Annog pobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth cymorth canser pandemig
03.03.2021
Mae pobl yng Nghymru sydd â chanser yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaeth a fydd yn archwilio i’w profiadau yn ystod y pandemig Covid-19. Ei nod yw deall pa gymorth seicogymdeithasol y maent wedi gallu ei gyrchu a pha gymorth pellach y mae arnynt ei angen.
Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan Zoe Cooke, myfyriwr PhD yn adran Seicoleg a Chwnsela Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn Abertawe, mewn cydweithrediad ag elusen canser Tenovus Cancer Care. Mae’r astudiaeth yn rhan o PhD Zoe ac fe fydd yn cael ei defnyddio gan Tenovus a sefydliadau cymorth canser eraill yn sail i’r cymorth a ddarperir ganddynt yn y dyfodol.
Gall pobl gymryd rhan yn yr astudiaeth mewn dwy ffordd: drwy lenwi’r arolwg ar-lein a/neu drwy gael cyfweliad gan Zoe i roi mewnwelediad manylach i’w profiadau.
Daeth y prosiect i fodolaeth drwy waith parhaus Zoe gyda Tenovus Cancer Care i wella ei becyn cymorth gwerthuso sy’n ei helpu i ddeall sut y mae ei wasanaethau’n helpu pobl gyda chanser. Gyda dechreuad Covid-19, gwelodd Zoe a Tenovus gyfle i ddeall a gwella profiadau pobl sy’n byw gyda chanser yn ystod y pandemig.
Mae Zoe wedi gweithio gydag adran Cyfrifiadura Cymhwysol y brifysgol i ddyfeisio’r astudiaeth, ac fe adeiladodd Vindico, cwmni meddalwedd, y rhyngwyneb ar gyfer yr holiadur.
Meddai: “Rydw i’n awyddus i annog unigolion sy’n byw gyda chanser yng Nghymru i gymryd rhan a rhannu eu profiadau fel y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu eraill.”
Dywedodd Zoe ei bod eisiau diolch i adrannau Seicoleg a Chwnsela a Chyfrifiadura Cymhwysol Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â Vindico a Tenovus am eu cymorth gyda’r prosiect.
“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’m goruchwylydd Dr Ceri Phelps,” ychwanegodd Zoe. “Mae gwneud PhD yn ystod pandemig wedi bod yn galed ac mae ei brwdfrydedd am y maes ymchwil hwn wedi tanio brwdfrydedd ynof innau dros y blynyddoedd. Heb ei chymorth dydw i ddim yn meddwl y buaswn i’n gwneud mor dda nac wedi dod o hyd i ffordd i ddefnyddio’r pandemig i weld sut i roi cymorth pellach i bobl gyda chanser.
Ychwanegodd goruchwylydd Zoe, sef Dr Ceri Phelps, Cyfarwyddwr Seicoleg a Chwnsela yn Y Drindod a Seicolegydd Iechyd cofrestredig:
“Mae’n wych cael y cyfle i weithio gyda Tenovus a helpu i ddefnyddio PhD Zoe fel modd o helpu i adnabod y ffordd orau i gefnogi pobl sy’n straffaglu gyda heriau ychwanegol byw gyda chanser yng Nghymru yn ystod y pandemig presennol.”
Meddai Dr Tim Banks, Arweinydd Mewnwelediad, Tenovus Cancer Care: "Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar lawer o elusennau. Ym maes canser, ni fu mwy o angen gwasanaethau cymorth na nawr, ac mae incwm wedi’i gwtogi’n ddifrifol o ganlyniad i gyfyngiadau ar weithgarwch codi arian. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Zoe sydd wedi gallu addasu ei PhD, gan weithio’n galed i sicrhau ei fod yn cael effaith fwy fyth i’n hysbysu wrth i ni ailadeiladu, addasu, a datblygu yn sgil effeithiau parhaus y pandemig. Rydym wir yn annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud.”
Dyma’r ddolen i’r arolwg ar-lein: https://uwtsdyrathrofa.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_9Lxn96pCMbWSSzj
Gall unrhyw un sy’n fodlon cael cyfweliad gysylltu â Zoe drwy anfon e-bost i: zoe.cooke@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk