williams
- Dr Lymarie Rodriguez
Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn Seicoleg. Y maen prawf yw gradd anrhydedd 2.1, neu radd anrhydedd 2.2 (gan gynnwys traethawd ymchwil hir). Er efallai y byddwn yn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig iawn, oherwydd natur y rhaglen hon byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau ymchwil seicolegol.
Mae graddedigion o'r rhaglen hon wedi mynd yn eu blaen i weithio yn y GIG, sicrhau arian PhD, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd. Nid yw’r rhaglen hon yn arwain at gymhwyster BPS cyfnod I i’r rhai sy’n ceisio sicrhau statws siartredig ond mae’n llwyfan ardderchog i’r rhai sy’n ystyried yr opsiwn hwn i’r dyfodol.
Efallai y cewch gynnig cyfle i fynd i gynhadledd neu ddigwyddiad allanol ac os felly mae’n bosibl y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau.
Tilly Jo Robinson, MSc gyda Rhagoriaeth, 2017
“Roeddwn i’n disgwyl i’r cwrs fod yn ddiddorol, ond roedd yn fwy na hynny. Gwnes i fwynhau’r amrywiaeth yn y modylau a'r modd roedd pob darlith yn dal eich sylw, ac yn caniatáu archwilio’r amrywiol agweddau seicolegol sy’n berthnasol i’r gymdeithas sydd ohoni. Mae’r set o sgiliau mae’r MSc hwn wedi’u rhoi i mi, yn fy marn i, yn llawer mwy na’r hyn y gallai unrhyw gwrs MSc arall fod wedi’i gynnig i mi. Nid yn unig y rhoddodd i mi’r gallu i ddyfnhau fy ngwybodaeth a’m sgiliau seicolegol cyffredinol, rhoddodd hefyd i mi set o sgiliau proffesiynol a’r hyder i ddilyn unrhyw yrfa rwy’n ei dymuno.”
Ewch i’r adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.
Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Mae’r Ysgol Seicoleg yn cynnig cyfuniad cyffrous o arbenigedd mewn seicoleg arbrofol, seicoleg gymdeithasol a seicoleg iechyd, gan greu amgylchedd dysgu dynamig lle gall myfyrwyr ar bob lefel lwyddo a datblygu sgiliau academaidd, ymchwil a phroffesiynol cryf. Mae’r Ysgol yn gweithio’n agos gyda’i myfyrwyr i ddarparu cymorth academaidd a mentora cadarn ac mae ganddi ymrwymiad i lefelau uchel o safonau proffesiynol a moesegol.
Mae gennym record arbennig o dda o ran myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn cyflwyno’u hymchwil mewn cynadleddau cenedlaethol a chynigiwn nifer o gyfleoedd i fod yn rhan o ddiwylliant ymchwil ehangach yr Ysgol. Yn ogystal mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf â Chymdeithas Seicolegol Prydain a chyda’r gymuned leol trwy ei gwaith yn ymgysylltu â’r gymuned, yn ogystal ag elusennau cenedlaethol a’r GIG, ynghyd â phroffil ymchwil cynyddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Credaf fod gennym gyfuniad gwych o ymchwilwyr newydd a phrofiadol yn yr Ysgol ac mae gan bob un ohonyn nhw un peth yn gyffredin – angerdd i addysgu pobl am eu meysydd seicoleg” – Dr Paul Hutchings, Cyfarwyddwr Astudiaethau.