Mae dychwelyd i fyd addysg yn gam eithriadol o gyffrous, ond gall hefyd wneud i rywun deimlo braidd yn ofnus.
Mae'r cwmni o fyfyrwyr yn ein plith yn un hynod amrywiol ac mae'n cynnwys pob oedran a chefndir, a bydd llawer o'r pethau yr ydych yn pryderu amdanynt yn gyffredin i nifer o fyfyrwyr eraill hefyd.
Nid lle i bobl 18 oed yn unig yw’r Brifysgol. Mae llawer o bobl yn dewis dechrau eu hastudiaethau ychydig yn hwyrach mewn bywyd ac mae 60% o fyfyrwyr y DU dros 21.
Rydym yn croesawu myfyrwyr aeddfed am eu bod yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w hastudiaethau, sydd o fudd i bawb ar y cwrs.
Rydych yn cael eich ystyried yn ymgeisydd aeddfed os ydych dros 21 oed.
Ymdrinnir â phob ymgeisydd dros 21 oed fesul unigolyn, sydd yn beth da, ond mae hefyd yn golygu bod y nifer o ffyrdd gwahanol o gael lle ar gwrs yn gallu bod yn ddryslyd.
Mae Prifysgolion yn edrych yn ffafriol ar bob math o ddysgu, nid yn unig gymwysterau Safon Uwch/Lefel A. A dweud y gwir, gallech fod yn gymwys i gael eich derbyn os ydych yn gallu darparu tystiolaeth foddhaol o’ch gallu i ddilyn yn llwyddiannus y rhaglen yr ydych yn ymgeisio amdani.
Mae tiwtoriaid derbyn yn asesu’r holl geisiadau’n unigol, gan edrych ar y dystiolaeth o’ch profiad personol, proffesiynol ac addysgol.
Gwneir ceisiadau ar gyfer yr holl raglenni israddedig llawn amser, yn cynnwys y rhai a wneir trwy’r Gwasanaeth Clirio, trwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS).
Gwneir ceisiadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig, graddau meistr ac ymchwil llawn amser, ynghyd â’r holl geisiadau rhan amser, yn uniongyrchol i’r Gofrestrfa trwy cofrestrfa@trinitysaintdavid.ac.uk
- Cyrsiau israddedig llawn amser – ymgeisio trwy UCAS
- Cyrsiau israddedig rhan amser - ymgeisio trwy’r Gofrestrfa
- Graddau Sylfaen – ymgeisio trwy’r Gofrestrfa
- Diploma Addysg Uwch – ymgeisio trwy’r Gofrestrfa
- Tystysgrif Addysg Uwch – ymgeisio trwy’r Gofrestrfa
- Rhaglen Astudiaethau Proffesiynol yn y Gwaith - ymgeisio trwy’r Cydlynydd Rhaglen
Ar gyfer astudiaeth lawn amser a rhan amser, bydd angen ichi gwblhau datganiad personol. Peidiwch â phoeni am hyn!
I fyfyrwyr aeddfed mae hwn yn gyfle gwych i amlygu perthnasedd profiadau bywyd ac i arddangos eich sgiliau. Ni ddylech fyth deimlo’n negyddol am brofiadau bywyd sydd wedi’ch arwain i’r pwynt o ymgeisio i addysg uwch.
Mae ymgeiswyr aeddfed sy’n gallu siarad am eu profiadau bywyd mewn modd sy’n amlygu cymwysterau, sgiliau a phriodoleddau perthnasol yn cyflwyno datganiadau personol cryf.
Gall enghreifftiau gynnwys sôn am astudiaeth gyfredol a blaenorol, gofalu am berthynas neu blentyn, goresgyn anfanteision, eich rhesymau dros ddilyn gyrfa newydd, neu’n syml y gamp aruthrol o ddychwelyd i addysg.
Dangoswch eich bod yn deall y cwrs rydych chi’n ymgeisio amdano a, lle bo hynny’n berthnasol, y proffesiwn mae’r cwrs hwnnw’n arwain ato.
Dylech berthnasu’ch profiadau a’ch sgiliau i’r cwrs (a’r proffesiwn). Bydd hyn yn golygu eich bod yn rhagori ar yr ymgeiswyr eraill.