ATiC a CBM Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu ymchwil arloesol, arbenigedd yn dylunio ac offer i gefnogi ymateb GIG Cymru i Covid-19
06.04.2020
Mae canolfannau ymchwil a dylunio arloesol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Cymru yn darparu cymorth dwys ar gyfer consortiwm newydd – SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru) yn ei genhadaeth i gefnogi ymateb GIG Cymru i Covid-19.
Roger Evans sy’n cadeirio SWARM a chyd-sylfaenydd TechHub Abertawe, Paul Harwood, sy’n ei redeg, ac mae’n adrodd yn uniongyrchol wrth Ddiwydiant Cymru.
Wrth i'r argyfwng ddwysáu mae'r GIG yn ne Cymru yn trin nifer gynyddol o gleifion mewn Ymateb i Covid-19 ac mae angen cyflenwadau ychwanegol mewn meysydd allweddol megis peiriannau anadlu cleifion a chyfarpar diogelu personol staff (PPE). Sefydlwyd SWARM i gydlynu gallu diwydiant, gweithgynhyrchu a dylunio, yn ne Cymru, i gefnogi cadwyn gyflenwi'r GIG.
Wrth lansio eu hymgyrch gyntaf, i gyflenwi math penodol o fasg amddiffynnol, sef masgiau FP3 a misyrnau wyneb amddiffynnol, meddai Paul Harwood o SWARM: "Ydych chi'n gwmni sydd â masgiau FP3 sy'n gallu mynd i'n hysbytai? Ydych chi'n ddylunydd sydd â syniad gwych ar gyfer miswrn amddiffynnol ac sy’n gallu gwneud a rhoi rhai? Os ydych, hoffem ni glywed gennych. Gall SWARM gydlynu eich syniadau, cyflenwadau a rhoddion a sicrhau eu bod yn mynd yn ddiogel ac yn effeithlon i’r GIG i helpu. Ewch i'n tudalen we a chofrestru eich rhodd, byddwn yn cysylltu eich cynigion o gymorth â'r Byrddau Iechyd ac yn rhoi cychwyn ar bethau."
Mae tîm ymroddedig o Ddylunwyr a Pheirianwyr o ATiC (Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol) a CBM (Canolfan Gweithgynhyrchu Swp) yn Y Drindod Dewi Sant yn gweithio’n ddi-baid ar nifer p brosiectau hanfodol i gefnogi darpariaeth rheng flaen y GIG. Mae'r Brifysgol hefyd wedi trefnu bod ei Hacademi Gweithgynhyrchu Uwch ar gael wrth gefn i ddarparu pa gymorth bynnag sydd ei angen.
Meddai’r Athro Ian Walsh, Cyfarwyddwr ATiC: "Yn wyneb yr argyfwng byd-eang digynsail hwn, rwy'n falch bod fy nghydweithwyr wedi ateb yr her o gefnogi ein GIG drwy ddarparu cymorth hanfodol mewn ffordd uniongyrchol a chyflym. Mae ATiC yn rhan o Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae ganddo hanes amlwg o gyflawni gwaith ymchwil a datblygu sy’n seiliedig ar ymarfer i gefnogi cwmnïau meddygol ac elusennau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Rydyn ni’n manteisio ar y profiad hwn i ddarparu'r holl gymorth y mae ar SWARM ei angen."
Meddai’r Athro Robert Brown, Cyfarwyddwr CBM Cymru: "Y brif her sy'n wynebu sector gweithgynhyrchu Cymru yw ysgogi'n gyflym ac yn effeithlon i ddiwallu anghenion brys y sefyllfa. Mae hwn yn argyfwng unigryw a rhaid inni weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r cyfarpar cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir i gefnogi arwyr ein GIG. Dyma pam mae gwaith SWARM a diwydiant Cymru mor hanfodol."
Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: "Mae'r Brifysgol yn falch ein bod ni'n gallu cynnig gwasanaethau ein timau ymchwil a dylunio arloesol yn ystod y cyfnod digynsail hwn i gefnogi ymateb COVID-19 GIG Cymru. Mae'r rhain yn glymbleidiau grymus sy'n gwneud gwahaniaeth, sef nod sydd wrth galon strategaeth arloesi'r Brifysgol. Ni fu hyn erioed mor bwysig ag ydyw yn y cyd-destun hwn o rymuso eraill a chynnig cymorth, gyda gwydnwch a lles personol yn ganolog i'n penderfyniadau."
APÊL SWARM AM FASGIAU
Os oes gennych unrhyw nifer o fygydau FP3, hoffai SWARM glywed gennych. Gall SWARM gasglu eich gwybodaeth ar ei linell gymorth 01792 277217, drwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol @SWARMCovid19, ar-lein neu drwy’r e-bost a'i drosglwyddo i GIG Cymru.
Nodyn i'r Golygydd
ATiC (Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol)
Mae ATiC yn rhan o Accelerate, sef rhaglen £24m, a lansiwyd ac a arweinir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae sbardun yn helpu i droi syniadau arloesol yn dechnoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal, yn gyflym, gan helpu mentrau i droi eu syniadau arloesol yn atebion.
Wedi'i ariannu ar y cyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'r Byrddau Iechyd, nod pennaf Accelerate yw creu gwerth economaidd parhaol yng Nghymru.
CBM Cymru – Y Ganolfan Gweithgynhyrchu Swp Uwch
Mae'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Swp Uwch (CBM), a sefydlwyd gan Y Drindod Dewi Sant, yn elfen graidd o ddatblygiad newydd SA1 Glannau Abertawe y Brifysgol, gan sbarduno arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ymysg cwmnïau sy'n datblygu cynnyrch newydd a gweithgynhyrchu cyfaint isel.
Mae CBM yn gyfleuster ymchwil uwch sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, datblygu cynnyrch newydd, a gweithgynhyrchu swp. Caiff ei arlwy unigryw ei ddarparu drwy dîm datblygu profiadol, gan ddefnyddio'r llwyfan technoleg ddiweddaraf sy'n cynnwys argraffu 3D, sganio a gweithgynhyrchu cyfaint isel.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk