Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio’r Drindod Dewi Sant yn cyflwyno Far From The Madding Crowd
22.02.2018
Mae dros ddeg ar hugain o fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio ar y cyrsiau gradd BA Actio a BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cydweithredu â’r cyfarwyddwr Geinor Styles sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith, a’r cyfarwyddwr cerdd, Daniel Lloyd, ar eu cynhyrchiad o Far From the Madding Crowd sydd ar fin dechrau.
Llwyfannir y cynhyrchiad yn Theatr Halliwell ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol a bydd yn rhedeg o ddydd Iau, 22 Chwefror i ddydd Sadwrn, 3 Mawrth.
Mae cynhyrchiad y myfyrwyr wedi ei seilio ar y nofel boblogaidd gan Thomas Hardy y mae nifer yn hoff iawn ohoni, ac sydd wedi ei haddasu gan Mark Healy. Ynddo adroddir hanes Bathsheba Everdene gan ddefnyddio llwyfaniad ensemble a chanu gwerin byw.
Ar ôl etifeddu fferm ei thad, caiff Bathsheba – gwraig ifanc fywiog ac eofn – ei hun yn chwarae rhan meistres mewn byd dynion. Mae tri darpar garwr ar ei hôl hi: y bugail digyfnewid, Gabriel Oak; y tirfeddiannwr obsesiynol, William Boldwood, a’r Sergeant Troy ffwrdd â hi. Ond ydy’r un ohonyn nhw’n ddigon o ddyn i’r Bathsheba benderfynol?
Llwyfannwyd y cynhyrchiad penodol hwn o Far from the Madding Crowd am y tro cyntaf gan yr English Touring Theatre yn 2008 ac mae’n ein tywys ar daith theatraidd trwy wlad Hardy gan ddilyn merch ifanc nwydus a hyrddiwyd i fywyd menyw gan ei phrofiadau o gariad a cholled.
Cyfarwyddwr Artistig Theatr na n’Og, Geinor Styles, sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad. Yn ddiweddar enillodd hi un o Wobrau Theatr Cymru am y sioe gerdd wreiddiol Eye of the Storm – sef sioe a gyd-ysgrifennodd hi â’r gantores o gyfansoddwraig hynod lwyddiannus, Amy Wadge.
“Bu hwn yn gyfle a phrofiad ardderchog i weithio gyda myfyrwyr ar Far From the Madding Crowd,” meddai Geinor.
“A minnau'n Gyfarwyddwr Theatr ar gwmni theatr yng Nghastell-nedd, dyna braf yw gweld bod gennym ni gymaint o dalent ar garreg y drws. Bu hon hefyd yn ffordd dda i’r myfyrwyr wneud cysylltiadau a rhwydweithio â phobl mewn cwmnïau theatr proffesiynol.
“Bu’n braf gweld y myfyrwyr yn mynd i’r afael â her prif gynhyrchiad tŷ, gydag angerdd ac ymrwymiad a hefyd gweld sut maen nhw wedi tyfu’n berfformwyr,” ychwanega Geinor.
Yn ymuno â Geinor Styles yn gyfarwyddwr cerddorol ar y cynhyrchiad y mae’r actor, canwr a’r cyfansoddwr Daniel Lloyd a ymddangosodd yn ddiweddar yng nghynhyrchiad The Commitments yn y West End.
“Mae gan y sioe elfen gerddorol gref gydag aelodau’r cast yn canu eu hofferynnau eu hunain yn ogystal â chanu,” meddai Dan.
“Rydyn ni wedi gweld doniau'r myfyrwyr yn datblygu a blodeuo’n berfformiadau anhygoel gyda sensitifrwydd ac aeddfedrwydd.”
Heb os, mae hi wedi bod yn fuddiol i’r myfyrwyr – yn ogystal â graddedigion Y Drindod Dewi Sant a oedd yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad – weithio gyda chyfarwyddwyr o safon Geinor a Dan ac maen nhw wedi dysgu cryn dipyn o’r broses gyfan.
“Mae gweithio gyda Geinor a Dan wedi rhoi cipolwg anhygoel ar y diwydiant yr ydw i’n mynd i mewn iddo,” meddai Katheryn Siggers, myfyriwr trydedd flwyddyn BA Actio yn Y Drindod Dewi Sant. “Mae’r naill a’r llall yn ein trin ni fel gweithwyr proffesiynol, ac mae hyn wedi gwella fy hyder i yn actores, wedi cadarnhau fy newis gyrfa ac wedi gwneud i mi deimlo’n barod ar gyfer y byd y tu allan.”
Mae Laura Walker, a raddiodd gyda BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn Y Drindod Dewi Sant ac sydd wedi dychwelyd i’r brifysgol i weithio ar y cynhyrchiad, hefyd wedi mwynhau gweithio ar y sioe yn fawr iawn. Mae’n falch iawn o fod yn rhan o’r tîm sy’n llwyfannu’r gwaith uchelgeisiol hwn.
“Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio ar Far From the Madding Crowd,” meddai Laura.
“Ers cael gwahoddiad i ddychwelyd i’r Drindod Dewi Sant yn Rheolwr Llwyfan graddedig, dwi wedi magu hunan hyder ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chast a chriw mor dalentog. Dwi ar bigau’r draen am weld y sioe yn dod at ei gilydd a gweld ffrwyth gwaith caled pawb.”
Mae gweithio gyda gweithwyr theatr proffesiynol yn elfen allweddol yn y cyrsiau Celfyddydau Perfformio a addysgir yn Y Drindod Dewi Sant a’r myfyrwyr yn cael y cyfle i’w haddysgu gan ymarferwyr uchel eu parch, gan sicrhau bod yr holl raddedigion yn barod i’r diwydiant.
“Mae wedi bod yn broses ddysgu arbennig i fyfyrwyr BA Actio a BA Dylunio a Chynhyrchiad Theatr i’w cynnwys mewn cynhyrchiad ar raddfa mor fawr,” meddai Stacey-Jo Atkinson, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr.
“Dros y 7 wythnos ddiwethaf, cafodd y myfyrwyr gyfle i weithio gyda dau gyfarwyddwr proffesiynol yn ogystal â llu o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant i wneud y sioe hon yn fyw. Mae wedi bod yn brofiad creadigol rhyfeddol i bawb dan sylw ac rydyn ni’n awchu am rannu’r gwaith cynhyrchu â chynulleidfaoedd yng Nghaerfyrddin.”
Bydd Far From the Madding Crowd, o dan gyfarwyddyd Geinor Styles a Daniel Lloyd yn agor yn Theatr Halliwell ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol ddydd Iau, 22 Chwefror a bydd yn rhedeg tan ddydd Sadwrn, 3 Mawrth. Mae tocynnau’n costio £5/£3 a gellir eu harchebu naill ai trwy anfon e-bost heather.thomas@uwtsd.ac.uk neu drwy ffonio 01267 676929
Nodyn i'r Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 / sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk