Mae Coleg Celf Abertawe yn cyflwyno… Tarody.


03.05.2018

Mae myfyrwyr Perfformiad Cyfoes yn eich gwahodd i berfformiad safle penodol yng nghanol Dinas Abertawe.

Poster

Mae Tarody wedi’i osod yng nghanol dinas Abertawe ac mae’n ddychan rhyngweithiol ar faterion cyfoes a ysbrydolwyd gan brif arcana y tarot. Bydd myfyrwyr a graddedigion Perfformio Cyfoes a’r Celfyddydau Cain yn y Drindod Dewi Sant yn ymateb i faterion cyfredol, ffigurau enwog a digwyddiadau hanesyddol o Abertawe a de Cymru drwy ymchwil creadigol ar yr archdeipiau poblogaidd sy’n ymddangos mewn pecyn tarot. Ymunwch â ni i chwilio am y Ffŵl, y Tŵr a’r Carwyr wrth i’r perfformiad arloesol a chydweithredol hwn ail-ddychmygu Canol Dinas Abertawe.

Graddedig Perfformiad Cyfoes yw Rhys McLellan a bydd yn perfformio yn Tarody. Meddai: “Tywydd annarogan ac ymateb y gynulleidfa yw’r peth cyffrous am berfformiad safle penodol.”

Bydd myfyriwr cyfredol Syamala Skinner hefyd yn cymryd rhan. Meddai: “Mae addasiad ar y pryd ac ymateb i’r safle wedi bod yn hanfodol yn gynnydd y gwaith yma. Mae hyn wedi caniatáu theatr y ddelwedd i gynrychioli ein syniadau a dod yn naratif dominyddol, a’r safle i barhau i fod yn ysbrydoliaeth i’r gwaith.”

Bydd y perfformiadau yn digwydd ar 9fed Mai am 2yp, 3yp, a 4yp ac wedyn ar 19eg May am 1yp, 2yp, a 3yp. Mae’r perfformiad yn rhad ac am ddim ond Argymhellir eich bod yn cadw lle. Bydd y perfformiad y tu allan, glaw neu hindda felly dewch â dillad addas i’r tywydd a sgidiau cerdded da.

Manylion Pellach:

Cyfarwyddir gan: Thania Acarón (www.thania.info)

Cydweithio ychwanegol gan: Sue Williams (nomorepink.com)

Perfformwyr ac Artistiaid Gweledol: Syamala Skinner, Niamh Provan, Derek Palmer, Rhys McLellan, Liam Reynolds, Johnathan (Gypsy) Woodwards, Jodie Harris, Emily Scandone, Noleen Thomas, Melissa Rodrigues

Os gwelwch ni o gwmpas, tagiwch ni ar Instagram, Facebook neu Twitter: #Tarody, @performswansea

Angen mwy o wybodaeth? E-bostiwch ni: performswansea@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

Cate Hopkins

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau| Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus| Corporate Communications and PR

Swansea:   Mount Pleasant campus, Mount Pleasant, Swansea, SA1 6ED

Mobile:      07384 467 078

Skype:       Catherine Hopkins

Email:        catherine.hopkins@uwtsd.ac.uk