SUT I FYND ATI I DDYSGU’N ENTREPRENEURAIDD; PAM EI FOD E’N BWYSIG A BETH I’W WNEUD
12.11.2019
Mae'r ysgolhaig rhyngwladol ac Athro Gwadd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Dr Colin Jones, wedi rhoi sgwrs ar ddysgu entrepreneuraidd arloesol mewn digwyddiad DPP o’r enw ‘Sut i fynd ati i ddysgu’n entrepreneuraidd; pam ei fod e’n bwysig a beth i’w wneud - How to of Entrepreneurial Learning; why it matters and what to do’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae Dr Jones, yn arbenigwr ar lwyddiant myfyrwyr ac yn Brif Gymrawd yr AAU / AdvanceHE. Roedd ei brif anerchiad yn trafod ffyrdd arloesol o gyflwyno dysgu entrepreneuraidd ar draws pob disgyblaeth. Roedd yn diffinio’r dulliau mae’n eu defnyddio ac yn egluro pam, mewn byd sy’n newid yn gyson, y gall myfyrwyr nad oes ganddynt y cymwyseddau hyn ei chael hi’n anoddach i lwyddo.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe, ac roedd ync ael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ei ddilyn gan nifer o siaradwyr enwog, gan gynnwys Pecha Kucha, a wnaeth arddangos mentrau o bob rhan o Gymru, a Carys Roberts Cyfarwyddwr Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, a a gyflwynodd sgwrs o’r enw; ‘y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – the past, the present and the future’.
Arweiniodd yr Athro Emeritws PCYDDS Andy Penaluna ar drafodaeth ar Safbwyntiau’r DU – Symud yr Agenda ymlaen. Mae’n bleser mawr gan PCYDDS nodi’r cyfraniad sylweddol a wnaed gan Athro Emeritws PCYDDS, Andy Penaluna, wrth lansio’r Fframwaith Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth newydd.
Wedi’i seilio ar ddiffiniadau penodol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (Quality Assurance Agency – QAA) ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth, a’i gychwyn gan yr Athro Penaluna (QAA) a Stuart Norton (Advance HE), mae’r cyfarwyddyd newydd hwn yn fenter a rennir gan Advance HE, EEUK, IOEE, ISBE, SFEDI a’r QAA.
Y cyntaf o gyfresi newydd o fframweithiau a elwir ‘Fframweithiau Hanfodol ar gyfer Cyfoethogi Llwyddiant Myfyrwyr - Essential Frameworks for Enhancing Student Success’; ei hamcan yw hysbysu a chynorthwyo addysgwyr a sefydliadau sydd am ychwanegu gwerth at deithiau eu dysgwyr, pe bai hynny ar gyfer dechrau (#Entrepreneuriaeth) neu baratoi ar gyfer gwaith a arweinir gan #Entrepreneuriaeth. Bydd hwn yn feincnod ar gyfer cefnogi adfyfyrio ar y ddarpariaeth bresennol, yn ogystal ag annog ac ysbrydoli adolygiadau a dilysiadau rhaglenni.
Meddai Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fenter: “Mae’r ddogfen hon yn garreg filltir go iawn, a thrwy ddod a phrif chwaraewyr addysg uwch a busnes at ei gilydd, mae’n darparu cyfarwyddyd adeiladol clir ar gyfer addysgwyr ac arweinwyr addysg. O hyn ymlaen, gall unrhyw un sydd am fod yn Gymrawd AdvanceHE ar
sail ei ddulliau entrepreneuraidd ddefnyddio’r cyfarwyddyd hwn i’w helpu gyda’i gais. Nid oes unrhyw wlad arall wedi cyrraedd y math consensws; dyma’r cyntaf yn y byd.
Bydd y siaradwyr eraill yn cynnwys Elin McCallum o Bantani Education, a wnaiff roi sgwrs ar ‘Gwersi o Ewrop – Lessons from Europe’, ac Andy Goodman o Enterprise by Design.