Y DRINDOD DEWI SANT I GYNNAL EI FFAIR NADOLIG YN LLAMBED
11.11.2019
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal ei Ffair Nadolig flynyddol ar gampws Llambed yr hwyrach y mis hwn.
Ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd, bydd crefftwyr, cynhyrchwyr bwyd ac artistiaid o bob cwr o orllewin Cymru yn Llambed i werthu eu cynnyrch yn yr ŵyl.
Mae'r digwyddiad yn agored i'r gymuned gyfan gyda Siôn Corn yn gwneud ymddangosiad arbennig ar gyfer y plant.
Mae’r Ffair yn dechrau ganol dydd ac eleni Maer Llanbedr Pont Steffan, y Cyng. Rob Phillips, fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Ffair Nadolig eleni - mae'n addo bod yn ddigwyddiad cymunedol arbennig unwaith eto,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed.
“Bellach mae Ffair Nadolig Llambed wedi ennill ei phlwyf yng nghalendr y Brifysgol ac mae’n gyfle ardderchog i ddod â staff a myfyrwyr yn ogystal â channoedd o ymwelwyr o’r ardal leol at ei gilydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i fwynhau awyrgylch Nadoligaidd hyfryd ac i gefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol. Mae bob amser yn werth cofio y gall penderfyniadau bychain wrth brynu eich nwyddau gael effaith fawr ar ein cymuned leol; mae punt sy’n cael ei gwario yn lleol yn mynd ymhellach o lawer nag un a werir mewn archfarchnad neu mewn siop gadwyn ar y stryd fawr.”
Yn ystod y digwyddiad, bydd Côr Cwmann yn difyrru’r ymwelwyr a bydd hefyd cyfle i godi arian ar gyfer elusennau lleol trwy gymryd rhan yn y raffl. Os ydych chi’n gynhyrchydd lleol sydd â diddordeb mewn archebu stondin yn y ffair, cysylltwch â lampeterevents@uwtsd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 01267 676663