Caplan YDDS Abertawe yn darparu cymorth, cyfeillgarwch ac arweiniad i fyfyrwyr
22.08.2020
Mae’r Parchedig Sam Aldred, sy’n gweithio ar gampysau’r Brifysgol yn Abertawe, ar gael i ddarparu cymorth, cyfeillgarwch ac arweiniad i fyfyrwyr.
Pan nad yw’n cynorthwyo myfyrwyr, mae Sam yn gweithio fel curad yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Abertawe. Yma ac yn y brifysgol mae’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc ddod at ei gilydd i sgwrsio. Yn dilyn yr hwyrol weddi yn Eglwys y Santes Fair, a fynychir gan rai o fyfyrwyr y brifysgol, mae’n arferiad mynd allan i dafarn. Mae gweithgareddau eraill a fynychir gan fyfyrwyr yn cynnwys teithiau cerdded rheolaidd mewn grwpiau ar Benrhyn Gŵyr.
“Rydyn ni’n mynd allan am dro ac yn cynnal gwasanaeth yn yr awyr agored gan alw heibio tafarn am ginio,” meddai Sam. “Mae hyn yn ymwneud â chreu cymuned ddilys lle mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd – dyna rwy’n ceisio ei wneud gyda’r gaplaniaeth mewn ffordd fach.”
Yn ei rôl yn y gaplaniaeth mae Sam hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ar ddyddiadau allweddol megis dydd Mawrth Ynyd, pan roddodd i ffwrdd tua 150 o grempogau, a’r Nadolig, pan gynhaliodd wasanaeth carolau. Fel arfer yn dilyn y digwyddiadau hyn cynhelir achlysur cymdeithasol anffurfiol sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddod i adnabod Sam a hefyd ei gilydd. Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i drefnu sesiynau rheolaidd gyda Sam.
“Ar y naill law mae’n ymwneud yn syml â bod yno i siarad â phobl,” meddai Sam. “Gyda’r glerigiaeth mae pobl yn gallu siarad am y cwestiynau athronyddol mawr ynghylch ‘pam rydyn ni yma’. Gallwn hefyd gysylltu pobl â chymunedau sy’n addoli.”
Ymddangosodd Sam ac un o fyfyrwyr y brifysgol, Katie Goodall, ar y rhaglen All Things Considered ar Radio 4 ar Orffennaf 19 i drafod unigrwydd myfyrwyr. Mae hwn yn un o nifer o faterion y gall caplan prifysgol helpu gyda nhw, gan ddarparu math unigryw o gymorth ac arweiniad sy’n wahanol i fathau eraill o gymorth megis cwnsela.
I Katie, roedd Sam yn ffynhonnell allweddol o gymorth ac arweiniad a helpodd hi i ddod o hyd i eglwys.
“Roedd Sam yn rhywun oedd yn gwrando – ond nid cwnselydd neu diwtor; roedd yn bwysig cael rhywun y tu allan i’r maes hwnnw i siarad ag ef.”
Yn ogystal derbyniodd arweiniad gwerthfawr fel Cristion newydd.
“Sam oedd y person perffaith i allu gofyn cwestiynau iddo. Roedd yn ffeind ac yn agored iawn, ac yn rhywun oedd yn gwybod am beth oedd e’n sôn.”
Teimla Sam a Katie fod unigrwydd myfyrwyr yn fater sy’n cael ei ddiystyru’n aml am fod pobl yn dychmygu bod myfyrwyr yn byw bywydau cymdeithasol bywiog. I Katie, roedd mynd adref yn ystod y cyfnod clo yn fater allweddol, gan iddi gael ei gwahanu oddi wrth ei ffrindiau yn y brifysgol.
“Mae llawer o bobl ifanc yn cael eu diwreiddio o unrhyw ymdeimlad o gymuned pan fyddant yn dod i’r brifysgol”, meddai Sam. “Mae myfyrwyr yn aml iawn wedi’u hamgylchynu gan filoedd o bobl o’r un oed â nhw, felly nid ydynt ar eu pen eu hunain yn gorfforol ond eto gallant weithiau deimlo’n ynysig ac ar goll. Gallwch fod mewn ystafell ddarlithio neu ar Stryd y Gwynt a chael ymdeimlad dirfodol o fod yn unig – ac mae’n hyfrydwch gallu cynnig ymateb Cristnogol i hynny. Dywedaf wrth bobl am y ffordd, llwybr sydd wedi’i droedio gan filiynau o bobl o’u blaenau, sydd ar gael i unrhyw un sydd am ymuno waeth beth fo’u hil neu’u rhyw, cymuned o bobl sy’n dod at ei gilydd ar gyfer rhywbeth mwy na nhw eu hunain.
Mae Sam yn falch iawn i fod ar gael i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant, boed hynny drwy helpu myfyrwyr i ddod o hyd i grŵp addoli sy’n addas iddynt, neu fod yn glust i wrando ar bobl sy’n gofyn rhai o gwestiynau mwyaf bywyd.
“Mae’n fraint i gwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd a gallu siarad â nhw am y cwestiynau mawr,” meddai. “Mewn byd lle nad yw pobl yn siarad yn aml, ond yn gweiddi ar ei gilydd, mae’n bwysig ceisio ymgysylltu go iawn â phobl.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk