Ydds Hafan - Ystafell Newyddion - Archif Newyddion - Datganiadau i'r Wasg 2019
Cyhoeddir gan Adran Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant fwrsariaeth guradurol newydd gyda’r Oriel Mission, Abertawe
06.02.2019
Mae’n bleser gan Adran Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi bwrsariaeth guradurol newydd gyda’r Oriel Mission, Abertawe, sy’n cynorthwyo myfyriwr israddedig presennol wrth guradu arddangosfa oddi ar y safle yn ninas Abertawe.
Gwahoddwyd ymgeiswyr a oedd ar y rhestr fer i gyfweliad gyda Chyfarwyddwr interim yr Oriel Mission, Matthew Otten, ym mis Rhagfyr, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r fyfyrwraig Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, Abby Poulson, sydd yn ei hail flwyddyn, yw enillydd y fwrsariaeth eleni. Bydd arddangosfa guradurol uchelgeisiol Abby ar agor rhwng mis Ebrill a mis Mai 2019.
Fel rhan o’r dyfarniad hwn, caiff Abby ei harwain drwy’r broses guradurol gan y tîm sydd yn yr Oriel Mission. Darperir mentoriaeth bellach gan yr artistiaid Jason a Becky, Fern Thomas, Owen Griffiths, Alexander Duncan ac Aled Simons, ochr yn ochr â chymorth technegol gan y dyfeisiwr gosodiadau Eifion Porter.
Meddai Abby: “Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle hwn, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau, ac i ymgysylltu ag artistiaid newydd wrth i mi baratoi ar gyfer yr arddangosfa hon.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk