Croesffordd Covid-19.


01.07.2020

A ninnau’n sefyll ar groesffordd wedi cyfnod hir o ymynysu, mae Mererid Hopwood, Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ystyried yr her o ddewis y llwybr sy’n arwain at roi seiliau i gymdeithas decach. Y man lle’r ry’n ni’n rhannu dŵr a ffrwythau’r ddaear rhyngom: cydrannu a chyfrannu; y man lle mae dealltwriaeth rhyngom: cyd-ddealltwriaeth; y man lle mae tangnefedd rhyngom: y cyd-fyd - y byd i bawb.

Yr Athro / Professor Mererid Hopwood

Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yng nghynhadledd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng Nghaergrawnt Medi 2018, y pwnc dan sylw oedd: Moeseg Ffyniant Cynaladwy i Bawb.  Bryd hynny roedd gen i ugain munud dda i’w llenwi mewn sgwrs wedi swper yn neuadd hynafol Coleg Magdalen. Mae’r rashons y tro hwn rywfaint yn llai. A dydw i ddim mewn neuadd fawr ond yn hytrach, yma, adre, rhwng cyfyng furiau fy stydi. Eto, mae fy safbwynt yn aros, a’r cwtogi amser efallai’n arwyddocaol. Oherwydd ugain mis yn ddiweddarach, a haint maint diferion mân wedi ein gorfodi ni i edrych ar yr hyn yr oeddem yn ei weld eisoes ond a oedd yn rhy anghyfleus i ni ei gydnabod,  rydyn ni’n sefyll ar groesffordd a’r dewis yn galw. ‘Build Back Better’ medd y slogan. Dim diolch Nid os yw hynny’n golygu parhau ar yr un hen drac. Neu o leiaf, os ‘build back’ mae’n rhaid i’r ‘back’ fynd yn ôl yn go bell. Yn ôl i ryw amser, os oedd amser, lle’r oedd seiliau cymdeithas wedi eu codi ar werthoedd fyddai’n mesur ei llwyddiant nid yn ôl twf economaidd - ffyniant ariannol i rai, tlodi a thlodi eithafol i’r gweddill - ond yn ôl pa mor heddychlon ac iachus yr oedd hi ar bawb.

Y cais yng Nghaergrawnt oedd imi rannu meddyliau am ‘Wales and Peace’, o ddyfynnu’r ebost.

Fel pawb a wêl y byd drwy feddwl sy’n gartref i fwy nag un iaith, yn yr ‘mmmmmmm’ a ddilynodd wrth i mi ystyried yn ddyfnach, switshodd y cod yn fy mhen o ‘Wales and Peace’ i ‘Cymru a … wel, beth’? Oherwydd mae gyda ni ddau air am ‘peace’. ‘Heddwch’ a ‘Thangnefedd’. Y ddau’n gymeradwy; heddwch yn fwy amlwg efallai, ond tangnefedd hefyd yn ddilys. Ac wrth wibio drwy lwybrau’r meddwl, dyma gofio eto nad yw’r naill air na’r llall yn union gyfystyr â ‘peace’, ddim mwy na ‘Frieden’ neu ‘Shalom’ neu ‘Síocháin’.  Dim mwy, o ran hynny, nag y mae ‘Wales’ yn golygu ‘Cymru’. Gyda ‘Wales’, fel y gwyddom, yn tarddu o’r Proto-Germaneg am ‘foreign’ a ‘Chymru’ o ‘com’ + ‘brogos’, y wlad ar y cyd.

Roedd yr ‘mmmmmmm’ yn hir.

Tybed a ddylwn i achub ar y cyfle i dynnu sylw at gymeriadau yn hanes Cymru sydd wedi ymgyrchu dros heddwch? Rhai fel Henry Richard, Aelod Seneddol Merthyr Tudful ac Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch ’nôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffigwr allweddol a ledodd y gair ‘cyflafareddu’ (‘arbitration’) o Dregaron i Lundain a Rwsia via Paris lle – a dyma’r rhan rwy’n dwlu amdano – y rhannodd lwyfan gyda Victor Hugo, awdur Les Miserables.

Cawn gyfle Awst nesaf gobeithio i edmygu cerflun yr Apostol Heddwch hwn wrth iddo fwrw’i adain dros sgwar Tregaron. A gallwch chi ddweud llawer am genedl yn ôl ei cherfluniau fel y mae’r newyddion diweddar wedi ei ddangos. Ewch i Drawsfynydd,ac ystyriwch Ellis Humphrey Evans, ‘Hedd Wyn’, yn sefyll fel bugail nid milwr. Neu beth am Garadog yn Aberdar - baton yn ei law – yn cael ei anrhydeddu nid am arwain dynion i faes gwaedlyd y gad ond am ennill yn y Crystal Palace gyda’i Gôr Mawr o 450 o leisiau.

Ond ’nôl at heddwch, beth am Richard Roberts, Blaenau Ffestiniog, cadeirydd cyfarfod cyntaf yr International Fellowship of Reconciliation - ‘reconciliation’: gair mawr arall – cymdeithas sy’n dal i fynd dros y byd, ac yn bod fel Cymdeithas y Cymod yng Nghymru? Neu’r gwrthwynebydd cydwybodol, George M Ll Davies? Neu gefnder hwnnw? David Davies Llandinam a roddodd ran o gyfoeth ei deulu i godi’r Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd a sefydlu Cadair gyntaf y byd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol? Ble? Yng ngorllewin Cymru, yn Aberystwyth â bod yn fanwl.

Beth am bobl ifanc Cymru wedyn a’u Neges Heddwch ac Ewyllys Da bob blwyddyn ers 1922 yn cyrraedd pedwar ban? Mae rôl menywod Cymru’n drawiadol. Meddyliwch amdanyn nhw’n casglu bron i 400,000 o lofnodion yn 1923 yn galw ar eu chwiorydd yn yr UDA i sicrhau bod eu gwlad yn dod yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd. Neu beth am fenywod Comin Greenham? O Gymru aeth y fintai gyntaf i’r fan honno, dros 30 mlynedd yn ôl, i sefyll dros y ffordd ddi-drais o drefnu cymdeithas ac i wfftio’r syniad gwallgof o ymarfogi niwclear.

Mynnwch gip ar raglen y gynhadledd Hanes Heddwch Cymru a’r Byd a drefnon ni fel prifysgol hefyd ym Medi 2018 ar y cyd ag aelodau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gyda ni draddodiad hir.

Ond o Gaergrawnt i Gaerfyrddin, ac os ydym ni’n hoffi brolio’r dref fel cartref Myrddin y Dewin, mae mwy o le, dybiaf i, i’w brolio fel cartref y priordy lle, o ddeutu’r flwyddyn 1250, lluniodd un mynach na ŵyr neb mo’i enw mwy, lyfr sydd bellach yn brif drysor ein Llyfrgell Genedlaethol.  Llyfr Du Caerfyrddin. Llyfr hynaf yr iaith Gymraeg.  

Ac rwy’n sôn am hwn am fod ynddo esiampl gynnar iawn o’r gair ‘tangnefedd’.  Neu o leiaf yn ei ffurf fer ‘tanc’. Yma, yn y seithfed darn daw’r ymadrodd: ‘tanc y rom ne’, (yn Saesneg rhywbeth fel ‘may peace be between us’).

Hyd y gwelaf i, mae tair nodwedd arwyddocaol arall i’r gair.

Yn y lle cyntaf, nid yw’n rhywbeth sy’n dod i fod heb ymdrech. Mae’n rhaid mynd ati’n fwriadol i’w gyrraedd: creu heddwch; ‘peacemakers’ wedi’r cyfan yw trosiad y beibl Saesneg o’r Groeg eirēnopoiós tra’n trosiad ni yw’r ‘tangnfeddwyr’.

Yn ail, o’i gyrraedd mae’n para. Nid rhyw gadoediad dros dro mo ‘tangnefedd’. Fel gwelwn ni yn llawysgrif Sant Teilo o’r 8fed ganrif lle, wedi ffrae, daw arweinwyr dau deulu at ‘dangnefedd’ a hwnnw’n dangnefedd a fydd yn aros  ‘in oes oesau’.

Ond yn drydydd, ac yn gwbl allweddol, cofiwch y dyfyniad: ‘tanc y rom ne’; y ‘rhom’ y ‘rhyngom’ yw’r peth diddorol i mi. Os yw ‘heddwch’ yn gallu bod ar ei ben ei hun, nid felly ‘tangnefedd’. Mae tangnefedd bob amser yn gofyn am ‘yr arall’, boed hynny’n dangnefedd rhyngom ni a rhywun arall, rhyngom ni a rhyw ysbryd dwyfol, neu hyd yn oed rhyngom ni a ni ein hunain: rhwng y corff a’r enaid megis.

Ac os y’n ni’n mynd i godi cymdeithas o’r newydd, cymdeithas well, gadewch i ni fod yn ddigon dewr i’w chodi hi ar gynllun y penseiri sy’n cynnig posibiliadau y rhwng.

Ymhle cawn ni’r cynlluniau?

Wel, mae un syniad da yng nghyfraith Cymru’r Oesoedd Canol lle deddfid y dylid parchu’r Big Five canlynol:  Guys a hawl ac atteb a barn a thagneued’.[1]  Mewn anghydfod, dylai pawb gael rhybudd, hawliau, cyfnod i ymateb, barn ac yna dod at gytundeb tangnefeddus – y ddwy ochr yn gadael wedi cymodi â’i gilydd. Dim anhegwch. Dim un-ochredd. Dim dal dig.

Lle arall sy’n werth twrio ynddo i gael at y cynlluniau yw potensial dwyieithog Cymru. Oherwydd mae cael dwy iaith yn rhoi tocyn uniogyrchol i ni i’r ‘rhwng’; i’r lle sy’n ymestyn mewn ac allan, sy’n cynnig posibiliadau’r gwahanol, sy’n caniatáu i ni weld y byd o berspectif yr arall. Mae addysgwyr mewn gwledydd eraill dwy- ac amlieithog yn dathlu gwerth siarad mwy nag un iaith drwy gydnabod y gallu sy’n dod yn ei sgil, sef yr hyn maen nhw’n ei ddiffinio fel ‘rhwyddineb cymhwysedd rhyngddiwylliannol’, h.y. y cymhwysedd sy’n ei gwneud hi’n haws i ni ddeall safbwyntiau sy’n wahanol i’n rhai ni, a thrwy’r cymharu a’r cyd-ddeall hwn, yn rhoi cyfle i ni gwestiynu’n safbwyntiau a’n rhagdybiaethau ni’n hunain.

Yn y man hwn, y man sydd ‘rhwng’, daw ystyr i’r geiriau anodd ond allweddol fel ‘cyflafareddu’ ac fel ‘cymodi’. Dyma ferfau anos na rhyfela, ond rhai sy’n fil gwaith mwy effeithiol.

Mae’r bras gynlluniau all rhoi seiliau newydd i ni hefyd yn 7 Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r rhain yn eu tro wedi codi o 17 Amcan Datblygu Cynaladwy’r Cenhedloedd Unedig

Mae’r 17 Amcan Datblygu Cynaladwy yn cael eu cyfleu fel arfer yn rhes o ffenestri a’r 7 Nod Llesiant fel cylch. Waeth sut rydych chi’n delweddu’r peth, erys y ffaith hon: nid oes modd cyrraedd y naill heb weithio ar y lleill. Mae pob un o’r 17 amcan clodwiw yn perthyn i’w gilydd, ac er bod rhai wedi cael mwy o sylw nag eraill, fel rhif 13: ‘gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd’, neu rif 7: ‘datblygu ynni fforddadwy a glân’, y gwir yw, waeth ar ba ddolur mae’n bys ni, bydd rhaid ystyried doluriau pawb arall hefyd os yw ein dolur ni ein hunain yn mynd i wella.

Un nad yw efallai wedi cyrraedd y penwadau’n aml yw rhif 16: ‘heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn’. Ac un o’r pethau fyddwn ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o brosiect rhyngwladol ERASMUS yw ystyried sut y gellid datblygu’r amcanion hyn o fewn Addysg Uwch.

Yn sgil hynny, mae’n destun blachder mawr ein bod ni hefyd yn cydweithio gyda phrifysgolion eraill Cymru i geisio sicrhau bod Cymru’n cael Academi Heddwch, a thrwy hynny’n sefydlu rhwydwaith all rhoi rhaglen flynyddol at ei gilydd a chanolbwyntio meddwl Cymru ar ‘heddwch’ fel nod cyraeddadwy ac nid delfryd byd y breuddwydion.

Dan nawdd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, cyfeiriad yr Academi Heddwch fydd y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd. Dyna enw arwyddocoal; hen enw ar hen adeilad, ond mae’n bryd ei ystyried o’r newydd. Allwn ni ddim cael heddwch i bawb heb iechyd i bawb heb gyfiawnder i bawb ayb.

Dewis y llwybr sy’n arwain at roi seiliau’r gymdeithas honno yn eu lle yw’r her nawr. Y man lle’r ry’n ni’n rhannu dŵr a ffrwythau’r ddaear rhyngom: cydrannu a chyfrannu; y man lle mae dealltwriaeth rhyngom: cyd-ddealltwriaeth; y man lle mae tangnefedd rhyngom: y cyd-fyd - y byd i bawb.

[1] ed A. W. Wade Evans 1909

Am wybodaeth bellach ynglŷn â rhai o gyrsiau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n gysylltiedig â chynnwys y traethawd hwn, cliciwch ar y dolenni cywsllt isod:

BA Astudiaethau Celtaidd

Rhaglenni Astudiaethau Crefyddol

Rhaglenni’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Yr Athro Mererid Hopwodd

Yn academydd amlwg ac yn fardd dylanwadol, mae’r Athro Mererid Hopwood yn bennaf yn ysgrifennu yn y Gymraeg ac mae ganddi raddau mewn iaith a llenyddiaeth Sbaeneg ac Almaeneg. Mae Mererid Hopwood wedi bod yn dysgu am ran helaeth o’r ddeng mlynedd ar hugain diwethaf ym maes iaith a llenyddiaeth, a bellach mae hi’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Yr unig fenyw i ennill y tair prif wobr am farddoniaeth a rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Mererid hefyd wedi bod yn Fardd Plant Cymru a dyfarnwyd gwobr Glyndŵr iddi am ei chyfraniad i lenyddiaeth. Enillodd ei chasgliad Nes Draw adran farddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn, 2016. 

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@pcydds.ac.uk