Beth nesa’ ar gyfer ysgolion Cymru?


21.05.2020

Gyda'r drafodaeth am ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgol i’w gweld a’i chlywed ar y cyfryngau yn barhaus, mae Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu ysgolion, athrawon a'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Gareth Evans

Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn yr hyn sydd bellach yn draddodiad wythnosol, mae Cymru a gweddill y DU yn dod at ei gilydd bob nos Iau i Guro Dwylo i’n Gofalwyr.

Teyrnged fach ond ddiffuant i’r rheini sy’n gweithio i’n cadw ni’n fyw ac yn ddiogel rhag salwch difrifol.

Ond i ryw raddau, yr unig reswm mae’r frwydr arwrol yn erbyn coronafeirws yn bosibl yw oherwydd ein system addysg.

Mae ysgolion wedi parhau’n agored drwy gydol y pandemig, i ofalu am blant gweithwyr allweddol.

Hebddyn nhw, byddai ein GIG wedi methu.

Athrawon, arweinwyr; cogyddion a glanhawyr; beth bynnag eu rôl, mae staff yr ysgol wedi cadw’r olwynion i droi.

Maen nhw wedi gwneud galwadau fideo dyddiol ac ysgrifennu negeseuon o obaith ac anogaeth i ddisgyblion pryderus.

Maen nhw wedi curo ar ddrysau i sicrhau bod plant yn ymdopi, gan ddanfon wyau Pasg i godi calonnau.

Heb sôn am gynllunio, datblygu a dosbarthu offer diogelu personol.

Mae gan y bobl hyn eu teuluoedd, eu pryderon a’u gwendidau eu hunain.

Eto i gyd maen nhw’n estyn llaw, nid am eu bod wedi cael cyfarwyddyd i wneud, ond am eu bod yn poeni.

Peidiwch â chael eich twyllo gan y gatiau sydd dan glo a’r meysydd parcio gwag. Efallai ei bod yn wahanol, ond mae addysg yn parhau.

Mae rolau a chyfrifoldebau wedi’u hailddosbarthu, a dysgu wedi symud ar-lein.

Caiff gwaith ei osod o bell gydag adborth drwy ebost – mae strwythurau a ddilynwyd ers degawdau wedi’u torri – efallai am byth.

Cymaint yw difrifoldeb y dasg dan sylw, mae amserlennu, cynlluniau eistedd, arholiadau – cynifer o’n trefniadau sefydlog wedi’u rhoi o’r neilltu.

Dyw’r hyn mae ein gweithlu addysg wedi’i wneud, sef ailffurfio hanfod ein hysgolion pan fo ein hangen ar ei fwyaf, yn ddim llai na rhyfeddol.

Ystyriwch hefyd fod y trawsnewid o’r ystafell ddosbarth i’r cyfrifiadur wedi digwydd bron iawn dros nos.

Doedd dim amser i gynllunio, paratoi ac asesu y tro hwn.

Aiff fy meddwl yn ôl i ganol mis Mawrth, yn fuan cyn y cyfnod clo, ond ar ôl i lawer o weithleoedd gau yn barod am yr hyn oedd ar fin digwydd.

Er bod llawer yn hunanynysu, roedd ein hysgolion yn dal ar agor, yn amlach na pheidio gyda nifer fach iawn o staff.

Pan dynnodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y llen ddiarhebol i lawr, dyna pryd y bu’n rhaid i addysgu a dysgu gael ei wneud o bell.

Mae bron yn annealladwy fod ffabrig ein cymdeithas wedi’i aflonyddu i’r fath raddau, mor gyflym.

Ac wrth gwrs, cafwyd heriau sylweddol.

Mae’r gwahaniaethau eang o ran mynediad at adnoddau a chysylltedd i gefnogi dysgu ar-lein yn hynod broblematig.

Byddai asesiad bras o’r lefelau presennol o ymgysylltu’n awgrymu bod rhai’n gwneud, rhai ddim yn gwneud, a rhai’n methu â gwneud.

Rhaid canmol Llywodraeth Cymru a chydweithwyr sydd wedi gweithio’n galed i ychwanegu deunyddiau at lwyfan dysgu rhithiol Cymru, Hwb, i gefnogi plant gartref.

Fodd bynnag, dyw’r cyhoeddiad fod teclynnau addysg Microsoft Office a Google ‘ar gael i bob teulu’ ddim yn gysur o unrhyw fath i’r rheini nad ydyn nhw’n gallu mynd ar-lein yn y lle cyntaf.

Soniodd un pennaeth wrthyf i am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu yn ceisio ennyn diddordeb disgyblion sy’n rhannu ffôn symudol gyda gweddill eu teulu mewn dysgu.

Sut yn y byd gall y teuluoedd hyn ddechrau meddwl am y llond côl o adnoddau a gyhoeddir ar Hwb?

Mae croeso i’r cyllid ychwanegol i gynorthwyo dysgwyr sydd ‘wedi’u heithrio’n ddigidol’ yng Nghymru, ond does dim amheuaeth ein bod ar ei hôl hi.

Does fawr o amheuaeth mai gwneud yn iawn am yr amser a gollwyd fydd yr her fwyaf i system addysg Cymru dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Bydd rhai plant wedi cael 8 wythnos a mwy heb gyswllt â dysgu ar-lein, a does dim amheuaeth y bydd y rheini o gefndiroedd mwy difreintiedig wedi syrthio ymhellach y tu ôl i’w cymheiriaid mwy cefnog.

Mae siarad am ‘genhedlaeth goll’ yn gwbl ddilys a dylai’r bwlch cyrhaeddiad cynyddol fod yn bryder i bawb.

Pan fydd disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol, bydd angen gwerthusiad trylwyr o’u cynnydd (neu beidio) yn ystod y cyfnod clo, gyda rhaglenni dysgu’n cael eu teilwra i anghenion unigol.

Mae angen i ni ddechrau meddwl am y meysydd sydd angen y sylw mwyaf, a sut i adennill y tir a gollwyd.

Ac wrth gwrs bydd angen asesu iechyd a lles pawb yn ofalus a sensitif.

O safbwynt addysgol, os daw unrhyw dda o’r argyfwng hwn, mae athrawon wedi cael treulio mwy o amser gyda’u plant eu hunain.

Ar wahân i frecwast ac amser gwely, mae cyswllt dynol yn brin fel arfer, felly mae manteision i’r cyfnod clo.

Ond ceir cydnabyddiaeth na allwn ni fyw fel hyn am byth, ac na fydd dysgu ar-lein, cyfunol, byth yn cymryd lle agosatrwydd addysgu wyneb yn wyneb.

Mae dosbarthiadau yn y cwmwl yn well na dim dosbarthiadau o gwbl, ond does dim modd iddyn nhw ail-greu’r cyswllt personol sydd gan ddisgyblion â’u cymheiriaid.

Mae dysgu, wedi’r cyfan, yn rhywbeth cymdeithasol – a does dim rhyfedd fod cynifer o blant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd addasu i ffyrdd newydd o weithio.

Mae ysgolion yn seiliedig ar strwythurau, a heb fframwaith wedi’i gytuno ar gyfer dysgu ar-lein, mae disgyblion yn gorfod ymdopi eu hunain.

Os yw technoleg yn mynd i chwarae mwy o ran mewn addysg plant yn y dyfodol, bydd rhaid i ni ystyried y telerau, a sefydlu cynllun ar gyfer yr hyn y gall athrawon, disgyblion a rhieni ei ddisgwyl.

Hyd yma, does gennym ni ddim dealltwriaeth gyffredin o ddysgu o bell, fel sydd gennym o’r system addysg rydym ni wedi arfer â hi.

Ond sgwrs ar gyfer amser arall yw honno wrth i’n sylw droi at ailgychwyn yr economi, a gyda hynny, ailagor ein hysgolion.

Mae mwy o geir ar y ffyrdd, mwy o bobl yn mynd i’r gwaith. Chawn ni ddim mynd i lan y môr, ond am ba hyd?

Mae rhannau o gymdeithas yn aflonyddu, ac mae’r sefydliad gwleidyddol yn dechrau poeni.

Roedd dysgu gartref yn ddifyr ar y dechrau, ond mae cadw plant oddi wrth gemau cyfrifiadur, y teledu a’r holl bethau eraill sy’n tynnu eu sylw’n gynyddol heriol.

Doedd ymateb i sefyllfa fel hyn ddim am fod yn hawdd, a heb ddatrysiad amlwg, mae angen i ni greu consensws o ran beth sy’n digwydd nesaf.

Mae cyfathrebu effeithiol yn flaenoriaeth, ac mae’n anochel ein bod yn troi am arweiniad ar adeg o argyfwng at y rheini sydd â grym a chyfrifoldeb.

Ymateb cymysg ar y lleiaf sydd gan ein gwleidyddion i argyfwng coronafeirws.

Mae rhai arweinwyr gwleidyddol wedi bod yn aflonyddgar a rhwysgfawr, gydag eraill yn mwydro ac yn drwsgl.

Ond mae pob un yn gweithio ar y sail bod ysgolion yn allweddol i adfer unrhyw beth tebyg i fywyd normal.

Fodd bynnag, ceir rhywfaint o anghytuno ynghylch pryd y dylai ysgolion ddychwelyd ar sail fwy ffurfiol.

Mae pob un o lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain, yn seiliedig ar beth sy’n iawn i’w pobl nhw.

Yn naturiol, mae hyn yn gwbl briodol – a dyma hanfod yr hyn mae ein strwythurau llywodraethu gwahanol wedi’u cynllunio i’w wneud.

Ond pan fydd yr ysgolion yn agor, mae’n dod yn gynyddol amlwg na fyddan nhw’n debyg i’r hen ysgolion, ble bynnag maen nhw yn y DU.

Mae hyn wrth gwrs oherwydd y bydd coronafeirws yn dal i fod yn rhan o’n bywydau, yn y tymor byr o leiaf.

A thra bo hynny’n wir, bydd risg. Risg o haint; risg o salwch difrifol.

Er gwaethaf geiriau cynnes o gysur gan ein Gweinidog Addysg, ni all hi warantu y bydd pob ysgol yn ddiogel i bob disgybl a phob aelod o staff. Nid yw hynny o fewn ei gallu.

Y cyfan y gall ei wneud yn realistig yw lleddfu’r risgiau cyn belled â bod hynny’n bosibl, a gweithredu ar gyngor gorau’r arbenigwyr gwyddonol sydd ganddi.

Mae paratoadau ar waith yn Lloegr i ysgolion ddychwelyd ddechrau mis Mehefin. Bydd hwnt-gychwyn a llai o aelodau o staff yn gwneud ymbellhau cymdeithasol yn haws, ond ni fydd hynny’n gwaredu risg coronafeirws.

Yn y cyfamser, mae ysgolion Cymru’n aros. Does dim cynlluniau i agor i grwpiau mawr o blant ar hyn o bryd, ac mae penaethiaid wedi cael addewid o dair wythnos o rybudd am unrhyw newid ystyrlon.

Os ystyrir bod dychwelyd y mis nesaf yn rhy fuan ac nad yw er budd y boblogaeth ehangach, efallai y bydd rhaid i ni edrych yn fwy creadigol ar gyfnod gwyliau’r haf - a sut y gellir gwneud yn iawn am yr amser dysgu a gollir gan ddisgyblion.

Dydw i ddim yn awgrymu y dylai athrawon golli eu gwyliau haeddiannol – mae angen saib arnyn nhw’n sicr, yn fwy na llawer o bobl.

Ond er mwyn i’n disgyblion mwyaf anghenus gael mwy o amser yn y dosbarth, gallem ni edrych ar y posibilrwydd o ddechrau’r gwyliau ysgol yn gynt i rai grwpiau blwyddyn.

Disgyblion Blwyddyn Chwech sy’n paratoi at ysgol uwchradd, a’r rheini sy’n paratoi at TGAU a Safon Uwch fyddai’r cyntaf i gael eu galw o bosibl.

Tybed hefyd a oes rôl i brifysgolion a cholegau – oherwydd a thybio bod myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch yn gallu dysgu o bell yn well, ac felly’n llai tebygol o ruthro’n ôl at y ddarlithfa, bydd mannau dysgu arbenigol yn gorwedd yn wag ar draws y wlad.

Os nad yw ysgolion yn ddigon mawr i gynnwys y nifer dymunol o ddysgwyr, gallai fod dewisiadau amgen y gellid eu harchwilio.

Mae hyn i gyd wrth gwrs yn tybio bod disgyblion yn fodlon ac yn barod i fynd yn ôl i’r ysgol… efallai y bydd y rheini sy’n byw gyda rhieni neu neiniau a theidiau yn y categori ‘risg’ yn dewis aros gartref, a bydd nifer o athrawon yn dymuno gwneud yr un peth.

Bydd llawer ohonoch chi wedi gweld y lluniau torcalonnus o blant blynyddoedd cynnar yn Ffrainc yn eistedd ar eu pen eu hunain mewn ‘adrannau ynysu.

Sgwariau sialc ar yr iard chwarae i nodi ble gallai a ble na allai plentyn chwarae.

Mae’r syniad o gystwyo ein disgyblion lleiaf am gamu’n llythrennol o’u lle yn rhywbeth na fyddai unrhyw athro’n dymuno ei ystyried.

Beth bynnag yw’r dewisiadau, gonestrwydd yw’r polisi gorau - ac mae angen dweud yn glir wrth ein haddysgwyr, hyd yn oed os nad dyna maen nhw am ei glywed.

Hoffwn orffen drwy edrych i’r dyfodol a’r weledigaeth tymor hirach ar gyfer addysg yng Nghymru.

Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018 yn galw am adolygiad brys o’r ffordd mae ysgolion Cymru’n gweithredu.

Argymhellodd tîm dan arweiniad yr Athro Mick Waters y dylid sefydlu comisiwn i ‘ail-ddychmygu addysg’ a ‘meddwl o’r newydd sut mae addysg yn gweithio i ddisgyblion, eu teuluoedd a’u hathrawon’.

Cynullwyd panel o bump fis Gorffennaf y llynedd, ond dydw i ddim yn cofio gweld dim byd penodol yn cael ei rannu’n gyhoeddus ers hynny.

Mae’n eironig ei bod yn cymryd pandemig byd-eang i fynegiant proffwydol Waters am ail-ddychmygu addysg gael sylw.

Y gwir yw wrth gwrs fod angen i ni ail-ddychmygu cymdeithas ei hun. Rhaid ystyried beth sy’n bwysig, ein blaenoriaethau a chyfraniad pwy rydym ni’n rhoi gwerth arno.

Mae’n bryd camu’n ôl, anadlu’n ddwfn ac ailasesu beth sy’n wirioneddol bwysig.

Ac ydy, mae hynny’n cynnwys edrych eto ar ein Cwricwlwm newydd i Gymru a’r agenda diwygio ehangach.

Nid yw hynny’n golygu anghofio popeth a dechrau o’r newydd, ac efallai fod llawer o’r hyn rydym ni wedi bod yn gweithio ato yng Nghymru lawn mor gymwys, os nad yn fwy cymwys, yn yr hinsawdd bresennol.

Yn wir, wrth galon y cwricwlwm newydd, y mae ein hagenda diwygio wedi’i seilio arno, mae ymrwymiad parhaus i iechyd a lles, y daith ddysgu unigol a dyheadau uchel i bawb - elfennau y byddwn ni am eu cadw, beth bynnag yw’r amgylchiadau.

Yn ei hanfod, mae’r Cwricwlwm i Gymru’n weledigaeth o ymagwedd newydd at addysg ac mae’n anodd anghytuno â thôn a naws yr hyn sy’n amlwg yn ei ddogfen ganllaw.

Fodd bynnag, mae’r cyd-destun y lluniwyd pob polisi addysgol ynddo yn ei wneud yn agored i’w archwilio’n ofalus.

Os yw’r byd yn wir wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth, a’n bod yn tybio y bydd y system addysg y byddwn yn dychwelyd ati’n wahanol iawn i’r un a adawom ni, yna efallai y dylem dynnu llinell yn y tywod.

Mae angen i ni ein holi ein hunain beth, a beth nad yw’n berthnasol.

Beth sydd ar goll?

Ac wrth edrych yn ôl, beth allem ni wneud hebddo?

Profi torfol, atebolrwydd uchel, tâp coch a biwrocratiaeth ddiddiwedd… Mae cymaint i’w drafod a dadlau amdano, rhaid i ni beidio â cholli’r cyfle i newid y ffordd rydym ni’n gweithio’n sylfaenol.

Cafwyd gormod o ddioddef a cholled i lithro’n ôl i’n hen arferion.

A beth bynnag, gyda dirwasgiad enfawr ar ein gwarthaf, bydd rhaid i ni wneud pethau’n wahanol beth bynnag.

Bydd cyllid ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac addysg yn gyffredinol yn brin, os nad oedd yn brin eisoes.

Ond gyda her fawr daw cyfle… mae gennym ddyletswydd i’n plant a’n pobl ifanc i symud ymlaen at ddyfodol gwell, sy’n bodloni anghenion ein holl ddysgwyr, gyda’n gilydd…

Gallwch wrando ar Gareth Evans yn trafod y darn hwn fel rhan o gyfres o bodlediadau'r Brifysgol.

Gareth Evans

Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Polisi Addysg Yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle mae'n arwain y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CEPRA). Mae'r Ganolfan yn darparu llwyfan ar gyfer trafod a dadansoddi ym maes polisi addysg, gan herio normau sefydledig ac adlewyrchu'n feirniadol ar yr amgylchedd y mae addysgwyr ar bob lefel yn gweithredu ynddo.

Yn awdur toreithiog, roedd Gareth yn newyddiadurwr addysg am bron i ddeng mlynedd cyn ymuno â'r Brifysgol, ac ef yw’r unig arbenigwr i weithio ochr yn ochr â phedwar Gweinidog Addysg gwahanol yng Nghymru. Yn ogystal â dadansoddi, craffu a chyfrannu at bolisi addysg yng Nghymru, mae bellach yn gweithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill gan eu helpu i weithredu’r polisi hwnnw’n llwyddiannus. Mae'n arwain cyfraniad y Brifysgol i’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol a luniwyd i gynorthwyo athrawon i ddod yn ymholwyr proffesiynol, ac mae'n sylwebydd rheolaidd yn y cyfryngau print a darlledu cenedlaethol.

Mae llyfr Gareth, A Class Apart: Learning the Lessons of Education in Post-Devolution Wales, yn olrhain llwyddiant a methiant polisi addysg yng Nghymru ers datganoli ac fe'i canmolwyd yn fawr gan y beirniaid adeg ei gyhoeddi yn 2015.  Mae ei waith ymchwil ar hyn o bryd yn ymwneud ag atebolrwydd mewn addysg a rhythm y diwrnod ysgol.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk