WIAV i berfformio yng Ngŵyl Radur a Phentre-poeth


10.05.2018

Mae myfyrwyr Academi Llais Ryngwladol Cymru yn edrych ymlaen at berfformio yng Ngŵyl Radur a Phentre-poeth yfory. 

Monique and Henry headshots

Bydd y fezzo-soprano Monique Simone a’r tenor Henry Ngan yn perfformio, a’r répétiteur Llŷr Simon yn cyfeilio, yn yr ŵyl a gynhelir er budd Cymdeithas Alzheimer Cymru.  Cynhelir y gyngerdd ddydd Gwener 11 Mai yn yr Eglwys Fethodistaidd yn Radur am 1pm.   

Meddai Dave Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd yn Academi Llais Ryngwladol Cymru:  “Dyma'r bedwaredd flwyddyn i’n myfyrwyr berfformio'n rhan o’r ŵyl hyfryd yma ac mae’n bleser mawr gennym ni ddychwelyd unwaith eto’n rhan o’n perthynas barhaus â nhw.  Gobeithiwn y bydd y gynulleidfa’n mwynhau’r perfformiad!”

Mae Monique Simone yn fezzo-soprano Awstralaidd/Almaenaidd 23 oed sydd wedi astudio yn Ysgol Uwchradd Coleg y Celfyddydau Victoria ac Academi'r Celfyddydau Perfformio Gorllewin Awstralia.   Mae uchafbwyntiau diweddar yn ei gyrfa’n cynnwys perfformio yng nghyngerdd nos galan ‘Vienna Pops’ Mark Coughlan yn Neuadd Gyngerdd Perth, a dod ag opera i gymunedau anghysbell yn Broome a Derby fel unawdydd yn ‘Opera Under the Stars’.  Ymhlith y gwobrau nodedig mae Monique wedi’u derbyn mae Lleisydd Hŷn mwyaf nodedig  Gŵyl Gerdd Gogledd Perth a Gwobr Cynghrair Tramor Brenhinol Perth i Gantorion Ifanc. Yn 2017, mwynhaodd weithio gyda chorws Opera Gorllewin Awstralia yn Tosca a The Merry Widow.

Yn enedigol o Hong Kong, graddiodd Henry Ngan o Academi Celfyddydau Perfformio Hong Kong ac enillodd ei radd Meistr mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Yn ystod ei astudiaethau derbyniodd nifer o ysgoloriaethau gan gynnwys Gwobr Ysgoloriaeth Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Cronfa Ymddiriedolaeth Syr Robert Black, Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Hong Kong, Ysgoloriaeth Côr Plant Hong Kong ac Ysgoloriaeth Goffa  Michael Rippon. Cymerai ran yn aml hefyd yng Ngŵyl Gerdd Ysgol Hong Kong ac ef oedd yn fuddugol yng Ngŵyl Ganu Ieuenctid Hong Kong  gan dderbyn “Tlws Ella Kiang” ac “Ysgoloriaeth HKYSF”. Mae ei waith operatig wedi cynnwys perfformiadau gyda chwmnïau yn y Deyrnas Unedig, Lyric Opera Studio Weimar yn yr Almaen, Opera Hong Kong a Musica Viva HK. Mae ei rannau yn cynnwys Spoletta (Tosca), Remendado (Carmen), Tamino & Monostatos (Die Zauberflöte), Camille (The Merry Widow), Arturo (Lucia di Lammermoor), Ruiz (Il trovatore), Starveling (The Midsummer Night’s Dream), Prologue (The Turn of the Screw), Lucano & Soldato (L’incoronazione di Poppea). Mae e hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau yn cynnwys La Bohème, Madama Butterfly, Macbeth, Giovanna d’Arco, Simon Boccanegra, Otello, La Traviata, Cavalleria Rusticana, I Pagliacci a La Fille du Régiment. Mae hefyd wedi’i ddewis i berfformio mewn cyngerdd gyda’r tenor o’r Eidal Andrea Bocelli ac yng nghyngerdd The King’s Singers.

Gwybodaeth Bellach

Cate Hopkins

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau| Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus| Corporate Communications and PR

Swansea:   Mount Pleasant campus, Mount Pleasant, Swansea, SA1 6ED

Mobile:      07384 467 078

Skype:       Catherine Hopkins

Email:        catherine.hopkins@uwtsd.ac.uk

Hafan Ystafell Newyddion