Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn perfformio yn sioe Nadolig y Bandiau Mawr yng Nghaerdydd
09.12.2019
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd fydd y lle i fod nos Sadwrn nesa, 14 Rhagfyr wrth i fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ynghyd â Band Mawr Rhys Taylor berfformio yn Neuadd Hoddinott y BBC.
Yn ystod Nadolig Big Band Christmas caiff y gynulleidfa wledd o adloniant anhygoel gyda pherfformiadau gan fyfyrwyr talentog y Brifysgol. Mae’n argoeli bod yn noson i’w chofio ac yn sicr o fod yn ddechreuad gwych i ddathliadau'r Nadolig.
Mae myfyrwyr o amrywiaeth o raglenni gradd Y Drindod Dewi Sant – gan gynnwys y rhai sy’n astudio BA Theatr Gerdd (Musical Theatre), y BA Perfformio cyfrwng Cymraeg; MA Theatr Gerdd (Musical Theatre) a’r MA Theatr cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd– wedi gweithio’n ddiflino i roi’r noson anhygoel hon at ei gilydd.
Digwyddiad dwyieithog yw hwn a bydd yn cynnwys yr hen ffefrynnau Nadoligaidd megis Rockin’ around the Christmas Tree a Joy to the World.
Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y cynhyrchiad yn edrych ymlaen fawr at berfformio.
“Rwy’n methu ag aros nes i’r cyhoedd weld y sioe arbennig rydyn ni wedi ei pharatoi, sy’n arddangos ein talent,” meddai Georgia Picton, myfyrwraig MA Theatr Gerdd yn Y Drindod Dewi Sant, Caerdydd. “Mae rhywbeth i bawb; yn braf i’r teulu a rhywbeth heb os i’ch rhoi chi yn hwyl a miri’r Nadolig – byddai’n drueni i chi golli!”
Cynhelir Nadolig Big Band Christmas Nos Sadwrn 14 Rhagfyr am 7.30p.m. yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
I archebu tocynnau, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2019/nadolig-big-band-christmas/