Geoarcheolegydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn arwain tîm i chwilio am gerrig coll Yelland


27.06.2018

Mae Dr Martin Bates, geoarcheolegydd o Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant wrthi ar hyn o bryd yn arwain tîm o ymchwilwyr wrth iddyn nhw gynnal arolwg blaengar i ddod o hyd i safle archeolegol dirgel, a elwir yn Rhes Cerrig Yelland.

Yelland Stone

Wedi'i ariannu gan Historic England, bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal yng Ngwarchodfa Natur RSPB Isley Marsh ger Llwybr Tarka, ger Barnstaple yn Nyfnaint.

Bydd y tîm o archeolegwyr yn edrych ar y morfeydd lleol i ddod o hyd i'r safle hynafol a gollwyd, sef dwy linell o feini cerrig, a elwir yn aliniad carreg ddwbl. Diflannodd y cerrig o'r golwg yn yr 1980au ar ôl i'r orsaf bŵer Yelland gau corsydd yn yr aber a’r silt yn sefydlu o gwmpas y safle.

O dan arweiniad Dr Bates o gampws Y Drindod Dewi Sant yn Llambed, bydd yr archeolegwyr yn gweithio yn gorfod gweithio o dan amodau anodd rhwng y llanw, gan ddefnyddio'r technegau arolygu geoffisegol diweddaraf i archwilio o dan y silt trwchus sydd bellach wedi gorchuddio'r safle.

Nid yw gwir natur yr henebion cyn-hanesyddol yma wedi’i ddeall yn iawn hyd yma. Cafodd yr aliniadau cerrig eu hadeiladu a'u defnyddio o'r cyfnod Neolithig Hwyr hyd ar Oes yr Efydd Ganol, dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Maent yn cynnig cipolwg prin i ni o arferion seremonïol a defodol y cyfnodau hyn.

Mae rhes gerrig Yelland yn safle sy'n bwysig yn genedlaethol sy'n cael ei ddiogelu fel cofadail gofrestredig. Mae'n cynnwys o leiaf 18 o gerrig bach wedi'u trefnu mewn pâr o resi cyfochrog. Mae'n debyg i'r gosodiadau cerrig geometrig o gerrig llai, rhai llai na 30cm o uchder, a geir ar Exmoor. Yn y 1930au darganfuwyd cloddiad o naw pâr o gerrig neu socedi cerrig; gwasgariad o offer fflint, a rhywfaint o dystiolaeth o feddiant yn ystod yr Oesoedd Mesolithig, Neolithig ac Efydd Cynnar.

Dywedodd Dr Martin Bates: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y safle hwn, gan ddod â'r arbenigedd ry’n ni wedi datblygu wrth weithio ar hyd arfordir Cymru, i Dde Orllewin Lloegr. Efallai y gallai ein hastudiaeth helpu i daflu goleuni ar y berthynas roedd gan adeiladwyr henebion gyda'r môr."

Dr Martin Bates

Mae'r safle yn warchodfa natur ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei phoblogaethau adar. Gellir dod o hyd i blanhigion prin yno hefyd, gan gynnwys lafant môr creigiog prin sy'n tyfu ar hyd y glannau. Mae'r prosiect wedi ei gynllunio a'i amseru'n ofalus er mwyn osgoi tarfu ar y poblogaethau adar. Mae'r RSPB yn berchen ar y safle ac mae'n cefnogi'r prosiect i ailddarganfod y cerrig.

Meddai Charlotte Russell o Historic England: "Mae'n gyffrous cael y cyfle i ailddarganfod cerrig Yelland sydd heb gael eu gweld ers dros 35 mlynedd. Mae angen i ni sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt wedi cael eu difrodi gan lifogydd neu dywydd gwael. Mae hwn yn safle pwysig i gadw'n ddiogel ac i basio ‘mlaen at genedlaethau'r dyfodol, ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yma'n datgelu mwy am y safle a'r amodau y cafodd y cofadail ei hadeiladu miloedd o flynyddoedd yn ôl. Gyda'n partneriaid yn y RSPB a Gwasanaethau Amgylchedd Hanesyddol Dyfnaint, byddwn yn datgloi cyfrinachau'r safle sydd wedi’u claddu yn y silt ers cyhyd."

Dywedodd Bill Horner, Archeolegydd Sir Ddyfnaint: "Mae ail-ddarganfod y safle unigryw hwn wedi bod yn un o flaenoriaethau fy nhîm ers nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch iawn bod Historic England wedi penderfynu ariannu’r gwaith gan roi’r cyfle i ni ddysgu llawer iawn mwy am y gofadail hynod ddiddorol hon.”

Meddai Peter Otley, rheolwr y safle o ran y RSPB: "Nid yn unig yw ein gwarchodfeydd natur yn llefydd gwych ar gyfer bywyd gwyllt ond maen nhw hefyd yn gartrefi i emau archeolegol anhygoel. Rydym yn hynod gyffrous o fod yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i ddeall mwy am hanes ein gwarchodfa natur yn Isley Marsh gan helpu i'w warchod ar gyfer y dyfodol."

Mae Historic England yn gobeithio y bydd yr ymchwiliadau'n rhoi cyfle i gasglu samplau paleao-amgylcheddol megis paill a hadau, neu olion hynafol o bryfed a fydd yn datgelu mwy am wyneb y tir, yr hinsawdd a'r amodau oedd yn bodoli yn ystod yr amser y cafodd y gofadail ei hadeiladu’n gyntaf.

Unwaith y bydd y cerrig wedi'u darganfod a'r dystiolaeth wedi’i gasglu a’i ddadansoddi, bydd Gwasanaeth Amgylcheddol Hanesyddol Cyngor Sir Dyfnaint, ynghyd â'r RSPB a Historic England, yn gobeithio darparu panel ddehongli newydd ar gyfer Llwybr Tarka yn esbonio mwy am y safle a hanes yr ardal.

Yn gweithio ar gampws Llambed y Brifysgol, mae gan y Geoarcheolgydd Dr Martin Bates ffocws ymchwil mewn priddoedd a gwaddodion o safleoedd archeolegol, gan edrych yn benodol ar y berthynas rhwng bodau dynol a’u hamgylchedd.

Mae rhai o'r darganfyddiadau archeolegol y mae Dr Martin Bates wedi bod yn gysylltiedig â nhw yn cynnwys cwch o’r Oes Efydd; darganfyddiad set o gyrn ceirw coch sydd wedi’u dyddio rhwng 1200 a 1000 CC; tirweddau coll Arfordir Norfolk a’r olion traed dynol hynaf y tu allan i Affrica. Mae Martin hefyd yn awdurdod ar goedwigoedd tanddwr Borth, Ceredigion.

Am wybodaeth bellach am Archaeoleg yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i https://www.ydds.ac.uk

Yelland Stone

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Rosie Ryder, Historic England - rosie.ryder@historicengland.org.uk / 02079733388

Neu Charlotte Russell- charlotte.russell@HistoricEngland.org.uk / 07889808138

Neu Sian-Elin Davies ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 01267 676908/07449 998476 / sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk