Canolfan Iechyd a Heneiddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cynllun iechyd a ffitrwydd newydd i’r rhai dros 50 oed


01.01.2020

Mae Canolfan Iechyd a Heneiddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ffordd newydd i ddynion a menywod 50 oed a throsodd i ddod yn heini a chynnal ffordd iach o fyw.

Dr Peter Herbert

Dr Peter Herbert, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Nod Canolfan Iechyd a Heneiddio’r Brifysgol, a agorodd yn 2016, yw hyrwyddo a gwella iechyd a ffitrwydd.  Ers iddi agor, mae’r Ganolfan wedi gweithio gydag amrywiaeth o bobl ac mae ei gwaith wedi parhau i ddatblygu a thyfu.  Bellach mae ganddi dros 70 o gleientiaid – yn ddynion a menywod – pob un ohonynt â’u rhaglenni hyfforddi unigol eu hunain a ddatblygwyd yn benodol ar eu cyfer gan dîm o arbenigwyr.

Beth bynnag oedd eu lefelau ffitrwydd neu iechyd blaenorol, mae dros 95% o’r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi gwella eu statws ffitrwydd presennol.

Agorwyd y Ganolfan yn y lle cyntaf fel ymateb uniongyrchol i’r diddordeb aruthrol gan y cyfryngau ac aelodau’r cyhoedd i waith ymchwil Dr Peter Herbert o’r Drindod Dewi Sant.  Mae Dr Herbert yn awdurdod blaenllaw ar ffitrwydd yn y genhedlaeth hŷn.  Edrychodd ei PhD ar ddulliau o hyfforddi dynion hŷn, gan brofi y gall sesiynau hyfforddi byrrach, caletach wedi’u dilyn gan gyfnodau adferiad hirach gael canlyniadau positif ar eu lefelau ffitrwydd. Hefyd, mae’n deall y gall math mwy cymedrol o ymarfer corff gynnig opsiwn amgen i wella iechyd a ffitrwydd.

Fel ffisiolegydd tra phrofiadol, mae gan Dr Peter Herbert gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda phobl chwaraeon o bob oed ac o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys rygbi, bocsio a seiclo. Yn gyn hyfforddwr Cryfder a Chyflyru gyda’r Scarlets a thîm rygbi cenedlaethol Cymru, mae Dr Herbert hefyd yn seiclwr hynod o lwyddiannus, ac wedi ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth Meistri Seiclo Trac y Byd yn 73 mlwydd oed.

Yn sgil llwyddiant ysgubol y rhaglen gychwynnol a gynigiwyd yn y Ganolfan Iechyd a Heneiddio, mae Dr Peter Herbert wedi bod yn edrych ar y ddarpariaeth er mwyn ceisio galluogi rhagor o bobl i gymryd rhan.

“Er bod y Ganolfan Iechyd a Heneiddio wedi bod yn llwyddiant anhygoel, mae cwmpas a chapasiti’r ddarpariaeth yn rhy gyfyng i gael effaith ehangach yn y gymuned,” meddai Dr Herbert.

“Mae hefyd yn amlwg bod y llwyddiannau hyn, yn enwedig mewn perthynas ag effaith ac ymlyniad uchel yr aelodau, wedi cael eu cyflawni trwy weithredu’r strategaethau ymarfer corff diweddaraf sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â’r ymchwil o safon fyd-eang i heneiddio ac ymarfer corff a gynhyrchwyd o fewn Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Brifysgol.  

“Mae cymhelliad uchel y cleientiaid dros gyfnod o dair blynedd wedi arwain at gyfradd tynnu’n ôl anhygoel o isel – llai na 10% - sy’n golygu bod aelodau eraill o’r gymuned a oedd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen yn wreiddiol wedi methu â gwneud hynny oherwydd y nifer cyfyngedig o leoedd oedd ar gael.”

I ddatrys y broblem hon, penderfynodd Dr Peter Herbert newid fformat y dosbarth trwy drefnu sesiynau awr yr wythnos dros gyfnod o wyth wythnos.

Nod y bloc hwn o sesiynau yw gwella ffitrwydd yr aelodau, rhoi gwybodaeth dechnegol iddynt o sut i ymarfer a’u galluogi i drefnu eu rhaglenni hyfforddi eu hunain, gan gadw ffocws a chymhelliad ac arwain at ffyrdd iachach o fyw. Bydd hefyd yn rhoi hyder iddynt ymuno â dosbarth neu gampfa mewn man arall yn y gymuned wedi i’r bloc wyth wythnos o sesiynau ddod i ben.

Dros yr wyth wythnos diwethaf, mae Dr Herbert wedi bod yn cynnal cynllun peilot yn y Drindod Dewi Sant a dau o’r rhai a fu’n cymryd rhan yw’r gŵr a gwraig Paul a Pauline Roche o Saundersfoot.

Penderfynodd Paul sy’n 82 oed a Pauline sy’n 79 oed i ddechrau cymryd rhan yn y cynllun hwn i gadw cwmni i’w ffrindiau ond ar ôl cwblhau eu bloc wyth wythnos, mae'r ddau ohonyn nhw wrth eu bodd eu bodd - ac yn edrych ymlaen at floc arall wyth wythnos ar ôl y Nadolig.

“Mae Paul wedi cael dwy lawdriniaeth ar ei asgwrn cefn ac o ganlyniad mae ganddo symptomau tebyg i strôc mewn un fraich ac un o’i goesau,” meddai Pauline.  “Dywedodd Arbenigwr wrthym fod angen i Paul ddechrau gwneud ymarfer corff ond mae wastad wedi bod yn erbyn mynd i'r gampfa!  Nid oedd gennym yr hyder i fynd i'n campfa leol ac nid oeddem wir eisiau mynd. Fodd bynnag, mae'r profiad hwn gyda Dr Peter Herbert wedi bod yn rhagorol. Mae'r ddau ohonom wedi magu cymaint o hyder.

“Mae gen i osteoarthritis hefyd ac mae gen i gydbwysedd gwael,” ychwanega Pauline. “Rwyf wedi cael cwympiadau niferus ond ers dechrau ein sesiynau yng Nghaerfyrddin, rwy’n bendant yn teimlo’n llawer gwell. Roeddwn i'n arfer cael anhawster i gau drws y car neu estyn am bethau ar ben y cwpwrdd dillad ond nawr rwy'n teimlo'n llawer gwell ac yn gallu gwneud mwy nag o’n i o'r blaen. Rydw i wedi fy synnu'n fawr gan hyn a hefyd wedi fy synnu gan ba mor bleserus oedd y profiad. Doeddwn i wir ddim yn disgwyl iddo fod yn bleserus ond rydw i'n teimlo cymaint yn well ar ôl pob sesiwn.

“Yn ystod y sesiwn gyntaf, gwnaeth Peter a’i dîm asesiad o’n hanghenion ac yna cawsom raglen hyfforddi i’w dilyn. Arhosodd yr hyfforddwyr personol gyda ni trwy gydol pob un o'r sesiynau - gan ddangos i ni sut i ddefnyddio'r peiriannau a'n sbarduno ni ‘mlaen. Roedd yr help yn gyson a phob wythnos, byddent yn ein gwylio a byddem yn symud ymlaen â'u cyngor - nid oeddem byth yn ofni y byddem yn cwympo neu'n anafu ein hunain, gan fod y gefnogaeth mor wych.

“Mae hwn wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn ac roedd yr agwedd gymdeithasol o gwrdd â phobl eraill hefyd yn bwysig,” meddai Pauline. “Roeddem yn teimlo ein bod yn cael cefnogaeth a’n cael ein harsylwi drwy’r amser - roedd rhywun yno drwy’r amser i’n gwthio a chredaf mai dyna oedd y gyfrinach. Byddwn yn bendant yn argymell y ffordd hon o hyfforddi i eraill - yn enwedig i bobl o'n grŵp oedran ni a fyddai'n ansicr ynghylch beth i'w wneud mewn campfa. Mae'r ddau ohonom nawr yn teimlo'n llawer gwell ac yn teimlo'n fwy egnïol hefyd.”

Mae’r Ganolfan ar agor i’r cyhoedd a’i nod yw datblygu cysylltiadau cryf gyda’r gymuned leol drwy ddod â grwpiau at ei gilydd sydd ag anghenion iechyd ac ymarfer corff tebyg i gymdeithasu yn ogystal ag i wella eu lles.  Mae hefyd yn ganolfan ymchwil sy’n edrych ar y modd y gellir defnyddio ymarfer corff i wella iechyd a ffitrwydd mewn pobl hŷn.

“Ar ôl ymchwilio i ffitrwydd mewn pobl hŷn a gweld canlyniadau’r gwaith rydym wedi’i wneud dros y tair blynedd diwethaf, teimlaf ein bod heb os, yn cynnig gwasanaeth sydd o fudd mawr i’r boblogaeth hŷn yng Ngorllewin Cymru.

“Gyda chymorth nifer dethol o fyfyrwyr sy’n astudio graddau yn ymwneud â Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd yn y Drindod Dewi Sant, gallwn gynnig rhaglen hyfforddi wedi’i theilwra i’n cleientiaid a fydd yn addas ar gyfer oed ac anghenion pob unigolyn.  Edrychwn ymlaen at agor y Ganolfan i nifer cynyddol o bobl ar draws Gorllewin Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gydag amrywiaeth o bobl o bob gallu a lefel ffitrwydd.

Cynhelir y sesiynau ffitrwydd am awr, unwaith yr wythnos dros gyfnod o wyth wythnos.  Cynhelir y sesiynau i gyd ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a rhaid eu bwcio ymlaen llaw.  Mae bloc wyth wythnos o sesiynau’n costio £60.

Hefyd wedi’i gynnwys mae asesiad iechyd a ffitrwydd cyn y cwrs. Bydd y grwpiau ymarfer yn fach (uchafswm o 6 o bobl ym mhob grŵp) i sicrhau y bydd pawb yn elwa o’r staff profiadol a chymwysedig a fydd yn arwain y sesiynau.  Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol presennol bydd yn ofynnol i chi gyflwyno llythyr gan eich Meddyg Teulu i gefnogi eich ymholiad.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Peter Herbert yn uniongyrchol trwy e-bost at p.herbert@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@pcydds.ac.uk