Cydsefydlydd a chyfarwyddwr Gŵyl y Gelli i draddodi Darlith Goffa Flynyddol Cliff Tucker
07.03.2018
Y cyfarwyddwr gŵyl o Brydain, Peter Florence CBE, fydd y siaradwr gwadd yn Narlith Goffa Cliff Tucker eleni.
Llun gan Daniel Mordzinski.
Mae Peter Florence yn fwyaf enwog am gydsefydlu Gŵyl y Gelli â’i rieni, Norman a Rhoda Florence. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ipswich, Coleg yr Iesu, Caergrawnt, a Phrifysgol Paris. Mae ganddo MA mewn Llenyddiaethau Modern a Chanoloesol, a nifer o ddoethuriaethau anrhydeddus o brifysgolion yng Nghymru yn ogystal ag ymhellach. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Peter Florence wedi troi at y syniad o gysylltu llenyddiaeth, diwylliant, barddoniaeth addysg a cherddoriaeth yn frand gŵyl llwyddiannus dros ben – ‘Imagine the World’ ac yn ogystal â Gŵyl y Gelli ym Mhowys, mae hi wedi sefydlu gwyliau tebyg yn Sbaen, Mecsico, Bangladesh, Periw, Colombia ac Iwerddon. Dyfarnwyd iddo MBE yn 2005 am ei wasanaethau rhagorol i’r celfyddydau a diwylliant a CBE ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018.
Sefydlodd teulu Dr Florence yr ŵyl yn nhref y Gelli Gandryll yn y Gororau yn 1988 a thros y blynyddoedd mae wedi denu enwau megis Bill Clinton a Paul McCartney. Wrth siarad cyn y ddarlith, o dan y teitl ‘It’s All True’, gwnaeth Peter Florence y sylw:
‘Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at ymweld â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. O ran llyfrau o leiaf, dyw hi erioed wedi bod cystal arnom ni. Mae awduron anhygoel wrthi’n ysgrifennu ar hyn o bryd, gan rannu mwy o hanesion cyfoes nag ar unrhyw adeg mewn hanes. Gallech chi ddadlau bod awduron sy’n apelio’n benodol at ddarllenwyr ifanc yn creu rhyw fath o fframwaith yn y byd secwlar, ac yn hynny o beth mae gen i fwy o ffydd mewn athrylith hynaws gwleidyddion a gweinidogion ffydd.’
Mae’r Ddarlith Goffa wedi ei henwi ar ôl yr ynad a’r gwleidydd Cliff Tucker, a oedd yn swyddog gweithredol diwydiannol gyda British Petroleum. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a ddaeth maes o law ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac yn fwy diweddar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1993 yn bedwar ugain oed, gadawodd Cliff Tucker yr elw am werthiant ei gartref i’r Brifysgol. Ymhlith y siaradwyr gwadd blaenorol mae cyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, a’r darlledwr gyda’r BBC, Huw Edwards.
Ychwanegodd Dr Rhiannon Ifans, o Gyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Peter Florence i draddodi Darlith Goffa Cliff Tucker yn 2018. Mae nifer o siaradwyr nodedig wedi ymweld â Llambed yn y gorffennol i’r campws ar gyfer rhywbeth sydd wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yn y flwyddyn galendr ac eleni mae’n argoeli y cawn ni noson arbennig o ddifyrrwch a dysg. Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni ar gyfer Darlith Goffa Tucker – byddwch yn barod am wybodaeth ac ysbrydoliaeth!"
Caiff y ddarlith ei chynnal yn Narlithfa Tucker ddydd Gwener 16 Mawrth, am 7p.m. Mae mynediad yn rhad ac am ddim a darperir lluniaeth. Dylai unrhyw sydd am ddod anfon e-bost at Dr Rhiannon Ifans rhiannon.ifans@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 01267 676663