Ydds Hafan  -  Ystafell Newyddion  -  Newyddion y Brifysgol  -  Datganiadau i'r Wasg 2019

Dull addysgu newydd yn adlewyrchu amgylchedd y gweithle ac yn annog gwell ymgysylltu gan fyfyrwyr


22.02.2019

Mae dull newydd o addysgu israddedigion, a lansiwyd ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llambed eleni, eisoes wedi gweld cynnydd o ran ymgysylltiad a chyrhaeddiad myfyrwyr.

Errietta and Group of students

Cafodd y dull addysgu hwn o ymroi’n llwyr i un peth ar y tro, a elwir yn addysgu bloc, ei gyflwyno ar draws rhaglenni Dyniaethau'r Brifysgol ym mis Medi ac mae eisoes yn boblogaidd gyda myfyrwyr a staff fel ei gilydd.

Yn ôl y rhai sy’n ffafrio’r system, mae’r dull bloc yn annog dysgu gweithredol ar ran y myfyrwyr trwy addysgu pynciau’n ddwys mewn blociau ar hyd y flwyddyn academaidd.  Ei nod yw hyrwyddo caffael gwybodaeth academaidd a sgiliau cyflogadwyedd i’r un graddau.

Yn hytrach nag astudio tri modwl ym mhob semestr, mae myfyrwyr yn astudio un modwl yn ddwys dros gyfnod o bedair wythnos, fel arfer am dair awr y dydd ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener bob wythnos. O ganlyniad mae myfyrwyr yn cael eu trochi mewn pwnc ac yn gallu astudio mewn mwy o fanylder, cyflawni tasgau mewn ffordd sy'n nodweddu'r gweithle; gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser - gyda'i gilydd ac yn annibynnol - cyfathrebu'n dda a datblygu hyder yn eu gallu i berfformio, cydweithio ac arwain.  

Block Teaching 1

Meddai Dr Tristan Nash, uwch ddarlithydd mewn Athroniaeth “O’r blaen gallai myfyrwyr fod yn astudio hyd at dri modwl ar y tro gan olygu y byddent yn ceisio paratoi ar gyfer asesiad mewn tri phwnc gwahanol ar yr un pryd.  Teimlem nad dyma’r ffordd o gael y gorau ganddynt.”  

“Pan oeddem yn dilyn yr hen system, gallai fod wythnos rhwng darlithoedd a olygai y gallai wythnos fynd heibio cyn i ni ailgydio yn y syniadau, ac yn y cyfamser gallai’r syniadau hynny fod wedi mynd yn angof. Bellach, rydyn ni’n cwrdd â’r myfyrwyr y diwrnod wedyn fel y gallwn gynnig cymorth tiwtorial a seminar ychwanegol yn ogystal â darllen ychwanegol ar gyfer trannoeth.  Gall myfyrwyr ymgolli yn y pwnc ac yna gallwn ailgydio yn y syniadau y diwrnod wedyn pan maent yn dal i fod yn ffres yn y cof.”

Meddai Quentin Drew, darlithydd Archaeoleg a Threftadaeth: “Mae’n helpu’r myfyrwyr cymwys iawn gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt fwrw ati ac astudio’r blociau mewn manylder, ond mae hefyd yn helpu myfyrwyr sydd, efallai, â materion eraill sy’n mynd â’u sylw, y maen nhw’n gorfod delio â nhw.  Rydym yn gweld y myfyrwyr yn ymgysylltu’n well oherwydd y cyswllt maent yn ei gael gyda ni a’r grŵp bob dydd am y pedair wythnos.  Mae eu hyder wrth gymryd rhan hefyd yn cynyddu.  I ddechrau maent yn gallu bod ychydig yn dawedog ond erbyn diwedd y bloc maent yn dod yn rhan annatod o’r holl weithgarwch boed hynny mewn seminarau neu drafodaethau grŵp, felly o ran ymgysylltiad myfyrwyr, mae’n hynod o fuddiol”.

Meddai Tristan Nash eto: “Y fantais gyda'r ffordd hon o addysgu, gan eich bod ond yn addysgu’r un grŵp yma o fyfyrwyr ar y tro, yw y gallwch ganolbwyntio’n llwyr ar y grŵp hwnnw o fyfyrwyr.  Rydych chi’n gweld y myfyrwyr hynny am dair awr y dydd wrth ddarlithio iddynt, fodd bynnag gallwch fod ar gael hefyd weddill y dydd felly os oes angen cymorth tiwtorial arnynt, os ydynt am drafod eu traethodau, gallwch fod ar gael i’w cynorthwyo.  Felly nid yn unig y mae’n brofiad trochol yn nhermau’r darlithio, mae hefyd yn drochol y tu hwnt i hynny.  Ceir digonedd o gyfleoedd am gymorth un–i-un, ac mae digon o fyfyrwyr i weithio gyda’i gilydd y tu allan i’r modylau hefyd.

Meddai Dr Matthew Cobb, darlithydd yn y Clasuron: “Credaf ei fod wedi caniatáu llawer mwy o gyfleoedd i ryngweithio ac ymgysylltu, nid yn unig ymhlith myfyrwyr ond hefyd gyda mi. Felly mae’r math hwn o addysgu’n gofyn am lawer mwy o ymgysylltu rhyngbersonol gyda mi a'r myfyrwyr, wrth weithio mewn grwpiau, gweithio mewn tîm, a meddwl yn gydweithredol. Felly mae'n fanteisiol iawn ar gyfer datblygu sgiliau gyrfa i’r dyfodol ar gyfer cyflogaeth, lle bydd angen i chi wneud gwaith tîm gyda llawer o bobl, a chredaf fod hon yn ffordd wych o gael amgylchedd diogel braf i wneud hynny, i deimlo'n hyderus a meithrin eich sgiliau.”

Meddai Dr Luci Attala, Uwch Ddarlithydd mewn Anthropoleg a fu’n allweddol wrth ddatblygu’r dull cyflwyno newydd: “Ar ôl eithaf tipyn o flynyddoedd yn addysgu mewn addysg uwch, sylwais i fod diffyg cysylltiad rhwng yr hyn roeddem ni’n ei roi i’r myfyrwyr a’r hyn yr oedd cyflogwyr yn dweud oedd ei angen ar fyfyrwyr wedi iddynt raddio. Roedd yr hyn roeddem ni’n ei ddarparu yn wasanaeth eithaf goddefol, lle byddai’r myfyriwr yn gwrando ar ddarlith gyda’r disgwyliad y byddai wedyn yn llunio darn o waith, traethawd fel arfer, gryn tipyn yn ddiweddarach”.  

“Yn ôl cyflogwyr, mae’n dda o beth eu bod yn gallu ysgrifennu, ond does dim byth angen rhywun arnom i ysgrifennu traethawd. Efallai eu bod yn wych am wneud hynny ond dydyn nhw ddim yn wych am ymateb i weithgarwch beunyddiol amgylchedd y gweithle, lle mae’n rhaid i chi efallai lunio adroddiad yn gyflym, lle mae’n rhaid i chi efallai weithio mewn grŵp, lle mae’n rhaid i chi efallai allu meddwl ar eich traed, dangos tystiolaeth o’ch gallu i ymchwilio efallai, creu amrywiaeth o ddogfennau gwahanol efallai – ac yn sicr, gant y cant, ddim byth ysgrifennu traethawd!

“Felly, mewn ymateb i hynny, ynghyd â’m hobsesiwn â chynaliadwyedd a cheisio creu graddedigion a fydd yn ymateb i amodau newydd y byd a chanddynt y gallu i ymateb yn gyflym ac yn hyderus, y penderfynom ni ddechrau ailfeddwl pethau”.

Yn y lle cyntaf cyflwynodd Dr Atala fodwl yn dwyn y teitl “Materoldeb mewn Anthropoleg” lle cyflwynwyd y cynnwys trwy weithdai, gwaith cwrs a seminarau ymchwil a lle roedd yn ofynnol i fyfyrwyr roi darlithoedd cyfan ar bwnc penodol.

“A gweithiodd hynny’n dda iawn” meddai, “roedd y myfyrwyr yn wirioneddol frwdfrydig, roeddent yn ymroi’n llwyr. Fe wnaethon nhw gymryd yr awenau gan f’addysgu i, a sylweddolais i’n sydyn, os rhowch chi’r cyfle  hwn iddynt, yn hytrach na’u cadw’n oddefol, os caniatewch iddyn nhw fod yn weithredol a chael llais, maen nhw’n aeddfedu, maen nhw’n magu hyder”.

Y profiad hwnnw a arweiniodd at gyflwyno’r dull addysgu trochol ar draws rhaglenni’r Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio yn y Brifysgol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon.  Mae’r myfyrwyr nid yn unig yn datblygu gwybodaeth fanwl am eu meysydd pwnc penodol; maent hefyd yn datblygu hyfedredd mewn amrywiaeth o sgiliau a gyflwynir yn rhan o’u modylau, gan gynnwys creu gwefan, blogio, cyflwyno adroddiad, neu ddarparu traethawd lluniau, fideo neu ffotograffiaeth.  Y nod yw sicrhau eu bod yn caffael pecyn o sgiliau cyflogadwyedd ochr yn ochr â’u disgyblaeth.

“Rydym wedi creu cyfres o flociau dwys i efelychu’r gweithle, i gadw pawb gyda’i gilydd fel grŵp neu dîm ymchwil am y mis, i weithio’n fanwl ar ddau neu dri syniad o fewn y bloc hwnnw” meddai Luci.   “Felly yn hytrach na modwl hir a thenau lle rydych chi’n ymdrin â rhyw 10 o bynciau gwahanol efallai yn gyflym, yr hyn a gewch nawr yw bloc dwys lle byddwch yn edrych yn fanwl ar ddau neu dri maes pwnc a’r myfyrwyr yn gorfod cwblhau’u gwaith yn gyflym fel y mae’n rhaid ei wneud yn y gweithle.  Dyna beth mae’r system floc yn ceisio’i wneud – maen nhw’n gweithio mewn tîm yn yr un modd ag yn y gweithle. Felly, pan fyddan nhw’n mynd allan, gallant ddweud yn ddiffuant, nid yn unig rwy’n gwybod am Anthropoleg, ond hefyd rwy’n gwybod sut i wneud hyn, fe wnes i ysgrifennu hwnna, fe wnes i weithio gyda’r bobl hyn, fe wnes i gwblhau hynny mewn wythnos a dyma’r enghraifft.”

Heuwyd hadau newid am y tro cyntaf pan aeth grŵp o dîm academaidd y Brifysgol ar ymweliad â Phrifysgol Quest yng Nghanada, sydd yn brifysgol o fri, fel rhan o gyfres o ymweliadau gan y naill a’r llall rhwng y ddwy brifysgol.  A’r cynllun hwnnw bellach yn ei ail ddegawd, mae Quest wedi datblygu dull arloesol ar gyfer addysg ôl-orfodol sy’n galluogi myfyrwyr i ennill sgiliau cyffredinol tra’n treiddio’n ddwfn i’r pynciau maen nhw’n frwdfrydig iawn yn eu cylch.  

Er mai Quest oedd yr ysbrydoliaeth, mae’r Drindod Dewi Sant wedi addasu’r dull addysgu trochol i gyd-destun addysg uwch y Deyrnas Unedig.  Meddai Dr Jeremy Smith, Deon y Gyfadran: “Yn 2012 aeth grŵp bach o Lambed ar ymweliad â Phrifysgol Quest yng Nghanada. Fe wnaethon ni gwrdd â’u myfyrwyr, cyfweld eu darlithwyr, cwrdd â’u Profost ac fe’n rhyfeddwyd gan yr arddull addysgu gwych a’r profiad a gâi’r myfyrwyr yn Quest.  Roedd yn brofiad cyfoethog iawn.  Roedd eu myfyrwyr yn gryf eu cymhelliad ac wedi’u hysgogi ac roedd y tiwtoriaid yn llawn anogaeth. Roedd eu canlyniadau ar draws Canada yn eithriadol o uchel.   Felly yn sgil y profiadau hynny daethom yn ôl i Lambed i lunio ein fersiwn unigryw ein hunain.  Rydym wedi bod yn ei gyflwyno’n raddol dros y flwyddyn academaidd hon ar ôl bod yn ei gynllunio am ddwy flynedd dda cyn hyn, a hyd yma mae’r canlyniadau wedi bod yn galonogol iawn”.

Cred Dr Smith hefyd fod y manteision i’r myfyrwyr yn driphlyg.  Mae’n darparu profiad dysgu personol iawn gan fod yr holl addysgu’n cael ei ddarparu mewn grwpiau bach.  Golyga hyn, gyda rhyw 20 mewn grŵp, y gellir darparu ystod lawn o dechnegau  addysgu ac addysgegau sydd wir yn canolbwyntio ar y myfyriwr unigol.  Yn ail, mae tiwtoriaid a myfyrwyr yn cydweithio’n agos â’i gilydd oherwydd mae’r modwl yn para am bedair wythnos ac yn rhoi gwir ymdeimlad o gydweithredu a chydweithio.   Mae’r myfyrwyr yn ymgolli yn eu pynciau ac mae eu brwdfrydedd yn aml yn esgor ar raddau gwell.  Yn drydydd, mae’r amser cyswllt rhwng myfyrwyr a darlithwyr yn sylweddol uwch nag yn y mwyafrif o brifysgolion sydd, yn ôl Dr Smith, yn rhoi gwell gwerth am arian o ran y ffioedd dysgu.  Meddai “Mae’r system newydd yn caniatáu i ni gynyddu’r oriau cyswllt felly darperir pob modwl o fewn pob bloc dros gyfnod o 48 awr o amser cyswllt.  Golyga hynny amser cyswllt uniongyrchol, mewn dosbarth gyda darlithydd, nid myfyriwr ôl-raddedig, nid rhywun sy’n llenwi bwlch, nid athro llanw ond darlithydd a/neu athro cadeiriol.  Yn ychwanegol at y 48 awr gyswllt bydd myfyrwyr yn cael sesiwn tiwtorial un-i-un bob wythnos a chyfarfod gyda’u tiwtor personol bob wythnos.  O ran gwerth ychwanegol mae hynny eto yn eithriadol o bwysig i fyfyrwyr.  Mae’n rhoi profiad addysgu o safon iddynt; mae’n rhoi’r cyfle iddynt gael marciau uchel, a graddau uchel ac mae’n rhoi gwerth am arian iddynt yn y pen draw. Felly, i ni, mae’r system yn cwmpasu ystod gyfan o gyfleoedd gwirioneddol yr ydym wedi’u hymgorffori yma ynghanol Llambed.”

Gan mai dim ond un modwl a gwblheir ym mhob bloc, mantais ychwanegol i’r system newydd yw nad yw’r modwl yn cystadlu â modylau eraill, sy’n golygu y gellir cynnig ystod o weithgareddau ychwanegol, gan gynnwys teithiau maes a lleoliadau. Meddai Luci Attala: “Mae myfyrwyr Anthropoleg yn mynd i Affrica am fis ac i leoliadau eraill oherwydd gallant wneud hynny heb amharu ar eu modylau eraill.   Felly mae hynny wedi gweithio’n wych. Ac mae hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned oherwydd yn ystod amser segur o fewn y blociau rydym yn eu hannog i wneud gwaith gwirfoddol, i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau dielw, fel y gallant ychwanegu hynny at eu CV.  Mae gennym dri phrosiect rhyngwladol ar gael i fyfyrwyr – un yn Cenia, sydd yn fenter ailgoedwigo yn ymwneud ag adamsugno carbon; un yn Simbabwe, sydd yn brosiect ffermio Masnach Deg, ac un arall yn Ruanda, yn gweithio gyda phlant y stryd.”

A beth am yr effaith ar staff academaidd?  Meddai Quentin Drew, darlithydd Archaeoleg a Threftadaeth, “Mae’r addysgu bellach yn llawer mwy dwys.  Rydym yn gweld y myfyrwyr o fewn amserlen gywasgedig ac yn hytrach na darparu’r modwl yn wythnosol, rydym bellach yn gweld y myfyrwyr bob dydd. Felly mae hynny’n cael effaith ar y modd yr addysgwn o ran yr hyn y gallwn ei ddarparu, a’r hyn y gallwn ei gwmpasu. O ganlyniad mae’n haws o lawer mynd i fanylder a chynnal sylw’r myfyrwyr. Hefyd o ran y modd mae’r myfyrwyr yn ymgysylltu â’r addysgu, ni cheir bwlch o wythnos i dynnu eu sylw at bethau eraill.”  

Ychwanega Dr Errietta Bissa, darlithydd yn y Clasuron: “Mae’r addysgu’n drochol ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r myfyrwyr. Gallan nhw ganolbwyntio ar un pwnc; gallwn ni ganolbwyntio ar un pwnc, ond hefyd mae’r math o bethau y gallwn eu gwneud gyda’r myfyrwyr a’r pethau y gall myfyrwyr ei wneud drostyn nhw’u hunain, wedi newid.  Er enghraifft, mynd ar daith maes, gallu mynd i amgueddfa heb orfod ei drefnu ar ddydd Sadwrn, heb orfod gwneud i fyfyrwyr golli dosbarth mewn modwl arall, ond hefyd y math o weithgareddau y gallwn eu gwneud.  Er enghraifft, gyda’r dosbarth rydw i’n ei addysgu, mae sesiwn lle rydym yn cael dealltwriaeth ymarferol o’r modd yr oedd yr Hoplitiaid Groegaidd yn gweithio ar faes y gad.  Rydw i wedi bod yn rhedeg y sesiwn hon ers sawl blwyddyn ond mae cael un awr o’i gymharu â thair awr ar ôl egluro’r ymarfer y diwrnod blaenorol yn gwneud gwahaniaeth  mawr. Rwy’n gwybod nawr y byddan nhw’n ei ddeall ac y bydd gennym fwy na chwarter awr i egluro, ailadrodd, gwneud yr ymarfer, ailadrodd eto, ac mae hynny’n gwneud cymaint o wahaniaeth o ran y modd mae myfyrwyr yn deall yr hen fyd.

A beth am fyfyrwyr?  Dywed Dr Bissa “Mae’n helpu profiad cyffredinol y myfyrwyr  ac rwyf wedi gweld myfyrwyr nid yn unig yn hapus ond yn awyddus i fynd i’r dosbarth, yn awyddus i wneud gwaith y tu allan i’r dosbarth, oherwydd nid rhywbeth sy’n digwydd wythnos nesaf neu mewn pythefnos ydyw, mae’n digwydd yfory”.

Ychwanega Dr Katharina Zinn, Uwch Ddarlithydd mewn Archaeoleg a Threftadaeth yr Aifft, “Mae’n fwy addas o lawer i ymateb i anghenion y myfyrwyr, felly o ran y rhai sy’n brasgamu ymlaen mewn modwl sy’n ddelfrydol iddynt, gallwch roi fwy o wybodaeth iddyn nhw am y cyd-destun y  tu hwnt i’r modwl, tra gallwch helpu myfyrwyr eraill sy’n cael anhawster gyda’r pwnc arbennig hwnnw”.

Block Teaching - Harry and Tamara

 

Meddai Tamara Bowie o Hastings, myfyrwraig y Clasuron ar ei thrydedd flwyddyn:  “Mae’r addysgu’n wahanol ond mae’n ymddangos fel petai’n gweithio i’r mwyafrif o bobl yma yn Llambed – felly ymateb cadarnhaol!... . Mae gennym fwy o ddarllen i’w wneud ar gyfer dosbarthiadau gan fod gennym bedwar darlith ar yr un pwnc bob wythnos.  Mae’r sefyllfa’n wahanol i’m blynyddoedd blaenorol yn y brifysgol lle roeddem yn cael wythnos gyfan rhwng dosbarthiadau, felly nawr rydym yn treulio llawer mwy o amser yn y llyfrgell, yn gweithio mewn grwpiau, mewn fflatiau, mewn cartrefi ac yn y blaen, yn gweithio ar weithgareddau’r diwrnod wedyn. Yn sicr mae’n fwy dwys ond heb os rydym yn dysgu mwy.  Teimlwn ein bod yn gallu ymgysylltu mwy mewn dosbarthiadau a chael mwy o drafodaeth”.

Meddai’r cyd-fyfyriwr Harry Watkin o Ddyfnaint, myfyriwr Astudiaethau Clasurol ar ei ail flwyddyn:  “I ddechrau roedd gen i fy amheuon am hyn ond a dweud y gwir rwy o blaid y system erbyn hyn.  Mae’n golygu llawer mwy o waith ond rydw i ac eraill rwy’n eu hadnabod wedi gweld gwelliant yn ein canlyniadau ac ar gyfartaledd o’r asesiad cyntaf mae fy marciau wedi bod yn uwch yn gyffredinol.  Rydym yn treulio llawer mwy o amser yn y llyfrgell gyda’n gilydd.  Mae’n ein hannog i weithio’n galetach oherwydd bod angen i ni ymdrin â mwy o gynnwys mewn cyfod byrrach felly mae pawb yn mynd i’r llyfrgell ac yn bwrw ati gyda’i gilydd... Rhwng popeth mae wedi bod yn brofiad arbennig hyd yn hyn ac, er bod gennyf amheuon i gychwyn, rwy’n credu ei fod yn newid gwych”.

Meddai Jess Evans, myfyrwraig Anthropoleg gyda Seicoleg Gymhwysol ar ei blwyddyn gyntaf, “Mae’r system floc yn wych mewn sawl ffordd, yn enwedig peidio â gorfod sefyll arholiadau. Rwy’n gwybod fy mod i a nifer o fyfyrwyr eraill yn cael trafferth mawr gydag arholiadau ac yn fy marn i dydyn nhw ddim yn brawf da iawn o ddealltwriaeth person o bwnc.

“Yn ogystal mae cryn dipyn o hyblygrwydd gyda’r system floc, felly mae bob amser yn ddefnyddiol gallu ail-drefnu sesiynau... At ei gilydd rwy’n meddwl bod y system floc yn wych.” 

Dywedodd y fyfyrwraig Anthropoleg flwyddyn gyntaf, Jess Evans: “Mae’r system bloc yn wych mewn sawl ffordd, yn arbennig gan nad oes rhaid inni sefyll arholiadau.  Rwy’n gwybod mod i a nifer o fyfyrwyr eraill yn cael trafferth gydag arholiadau a dydw i ddim yn credu eu bod yn brawf da o ddealltwriaeth person o bwnc. 

“Mae hefyd cryn dipyn o hyblygrwydd gyda’r bloc ac mae cael ail-drefnu bob amser yn hwylus . . . Ar y cyfan rwy’n credu bod y bloc yn grêt!.” 

Dywed Susan Fullwood, myfyrwraig aeddfed o Halesowen ger Birmingham: “Y system bloc oedd yr hyn a werthodd Llambed i mi. Roedd y cyfle i astudio ac ymgolli mewn un pwnc ar y tro yn berffaith, yn enwedig i mi, myfyriwr hŷn yn dychwelyd i fyd addysg. Ac i fod yn deg, mae'r darlithwyr a'r gefnogaeth wedi bod yn wych; mae’r wybodaeth a chynnwys y modiwl wedi bod yn ddwys, addysgiadol ac chryno. Mantais arall y bloc yw'r gallu i weld cynnydd, gydag aseiniadau'n cael eu cwblhau a chanlyniadau'n cael eu dychwelyd o fewn amserlen benodol cyn cymryd y bloc nesaf o fodiwlau a drefnwyd. "