Dwynwen: nawddsantes cariadon Cymru


25.01.2019

Pan mae saethau Ciwpid yn pigo, at bwy ddylech chi droi i gael cyngor a chysur? Wel at santes y cariadon, siŵr iawn, sef Santes Dwynwen sydd â’i heglwys ar Ynys Llanddwyn ar gyrion Môn.

Santes Dwynwen

Hi yw nawddsantes y cariadon Cymreig, ac mae ei dydd gŵyl yn cael ei ddathlu ar 25 Ionawr. Dros y canrifoedd mae tipyn o bawb wedi gofyn am ei help, gan gynnwys Dafydd ap Gwilym ei hun, pan oedd yn ei chael hi’n anodd denu Morfudd i fod yn gariad iddo.

Roedd Dwynwen yn ferch o Frycheiniog. Roedd hi’n un o ferched Brychan Brycheiniog, ac mae rhai yn dweud bod gan hwnnw o leiaf ddau ddwsin o blant, cymaint â 36 o blant yn ôl eraill, a bod ei ferched i gyd yn hardd. Roedd Dwynwen yn hynod o dlws, ac yn hynod ddymunol o ran personoliaeth. Does ryfedd yn y byd felly fod Maelon Dafodrull wedi syrthio mewn cariad â hi. Ond doedd ei thad hi, Brychan, ddim yn fodlon iddi briodi Maelon. Er i’r ddau erfyn arno roi ei fendith arnyn nhw i briodi, gwrthododd. Roedd Dwynwen mewn dipyn o gyfyng gyngor: a fyddai’n well iddi ddilyn ei greddf a phriodi Maelon a thrwy wneud hynny anufuddhau a gwrthryfela yn erbyn ei thad? Neu a fyddai’n well iddi wrando ar ei gyngor?

Wnaeth hi ddim croesi ei thad! Gwrthododd Dwynwen briodi Maelon, ac am ei bod hi wedi gwrthod ei briodi mae rhai fersiynau ar y stori yn dweud bod Maelon wedi ei threisio hi. Yn sicr, fe aeth Maelon yn ôl i’w gartref yn y gogledd. Roedd Dwynwen mor drist, fe ofynnodd i Dduw wneud iddi hi anghofio am Maelon, a rhewi eu cariad nhw; a dyna ddigwyddodd, cafodd Maelon ei droi’n ddarn o rew.

Gweddïodd Dwynwen eto ar Dduw, a chafodd dri dymuniad ganddo, sef bod Maelon yn cael ei ddadrewi, ei bod hi’n cael ei hurddo’n santes y cariadon, a’i bod hi’n cael byw yn ddibriod (ac mae’n mynd yn lleian).

Am ei bod hi wedi dioddef fel hyn mae Dwynwen yn ddelfrydol ar gyfer cynghori cariadon ym mhob oes ynghylch eu problemau carwriaethol hwythau. Ac felly i Ynys Llanddwyn y bydd pawb sydd â’i galon yn brudd yn mynd er mwyn cael ei adnewyddu.

Roedd y cywyddwyr yn sôn yn yr Oesoedd Canol am yr holl bobol oedd yn croesi i Fôn o’r tir mawr, mewn cychod bregus, ganol gaeaf a’r gwynt yn chwipio’r tonnau, i ymgynghori hefo Dwynwen. Mae eglwys fach wedi’i chysegru iddi ar Ynys Llanddwyn, a ffynnon hefyd, ac roedd yr hen bererinion yn  cynnau cannwyll, yn offrymu gweddi, ac yn gadael anrheg i gydnabod yr help a gawsant gan y santes. Dim rhyfedd felly fod prebendiaid Llanddwyn yn yr Oesedd Canol yn gyfoethog dros ben!

000RhiannonIfans

Mae Dr Rhiannon Ifans yn Gymrawd Dyson yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol yw ei phrif faes ymchwil. Mae ei diddordebau ymchwil eraill yn cynnwys bywyd a diwylliant gwerin Cymru, carolau, baledi a’r theatr Gymraeg, yn enwedig anterliwtiau’r ddeunawfed ganrif. A hithau’n awdur llyfrau i blant ac wedi’i gwobrwyo am ei gwaith, mae’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn cynadleddau a gwyliau rhyngwladol, mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn olygydd y cylchgrawn blynyddol Canu Gwerin / Folk Song.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 01267 676663