Sound and Weave - Yn dod i Abertawe 9 - 31 Mawrth yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant
01.02.2019
Mae’n bleser mawr gan Goleg Celf Abertawe, yn y Drindod Dewi Sant, groesawu Sound and Weave - arddangosfa arloesol sy’n archwilio’r cysyniad o sain, gan ymestyn gorwelion tapestri wedi’i wehyddu i ffwrdd oddi wrth y ddogfen hanesyddol ddau ddimensiwn tuag at ddull amlddisgyblaethol, llawn dychymyg.
Mae’r pwyslais ar sain a dynoliaeth a phrosesau mewnol y meddwl a’r corff wrth ymateb i sain a rhythm.
Mae’r dehongliadau o’r thema’n cynnwys archwilio lleisiau dynol mewn gwrthdaro rhyngwladol, dialogau wedi’u mewnoli a rhwng cenedlaethau, ac ystumio sain drwy heneiddio, anabledd, pellter neu gamganfyddiad.
Meddai Caroline Thraves, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Cain a Chyfryngol: “Rydym ni’n falch iawn o groesawu’r arddangosfa gyffrous hon sy’n dod â disgyblaethau sain a thecstilau at ei gilydd. Mae’r arddangosfa hon yn ategu’r dulliau rhyngddisgyblaethol mae ein myfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, yn y Drindod Dewi Sant, yn eu defnyddio yn eu hastudiaethau”.
Mae’r arddangosfa i’w gweld yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant, Cyntedd Adeilad Dinefwr, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3EU. Mae hefyd yn cynnwys gosodwaith yn Theatr Volcano, Adeilad Iceland, Stryd Fawr, Abertawe.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk