Ydds Hafan  -  Ystafell Newyddion  -  Newyddion y Brifysgol  -  Datganiadau i'r Wasg 2019

Dirprwyaeth o Wlad y Basg yn ymweld â’r Egin


01.03.2019

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o groesawu aelodau o senedd Gwlad y Basg i’r campws yng Nghaerfyrddin ac i Ganolfan S4C Yr Egin yr wythnos hon. 

Roedd yr ymweliad yn rhan o ddirprwyaeth traws-bleidiol gan y Pwyllgor Diwylliannol sydd yn cynnal adolygiad o ddarlledu cyhoeddus yng Ngwlad y Basg.  Croesawyd, Leixuri Arrizabalaga, cadeirydd y pwyllgor, Jasone Agirre, Ana Oregi, Gloria Sánchez, Nerea Llanos a Zelai Nikolas, clerc y pwyllgor.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Pro-Is-Ganghellor yn y Brifysgol “Roedd yn braf iawn cael croesawu’r ddirprwyaeth i’r Brifysgol ac i’r Egin a chael y cyfle i rannu ein gweledigaeth o ran denu dalledwr cyhoeddus fel S4C i ymgartrefu gyda chwmniau eraill o fewn y diwydiannau creadigol. Mae’r ffaith fod yr Egin bellach wedi ymsefydlu ei hun yn ganolbwynt ar gyfer y diwydiannau creadigol mewn prin amser o agor ei ddrysau yn dyst fod yna awch gan gwmnïau a’r cyhoedd i fod yn rhan o’r bwrlwm sy’n cael ei greu yma.

Trefnwyd yr ymweliad gan Elin Haf Gruffydd Jones a roedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda S4C, BBC, TAC, Ofcom, Tinopolis, ymgyrchwyr ac arbenigwyr ynghyd â Llywodraeth Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed AS yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Elin “Mae’r datblygu’r berthynas ymhellach rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn dod â manteision gwerthfawr i’r ddwy wlad. Mewn gwirionedd, does dim gwell cymhariaeth i sefyllfa’r Gymraeg. Rydym yn debyg mewn sawl ffordd. Mae gan y ddwy wlad boblogaethau tebyg – tua 3 miliwn – ynghyd â ieithoedd unigryw, Cymraeg a Basgeg, sydd yn cydfyw ochr yn ochr â rhai o ieithoedd mwyaf y byd. Felly, wrth i’r Basgiaid adolygu eu cyfryngau nhw, fe ddewison nhw ddod i Gymru i chwilio am syniadau newydd ac i weld pa wersi y gallan nhw eu dysgu o’n profiad ni yma.

Yn ystod y cyfarfodydd, bu’r ddirprwyaeth yn trafod pob math o agweddau ar y cyfryngau, gan gynnwys creu cynnwys newydd arlein yn yr iaith Gymraeg, cyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed ac o bob cefndir, rôl y cyfryngau wrth annog mwy o ddefnydd a gwybodaeth o’r iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru ynghyd â phwysigrwydd y cyfryngau wrth ddatblygu’r economi mewn gwahanol ardaloedd. Bu’r aelodau hefyd yn ystyried materion llywodraethiant, cyllido, y berthynas rhwng darlledwyr a’i gilydd, hybu democratiaeth, a’r gwahanol lefelau o lywodraeth a seneddau yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol.

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Gwlad y Basg ym mis Ionawr 2018.

Sefydlwyd y gorfforaeth ddarlledu yng Ngwlad y Basg yn 1982 yn nyddiau cynnar datganoli yno. Mae gan y gorfforaeth bedair sianel deledu – ETB1 sydd yn darlledu amserlen lawn yn yr iaith Basgeg, ETB3 sydd yn sianel blant yn yr iaith, yna ETB2 sydd yn darlledu mewn Sbaeneg ac ETB4 sydd yn darlledu cynnwys yn y ddwy iaith. Mae hefyd yn darlledu radio – ac mae ganddynt bedair gorsaf – dwy ym mhob iaith, gan gynnwys Euskadi Irratia, gorsaf radio gyffredinol yn yr iaith Basgeg ynghyd â Gaztea sydd yn orsaf radio ar gyfer pobl ifanc yn yr iaith Basgeg.